Llywodraeth Cymru i adolygu rheolau Covid yn wythnosol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Addurn Nadolig dyn eira gyda masgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd o leiaf dau adolygiad o'r rheolau yng Nghymru cyn diwrnod Nadolig

Bydd rheolau coronafeirws Cymru'n cael eu hadolygu bob wythnos yn lle bob tair wythnos yn sgil amrywiolyn Omicron.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd gweinidogion yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa i weld os oes angen cyflwyno rheolau pellach.

Bydd yna o leiaf dau adolygiad o ganlyniad cyn diwrnod Nadolig, ond bydd Cymru'n aros ar lefel rhybudd sero am yr wythnos nesaf a bydd dim newidiadau mawr i reoliadau'r wlad.

Mae pobl yn cael eu hannog i wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan yn sgil pryderon cynyddol am yr amrywiolyn Omicron.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prawf llif unffordd yn rhoi canlyniad o fewn 20 munud

Mae Llywodraeth Cymru'n argymell i bobl brofi eu hunain cyn mynd i bartïon Nadolig, siopa, ymweld â ffrindiau, teulu neu unrhyw le prysur.

Mae'n cynghori pobl hefyd i wisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai a bwytai, pan nad ydynt yn bwyta ac yfed.

Er mai dim ond naw achos Omicron sydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn mae swyddogion yn paratoi i nifer yr achosion o'r amrywiolyn newydd godi'n gyflym.

Credir bod yr amrywiolyn yn fwy trosglwyddadwy na Delta, sef yr amrywiolyn amlycaf yn y DU ar hyn o bryd.

Mewn cynhadledd newyddion yn manylu ar benderfyniadau'r adolygiad, fe wnaeth Mr Drakeford gydnabod bod gwir nifer achosion Omicron yn debygol o fod yn uwch na'r ffigwr swyddogol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod amrywiolyn Omicron Covid-19 yn fwy trosglwyddadwy na Delta

Oriau cyn y cadarnhad bod dros filiwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechiad atgyfnerthu erbyn hyn, apeliodd Mr Drakeford ar bobl i gael trydydd pigiad pan ddaw eu cynnig.

"Rydym yn rhoi'r pigiadau atgyfnerthu'n gyflymach mewn ymateb i'r amrywiolyn newydd," meddai. "Rydym yn cynyddu nifer y clinigau ac yn ymestyn yr oriau agor.

"Mae pob dos o'r brechlyn a roddir i rywun yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws - felly gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu cael eich brechlyn neu'ch pigiad atgyfnerthu.

"Dyma'r anrheg Nadolig gorau y gallwch chi ei roi i chi eich hun a'ch teulu eleni."

Wrth ateb cwestiynau newyddiadurwyr brynhawn Gwener, fe bwysleisiodd Mr Drakeford nad oedd eisiau "meicro-reoli" bywydau teuluol pobl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Llywodraeth Cymru'n rhoi canllaw newydd ar ymweld â chartrefi gofal ac ysbytai.

"Ry'n am wneud popeth posib i gefnogi ymweliadau pan mae hynny'n ddiogel - ond os oes ton newydd bydd angen mesurau cryfach i amddiffyn cleifion a phreswylwyr cartrefi," dywedodd Mr Drakeford.

"Yn anffodus ry'n yn wynebu dyfodol ansicr unwaith eto a rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid."

Bydd gweinidogion yn gweithredu'n gyflym os yw'r data yn dangos bod amrywiolyn Omicron yn achosi problemau sylweddol i'r gwasanaeth iechyd.

'Angen cymorth ariannol os yw'r sefyllfa'n gwaethygu'

Dywedodd ei fod yn derbyn y gallai cyfyngiadau newydd "ypsetio" busnesau a'r cyhoedd.

Ond os yw'r cyngor gwyddonol yn rhybuddio fod y wlad yn wynebu problemau, meddai, "dylech chi actio'n gynnar a cheisio trechu'r broblem yn fuan y gorau gallwch chi".

Ychwanegodd: "Mae hynny'n gallu bod yn anodd ac yn siomedig, ond dwi dal yn meddwl mai dyna'r peth iawn i wneud."

