Naw mlynedd o garchar am ddynladdiad dyn o Aberdâr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i ddedfrydu i naw mlynedd o garchar ar ôl cyfaddef iddo ladd dyn 21 oed, oedd ar fin dod yn dad.
Bu farw Keyron Curtis, o Gwmdâr, yn dilyn ymosodiad yn ardal Penywaun, Aberdâr ar 17 Hydref y llynedd.
Roedd Daniel Howells-Thomas, 24, wedi pledio'n euog i ddynladdiad ac o ymosod ar ddyn arall ar yr un noson.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Mr Curtis wedi meddwi ac yn cael ei helpu fewn i gar gan ffrind pan ymosododd Howells-Thomas ar y ddau.
Bu farw Mr Curtis, oedd wedi derbyn anaf sylweddol ar ôl cael ei ddyrnu a tharo'i ben ar y llawr, tu allan i'r Colliers Arms ym Mhenywaun.
Gyda llygad dystion yn dweud fod Howells-Thomas yn ymosodol ac yn chwilio am wrthdaro, clywodd y llys nad oedd gan Mr Curtis gyfle i amddiffyn ei hun.
Er derbyn triniaeth gan barafeddygon, ni ddoth ato'i hun a bu farw yn yr ysbyty.
Cafodd ei ferch, Hope, ei geni bythefnos yn ddiweddarach.
'Byth yn adnabod ei thad'
Disgrifiwyd Mr Curtis fel dyn "meddylgar a gofalgar," gyda'i organau wedi'i rhoi i achub bywydau pedwar o bobl eraill.
Darllenwyd datganiad hefyd ar ran ei bartner, oedd wedi llwyddo i gyrraedd y digwyddiad a dal llaw Mr Curtis wrth iddo farw.
"Yr hyn sy'n fy mrifo fwyaf yw na fydd ein merch byth yn profi cofleidiad cariadus ei thad," meddai.
Clywodd y llys fod gan Howells-Thomas euogfarnau blaenorol am drais, gan gynnwys dau ymosodiad tebyg mewn tafarndai yn Aberdâr lle dorrodd ên dyn.
Yn ei amddiffyn, dywedodd Lucy Crowther: "Mae'n teimlo bod yn rhaid iddo gael ei gosbi'n iawn am yr hyn y mae wedi'i wneud.
"Mae ganddo gywilydd mawr."
Wrth ei ddedfrydu i naw mlynedd am ddynladdiad, i gydredeg gyda thri mis ychwanegol am yr ymosodiad cynharach, dywedodd y Barnwr Walters na allai unrhyw ddedfryd wneud yn iawn am y golled i'r teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021