Anhrefn Mayhill: 'Angen amddiffyn enw da'r ardal'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion ardal yn Abertawe yn dweud bod angen amddiffyn enw da'r ardal ar ôl terfysg ar Heol Waun-Wen ym mis Mai.
Fe gafodd 37 o bobl eu harestio yn dilyn anhrefn Mayhill ond does neb, hyd yn hyn, yn wynebu cyhuddiadau troseddol.
Mae disgwyl i banel annibynnol o arbenigwyr, sydd wedi treulio'r misoedd diwethaf yn ymchwilio, adrodd yn ôl yn ystod yr wythnosau nesaf.
Saith mis yn ddiweddarach, mae trigolion yr ardal sy'n cael ei adnabod gan bobl leol fel 'The Hill' yn ceisio amddiffyn ei enw da.
Beth ddigwyddodd?
Ar 20 Mai 2021, daeth fideos i'r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn cynnau tân mewn car ac yn ei wthio i lawr yr heol.
Cafodd nifer o blismyn eu hanafu pan wnaeth grŵp o tua 100 o bobl taflu cerrig tuag atynt.
Yn sydyn iawn, fe drodd gwylnos i Ethan Powell, 19, a fu farw ddyddiau ynghynt, yn dreisgar.
Y bore canlynol, fe ddechreuodd pobl gyrraedd gydag ysgubau, fflasgiau o de, ac agwedd penderfynol eu bod eisiau gwneud rhywbeth i helpu.
Dywedodd un dyn bryd hynny: "Nid dyma'r Mayhill dwi'n ei nabod a dwi am i bobl wybod nad ydyn ni fel hyn."
Mewn ymateb i sylwadau'r dyn lleol, dywedodd Julie James AS, oedd yn helpu gwirfoddolwyr ddyddiau cyn y Nadolig i ddosbarthu hamperi i'r ardal, ei fod yn "hollol hollol gywir".
Wrth helpu yng Nghanolfan y Ffenics, Townhill, dywedodd: "Mae'r bobl o gwmpas fan hyn yn gymuned glos sy'n gofalu am ei gilydd, maen nhw'n edrych allan am ei gilydd."
Serch hynny, roedd yr Aelod o'r Senedd yn cydnabod bod digwyddiadau fis Mai diwethaf wedi synnu'r gymuned.
"Cawsom sioc fawr am beth ddigwyddodd mewn ychydig o oriau brawychus y noson honno, ond fel bob amser daeth y gymuned ynghyd ar unwaith," meddai.
"Roedd yna bobl allan gyda brwsys a phaneidiau o de a brechdanau ac roedd pobl yn cynnig gorchuddio'r ffenestri oedd wedi torri ac ati.
"Roedden nhw allan cyn i'r cyngor gyrraedd yno hyd yn oed."
Sefydlwyd panel annibynnol i ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd y noson honno ac i weld a ellir dysgu gwersi.
Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ychwanegodd Julie James AS: "Mae Llywodraeth Cymru, yr heddlu a'r cyngor wedi cael gweld yr adroddiad, a byddant yn edrych i weld beth aeth o'i le'r noson honno.
"Gallaf ddweud fod y gymuned wedi dod at ei gilydd fel erioed o'r blaen y diwrnod wedyn, ac maen nhw wedi ei gwneud eto nawr adeg y Nadolig, dyna hanfod y gymuned hon," meddai.
Roedd Sebastian, 13, yn helpu yng Nghanolfan y Ffenics hefyd. Dywedodd "nad oedd yn adnabod" yr ardal yn y fideos o 20 Mai.
"Fe gelais sioc pan weles i'r lluniau ar Facebook a'r cyfryngau cymdeithasol," dywedodd.
"Nid dyna oedd y lle rwy'n ei nabod, roedd yn wahanol iawn, oherwydd yn y gymuned mae pobol yn hapus gyda phawb yn cyfarch pawb maen nhw'n eu gweld ar y stryd.
"Do'dd y fideos ddim yn dda iawn i'w gweld," meddai.
Mae Chris Norman sy'n dod o'r ardal hefyd yn cyfaddef bod gan yr 'Hill' ei broblemau ond nid yw'n credu bod yr hyn a ddigwyddodd ar Heol Waun-Wen wir yn adlewyrchu sut le yw'r ardal.
Dywedodd: "Roedd yn ofnadwy gwylio pobl yn ymddwyn felly.
"Sai'n siŵr os oedd y peth yn gymysgedd o'r pandemig a phopeth arall, ond wyddoch chi, mae gwasanaethau ieuenctid wedi'u torri'n aruthrol dros y blynyddoedd ac mae angen mawr am hynny," ychwanegodd.
"Ond dyw e ddim yw'n adlewyrchu cymuned Mayhill mewn unrhyw ffordd, oherwydd dy'n ni ddim yn trin aelodau o'n cymuned fel 'ny.
"Felly ie, rodd e'n ddigwyddiad ynysig i raddau helaeth, ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen a dysgu ohono," meddai.
Fe gafodd y hamperi Nadolig eu dosbarthu o Ganolfan Phoenix, menter gymunedol sydd â llyfrgell, caffi a chae pob tywydd.
"Fi wedi byw 'ma ar hyd fy oes," meddai Leanne Dower, rheolwr y ganolfan.
"Dyw enw Townhill a Mayhill ddim yn grêt, mae fe'n gallu bod yn ofnadw', ond licien i annog unrhyw un i ddod yma a gweld eu hunen.
"Mae gwelliannau enfawr wedi bod yn Mayhill a Townhill dros y blynydde," meddai.
"Ro'n i'n falch o ddeffro'r bore ar ôl y terfysg am y ffordd a'th y gymuned ati i helpu ein gilydd," ychwanegodd.
"Un noson oedd honno ym mis Mai, mae pobl yn awyddus nawr i ddod drosto, a newid pethe er y gwell... Allwn ni ddim newid yr hyn ddigwyddodd, ond fe amlygodd y ffaith ein bod ni'n gymuned gref."
Mae Angharad Jenkins yn byw yn Mount Pleasant gerllaw ac mae'n gobeithio bod yr anrhefn wedi "deffro" gwleidyddion i rai o broblemau'r ardal.
"Dyw e ddim yn rhywbeth y gallwch chi ei newid dros nos," meddai.
"Ond os gellir dechrau gwneud gwelliannau, yna gobeithio, dros y blynyddoedd, bydd yr ardal yn dod yn le gwell i bobl fyw.
Bydd canfyddiadau'r adolygiad annibynnol i'r trafferthion yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Mae Heddlu'r De wedi anfon ffeiliau at Wasanaeth Erlyn y Goron ac mae swyddogion yn disgwyl am benderfyniadau cyhuddiadau.
Yn y cyfamser, mae trigolion yr 'Hill' yn dweud fod y terfysg wedi eu gwneud nhw yn benderfynol o sicrhau y bydd yr ardal ond yn y newyddion am y rhesymau cywir yn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021