'Dylai gweinidogion roi arweiniad' ar fygydau ysgol
- Cyhoeddwyd
Nid penaethiaid a swyddogion cyngor ddylai benderfynu ar y rheolau ar orchuddion wyneb mewn ysgolion, yn ôl arbenigwr iechyd cyhoeddus.
Dywedodd yr Athro John Watkins, epidemiolegydd blaenllaw, y dylai gweinidogion gynnig mwy o arweiniad wrth benderfynu os oes angen i ddisgyblion wisgo mygydau.
Ar hyn o bryd mae angen gwisgo gorchudd wyneb mewn ystafelloedd dosbarth a choridorau ysgolion uwchradd, ond mae disgwyl i benderfyniadau ar fesurau Covid gael eu gwneud ar lefel lleol erbyn diwedd mis Chwefror.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ysgolion yn cael cefnogaeth gan swyddogion iechyd cyhoeddus i sicrhau bod y mesurau'n "briodol" ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles bod canllawiau ar orchuddion wyneb yn annhebygol o newid tan ar ôl hanner tymor fis Chwefror.
Mis diwethaf cafodd ysgolion gyfarwyddyd gan weinidogion i fabwysiadu mesurau llymach o ganlyniad i fygythiad amrywiolyn Omicron.
Roedd yna ganllaw eisoes yn gofyn i ddisgyblion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth.
Ond dywedodd Mr Miles y byddai adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o fesurau Covid ar 10 Chwefror yn cadarnhau, os yw'r dystiolaeth yn caniatáu, y bydd penderfyniadau ar fesurau yn cael eu gwneud unwaith eto gan ysgolion ac awdurdodau lleol - gan ddychwelyd i'r system yn yr hydref.
'Yr un peth i bawb'
Dywedodd yr Athro Watkins o Brifysgol Caerdydd y dylai'r polisi ar orchuddion wyneb fod ar sail y dystiolaeth wyddonol ac yn "benderfyniad canolog".
Rhybuddiodd am sefyllfa lle "mewn tref benodol gallech gael dwy ysgol a gallai'r ysgolion gael polisïau gwahanol wedi'u datblygu gan brifathrawon gyda safbwyntiau gwahanol".
Dywedodd na ddylid ei "adael i benaethiaid ysgolion lleol a swyddogion llywodraeth leol sydd ddim efallai yn yr un sefyllfa i werthuso'r dystiolaeth".
"Dylai'r penderfyniad polisi ddod gan Lywodraeth Cymru a dylai fod yr un peth i bawb", ychwanegodd.
'Galluogi dysgu wyneb yn wyneb i barhau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r flaenoriaeth yw sicrhau bod dysgu wyneb yn wyneb yn parhau mewn ysgolion yn y ffordd fwyaf diogel posib.
"Mae'r cyngor i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai lleoliadau ysgol yn un o nifer o fesurau i alluogi dysgu wyneb yn wyneb i barhau," meddai.
"Os yw'r dystiolaeth yn cefnogi dychwelyd i benderfyniadau lleol gan ddefnyddio Fframwaith Covid ar gyfer Ysgolion, yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o reoliadau Coronafeirws ar 10 Chwefror, gofynnir i ysgolion wneud hynny ar ôl hanner tymor.
"Mae'r Fframwaith cenedlaethol yn galluogi ysgolion i deilwra ymyriadau i adlewyrchu risgiau ac amgylchiadau lleol. Caiff ysgolion eu cefnogi gan swyddogion iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau'n briodol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys mesurau craidd a ddylai fod ar waith, waeth beth fo lefel y risg."
Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad oes angen i ddisgyblion wisgo gorchuddion wyneb mwyach ond mae rhai ysgolion yn dweud bod dal angen eu gwisgo.
Mae staff a disgyblion hŷn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i orfod eu gwisgo.
Dywedodd yr Athro Watkins bod yna darfu mawr wedi bod i addysg dros y ddwy flynedd ddiwethaf achos Covid-19.
"Mae'r risgiau'n eithaf isel ond gallai niwed o'r cyfyngiadau fod yn sylweddol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021