Dim camau pellach dros daliad £95,000 i bennaeth cyngor

  • Cyhoeddwyd
Ian WestleyFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Ian Westley yr awdurdod wedi 17 mlynedd ar ddiwedd 2020

Mae cynghorwyr wedi cytuno i beidio cymryd camau pellach yn dilyn adroddiad beirniadol i daliad o £95,000 i gyn brif weithredwr.

Fe gafodd Ian Westley y taliad fel rhan o'i gytundeb wrth adael y swydd gyda Chyngor Sir Benfro ym mis Tachwedd 2020.

Mewn cyfarfod neilltuol o'r awdurdod, fe glywodd y cynghorwyr bod dau o'r tri dewis o'u blaenau - gwrthod y cytundeb neu ei gymeradwyo - yn dod â chostau sylweddol ychwanegol yn eu sgil.

Yn hytrach fe wnaethon nhw bleidleisio i beidio cymryd unrhyw gamau pellach.

Fe wnaeth adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru grybwyll diffygion difrifol yn nhrefniadau llywodraethu a phrosesau Cyngor Sir Penfro pan gafodd y setliad gadael ei lunio, gan ddisgrifio'r taliad i Mr Westley fel "yn groes i'r gyfraith".

Wedi'r cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd y cyngor ei fod yn derbyn a nodi adroddiad yr archwilydd, gan gynnwys cydnabyddiaeth ei fod wedi cymryd camau eisoes i wella'r broses o wneud penderfyniadau a llywodraethiant.

Yn gynharach fe wnaeth arweinydd yr awdurdod, y Cynghorydd David Simpson, ddweud y byddai'n ymddiheuro am unrhyw gamgymeriadau yn y broses setliad, ond ei fod wedi gweithredu ar gyngor swyddogol.

Ond dywedodd arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Jamie Adams er fod Mr Simpson wedi derbyn cyngor mai "ef a wnaeth y penderfyniad".

Ffynhonnell y llun, AFP

"Mae'r cyngor yna i gael ei herio," meddai.

Wedi pleidlais i nodi'r adroddiad, bu dadl arall am a ddylid cymryd camau pellach. Y tri dewis gerbron yr aelodau oedd: gwrthod y cytundeb, ei gymeradwyo neu i beidio cymryd unrhyw gamau pellach.

Clywodd y cynghorwyr y byddai'r ddau ddewis cyntaf yn arwain at broblemau cyfreithiol a chostau ychwanegol i'r cyngor, ac fe wnaethon nhw bleidleisio o fwyafrif llethol i wneud dim byd.

Pynciau cysylltiedig