Dywedodd hefyd y bydd angen cael cymorth i fusnesau gan y Trysorlys yn Llundain os fydd yn sefyllfa'n gwaethygu.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi cefnogi'r penderfyniad i gynnal adolygiad Covid wythnosol o hyn ymlaen a'r alwad am fwy o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU os fydd rhaid cyflwyno cyfyngiadau llymach.

Dywedodd y byddai lefel y gefnogaeth o San Steffan yn ffactor wrth benderfynu "faint o fesurau iechyd cyhoeddus all Llywodraeth Cymru gyflwyno".

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, mae "Llywodraeth Cymru yn iawn i beidio cyflwyno cyfyngiadau sylweddol wrth ddelio ag Omicron".

Mae angen dysgu mwy am yr amrywiolyn newydd gyntaf, meddai, gan seilio unrhyw gyfyngiadau pellach ar dystiolaeth, ond mae'n galw am ganolbwyntio ar leihau oedi cyn bod pobl yn cael brechiad atgyfnerthu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gellir cael profion llif unffordd, sy'n cynhyrchu canlyniadau o fewn 20 munud, ar-lein, dolen allanol, trwy fferyllfeydd a phwyntiau casglu lleol.

Os yw'r prawf yn bositif, dywed Llywodraeth Cymru y dylech aros adref, trefnu prawf PCR a hunan-ynysu.

Dywedodd Mr Drakeford wrth newyddiadurwyr ei fod wedi cael prawf llif unffordd fore Gwener cyn mynd o'i gartref i ddigwyddiad yn Abertawe "i roi'r hyder imi na fyddwn i'n creu risg i bobl eraill".

Mae canllawiau ar orchuddion wyneb hefyd yn cael eu hehangu, gyda phobl yn cael eu hannog i wisgo mwgwd mewn tafarndai a bwytai pan nad ydyn nhw'n bwyta neu yfed.

Fodd bynnag, deellir na fydd y gyfraith - sy'n ei gwneud yn ofynnol gwisgo masgiau yn y mwyafrif o leoedd cyhoeddus dan do ac eithrio tafarndai a bwytai - yn newid.

Nid yw pasys Covid - sy'n dangos a yw rhywun wedi cael dau frechiad neu brawf llif unffordd negyddol - yn cael eu hymestyn i dafarndai a bwytai fel rhan o adolygiad dydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Melanie Duddridge
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Melanie Duddridge fod y llywodraeth wedi "anghofio" am y rheiny sy'n dewis cysgodi

Mae menyw o Gaerdydd wedi galw am sicrhau bod pobl fregus sy'n teimlo yn fwy diogel yn cysgodi yn cael cymorth i wneud hynny.

Mae gan Melanie Duddridge, 49, ffibromyalgia a chlefyd Crohn's, ac felly roedd hi'n cael ei hystyried fel rhywun "bregus iawn" i Covid.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn annog unrhyw un i gysgodi erbyn hyn, ac mae hynny'n golygu fod rhai o'r buddion roedd pobl fregus yn arfer ei gael - fel blaenoriaeth i gael bwyd wedi'i yrru i'w cartrefi - wedi dod i ben hefyd.

'Dim byd i'n helpu ni'

Dywedodd Ms Duddridge ei bod hi'n parhau'n wyliadwrus iawn, yn enwedig yn sgil amrywiolyn newydd Omicron, a'i bod yn credu fod y llywodraeth wedi "anghofio" am y rheiny sy'n dewis cysgodi.

"Pan mae cyngor neu ganllawiau yn eich annog chi i gysgodi ry'ch chi'n cael rhai buddion," meddai.

"Ond does dim byd nawr oherwydd nad oes cyngor i gysgodi, felly does 'na ddim byd mewn lle i'n helpu ni.

"Rydw i wedi cael problemau gydag iselder ac unigedd oherwydd 'mod i'n teimlo mai fi ydy'r unig un sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn ac yn gorfod bod mor eithafol am geisio osgoi Covid."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai eu "prif flaenoriaeth ydy cadw pawb yn ddiogel ac ry'n ni'n adolygu a diweddaru ein cyngor yn gyson".

Ychwanegodd fod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at bawb sy'n cael eu hystyried yn fregus i coronafeirws am "sut i leihau'r perygl" o gael eu heintio.