Y Chwe Gwlad: Stadiwm Principality i weini cwrw gwannach
- Cyhoeddwyd
Bydd cwrw gwannach yn cael ei weini a bariau yn cau wedi hanner amser yn Stadiwm Principality yn ystod y Chwe Gwlad.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi'r mesurau i geisio atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y stadiwm.
Daw'r mesurau yn dilyn nifer o ddigwyddiadau yn ystod gemau cyfres yr hydref y llynedd.
Cafwyd adroddiadau o feddwdod ymysg y dorf a dau achos o gefnogwyr yn dod ymlaen i'r maes yn ystod y gemau.
Bydd gêm gartref cyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Yr Alban ar 12 Chwefror, cyn gemau'n erbyn Ffrainc (11 Mawrth) a'r Eidal (19 Mawrth).
Mae'r Undeb wedi cyhoeddi mesurau prawf yn dilyn nifer o ddigwyddiadau mewn gemau y llynedd.
Mewn digwyddiad yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia roedd bachgen chwech oed oedd mewn "llif o ddagrau" wedi i gefnogwr meddw chwydu drosto.
Dywedodd Sophie Delaney, o Gas-gwent, bod ei mab Joey "mewn llif o ddagrau" wedi i gyfog "fynd ar hyd ei gefn, ei gôt, drosta i a dros y llawr".
Ychwanegodd bod rhywun eisoes wedi colli cwrw dros Joey yn gynharach, ond fod y cefnogwr oedd yn sâl "wedi syrthio'n swp i'w gadair ac yn amlwg yn feddw iawn, iawn".
Cyn y gêm yn erbyn De Affrica fe ddaeth dyn ymlaen i'r maes i sefyll gyda thîm Seland Newydd ar gyfer yr anthemau cyn i stiwardiaid ei hebrwng oddi yno.
Ym mis Tachwedd 2021 cafodd dyn ei wahardd o Stadiwm Principality am oes wedi iddo gamu i'r cae yn ystod gêm Cymru yn erbyn De Affrica.
Fe redodd y gŵr 28 oed ymlaen i'r maes tra bod Cymru yn ymosod, cyn cael ei daclo gan stiwardiaid.
Staff i wrthod pobl meddw
Roedd Rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams wedi rhybuddio ar y pryd bod posib y byddai'n rhaid "ystyried cyflwyno mesurau ychwanegol allai effeithio ar brofiad cefnogwyr yn y dyfodol".
Bydd cwrw gyda chanran is o alcohol yn cael ei gyflwyno ac ni fydd bariau yn agored i weini alcohol yn ystod yr ail hanner.
"Ry'n ni eisiau i gefnogwyr barhau i fod yn angerddol ac yn llawn brwdfrydedd," meddai prif weithredwr URC, Steve Phillips.
"Ond ry'n ni angen iddyn nhw ymddwyn yn gyfrifol ac annog pawb arall o'u cwmpas i wneud yr un fath.
"Rydym yn cydnabod bydd y mesurau treial hyn yn cael eu croesawu gan rai cefnogwyr tra bod eraill yn teimlo ein bod wedi mynd yn rhy bell neu heb wneud digon.
"Bwriad y mesurau yw cael y cydbwysedd yn iawn ar gyfer y cefnogwyr i sicrhau eu bod yn mwynhau profiad gwych yn y stadiwm yn ystod y Chwe Gwlad."
Bydd staff Stadiwm Principality hefyd yn gwrthod mynediad i unrhyw un sydd ddim yn cwrdd â safonau ymddygiad, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi meddwi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2019