Omicron: Cyngor gwyddonol am gyfnod clo 'ddim yn or-ymateb'
- Cyhoeddwyd

Doedd y cyngor gwyddonol a awgrymodd y gallai fod angen cyfnod clo i fynd i'r afael â bygythiad Omicron "ddim yn or-ymateb", yn ôl gwyddonydd blaenllaw.
Dywedodd Dr Rob Orford, prif ymgynghorydd gwyddonol iechyd Llywodraeth Cymru, wrth BBC Cymru fod y cyngor gafodd ei roi i'r cabinet fis Rhagfyr yn adlewyrchu'r ansicrwydd ar y pryd am beryglon yr amrywiolyn.
Nawr, mae Dr Orford yn dweud ei fod yn "gobeithio'n fawr" na fydd Cymru yn wynebu cyfnod clo yn y dyfodol - ond rhybuddiodd bod bygythiad Covid dal yn real.
Yn y cyfamser, mae meddyg blaenllaw arall wedi dweud fod gostyngiad cyflym diweddar mewn cyfraddau heintio yn "cynnig gobaith" ar gyfer y dyfodol.
Dr Rob Orford yw cyd-gadeirydd Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru - arbenigwyr sydd wedi bod yn cynghori gweinidogion drwy gydol y pandemig.
Ar 15 Rhagfyr, awgrymodd y grŵp y byddai angen cyflwyno cyfnod clo er mwyn cyfyngu ar ledaeniad Omicron a diogelu'r gwasanaeth iechyd.
Fe gafodd y cyngor ei ddiweddaru ddeuddydd wedyn a phenderfynodd y cabinet gyflwyno cyfyngiadau llai llym - oedd yn cynnwys gwahardd tyrfaoedd mewn gemau chwaraeon.

Ar 28 Ionawr fe fydd yr olaf o'r cyfyngiadau ddaeth i rym yn sgil Omicron yn dod i ben
Mae Dr Orford yn gwadu bod y cyngor gwyddonol cychwynnol yn anghywir - o ystyried y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd.
Dywedodd: "Mae'r gallu i edrych yn ôl yn offeryn pwerus. Fe ewn ni nôl yn ystod ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar yr holl benderfyniadau yma a gofyn beth oedd y dystiolaeth a faint o hyder oedd yna yn y cyngor.
"Yn ystod y cyfnod yna ar 15 Rhagfyr, roedd y cyngor y gwnaethon ni ei gasglu ar gyfer gweinidogion gyda lefel uchel o ansicrwydd ynglŷn â'r hyn oedd [Omicron] - oedd e'n llai difrifol neu'n fwy difrifol na Delta - oherwydd, yn syml, doedden ni ddim yn gwybod.
"Felly yn y modelu hynny roedden ni'n disgwyl y gore ond yn paratoi ar gyfer y gwaethaf."

Dywedodd Dr Orford bod bygythiad coronafeirws dal yn real ond bod pethau'n edrych yn fwy gobeithiol erbyn hyn
Erbyn hyn mae'n amlwg nad yw Omicron yn achosi salwch mor ddifrifol ar y cyfan.
Er hynny, mae Dr Orford yn rhybuddio y gallai newidiadau bach i god genetig yr amrywiolyn arwain at fersiwn mwy peryglus o'r coronafeirws.
O ganlyniad, mae'n dweud "efallai y bydd angen am beth amser" i ddilyn mesurau diogelwch fel hunan-ynysu neu weithio o adref.
Ond mae'n dweud ei fod yn "dawel obeithiol" bod lefelau uchel o frechiadau yn golygu y gall Cymru ddechrau dysgu byw â Covid-19.
"Pan edrychwch chi ar faint o bobl sy'n gweithio o adref neu'n hunan-ynysu tra'n sâl - yn gwneud y pethau synhwyrol, efallai bydd angen rheiny am beth amser eto.
"Ry' ni'n gw'bod fod brechlynnau yn gweithio, ry' ni'n gw'bod bod ymddwyn yn gyfrifol yn gweithio ac yn parhau i weithio. Rhaid i ni ddelio a'r hyn sydd o'n blaenau ni."

Cafodd digwyddiadau torfol fel Parkrun eu gwahardd yn ystod y cyfnod diweddaraf o gyfyngiadau, ond maent bellach wedi ail-ddechrau
Yn y cyfamser mae Dr Eleri Davies, dirprwy gyfarwyddwr meddygol dros dro Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dweud bod gostyngiad cyflym diweddar yn lefelau heintio yn cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd: "Da o beth yw gweld bod y ffigyrau wedi dod i lawr bron mor gyflym ag aethon nhw i fyny.
"Beth sy'n obeithiol hefyd yw dydyn ni ddim wedi gweld yr un math o gynnydd yn y derbyniadau i'r ysbytai na unedau gofal dwys."
'Esblygu i niweidio llai'
Mae'n dweud bod y ffaith fod Omicron ar y cyfan yn achosi salwch llai difrifol yn awgrymu bod y feirws yn esblygu i fod yn llai niweidiol.
"I raddau ry' ni'n disgwyl i firysau ymddwyn fel hyn. Ry'n ni wedi gweld gydag Omicron ei fod e'n addasu yn fwy tuag at heintio pobl a thrwy hynny ddim o reidrwydd yn achosi cymaint o salwch difrifol.
"Ac o safbwynt y feirws dyna beth sy'n siwtio'r feirws oherwydd bod mwy o bobl yn cael ei heintio ac oherwydd bo' nhw ddim mor ddifrifol wael ma' nhw'n heintio mwy o bobl wedyn... ma hynny'n cynyddu effeithiolrwydd y feirws."

Mae Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod y ffigyrau wedi gostwng mor gyflym ag y gwnaethon nhw gynyddu
Ond dywedodd nad oes modd bod yn sicr ynglŷn â pha mor beryglus fydd amrywiolion y dyfodol.
"Ma' rhaid bod yn wyliadwrus oherwydd gall amrywiolion newydd ymddangos - mae hynny'n debygol iawn oherwydd dyna natur feirws mRNA sy'n dyblygu'n rhwydd iawn ac am bob dyblygiad ma 'na siawns o fwtadiadau neu amrywiolyn newydd...
"Ond mae'r cyfeiriad yn tueddu i fod at gynyddu lledaeniad a lleihau difrifoldeb."
'Pethau eraill angen sylw nawr'
Ond mae Dr Davies yn mynnu fod datblygiadau gwyddonol, a'r ymdrech frechu yn golygu y bydd arbenigwyr a chymdeithas yn fwy parod ar gyfer yr amrywiolyn nesaf.
Ac o bosib o ganlyniad i hynny - fe fydd cyfyngiadau llym iawn yn llai tebygol yn y dyfodol.
"'Wy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa lle ma' byw gyda'r feirws yn fwy posib.
"Dwi'n obeithiol. Mae'r ffigyrau yn edrych lot yn well ac mae'r hyn ry'n ni wedi bod trwodd wedi dysgu ni sut i baratoi ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.
"'Wy'n credu bod lot o bethau eraill angen sylw nawr - sydd wedi mynd yn angof bron wrth i ni ganolbwyntio cymaint ar y coronafeirws."
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu ei bod wedi dilyn cyngor gwyddonol yn gyson trwy gydol y pandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021