Tesco yn dechrau defnyddio lorïau trydan yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Lorïau trydan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy lori HGV 37 tunnell yn gallu teithio 100 milltir ar un wefr

Am y tro cyntaf ym Mhrydain bydd bwydydd ar gyfer cwmni archfarchnad yn cael eu cludo ar ddwy lori sy'n rhedeg ar drydan yn ardal Caerdydd.

Yn ôl Tesco dyma'r cam cyntaf wrth ddechrau newid y 2,000 a mwy o lorïau mae'r cwmni yn ei ddefnyddio, mewn ymgais i leihau'r allyriadau carbon.

Bydd y ddwy HGV 37 tunnell, sy'n gallu teithio 100 milltir ar un wefr, yn cludo nwyddau o orsaf drenau Gwynllŵg i ddepo Tesco ym Magwyr ger Casnewydd.

Cwmni cludiant FSEW o Gaerdydd fydd yn defnyddio'r lorïau trydan.

Lorïau'n 5% o allyriadau'r DU

Mae'r ffigyrau swyddogol diweddaraf yn dangos fod dros chwarter allyriadau'r DU yn dod o drafnidiaeth, gyda thua 5% o lorïau.

Mae archfarchnadoedd Asda, Sainsbury's ac Aldi wedi dweud eu bod yn treialu lorïau sy'n rhedeg ar nwy naturiol, fyddai'n gostwng allyriadau hyd at 90% o'i gymharu â disel.

Ond mae Tesco yn dweud mai nhw yw'r unig un o'r archfarchnadoedd mawr i ddefnyddio lorïau trydan yn unig.

"Rydyn ni fel busnes wedi gosod targedau heriol i fod yn garbon sero erbyn 2035, ac mae bod y cyntaf i gyflwyno HGVs trydan yn rhan o'r daith honno," meddai John Steventon o Tesco.

"Maen nhw'n cynrychioli llai na 1% o'n fflyd ni, ond dyma'r dechrau o ddysgu sut i ddefnyddio lorïau trydan cyn i ni ehangu.

"Dyw'r dechnoleg yma ddim wedi bod ar gael tan nawr."

Mae Tesco eisoes wedi dechrau defnyddio faniau trydan ar gyfer ei wasanaeth danfon nwyddau i dai pobl, ac wedi addo y bydd y gwasanaeth hwnnw yn llwyr drydanol erbyn 2028.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r sialens yn enfawr," meddai John Steventon o Tesco

Dywedodd rheolwr FSEW, Geoff Tomlinson: "'Dan ni'n gobeithio ein bod ni wedi prynu ein lorïau disel olaf.

"Roedd y diwydiant yn dweud na wnaiff hyn weithio, ei bod hi'n rhy gynnar a bod y lorïau trydan ddim yn gallu teithio yn ddigon pell.

"Wel dwi'n dweud 'beth am i ni wneud iddo weithio?' Mae'n rhaid i ni newid y ffordd 'dan ni'n gweithredu, a hynny cyn gynted â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geoff Tomlinson fod ei gwmni cludiant "wedi prynu ein lorïau disel olaf"

Ychwanegodd Mr Tomlinson fod modd gwefru'r lori tra'i fod yn cael ei dadlwytho, a bod modd gwneud tri thrip rhwng Magwyr a Chaerdydd cyn bod yn rhaid gwefru am nifer o oriau.

"'Dan ni'n gobeithio fel busnes ein bod wedi archebu ein lori ddisel olaf, a'r gobaith ydy y byddwn yn gweithredu yn net sero erbyn 2025."

'Cam bach ymlaen'

Dywedodd yr Athro Liana Cipigan - pennaeth yr Electric Vehicle Centre of Excellence ym Mhrifysgol Caerdydd - fod y ddwy lori yn gam bach ymlaen yn y chwyldro i leihau'r carbon y cynhyrchir gan gerbydau.

"Yn gyffredinol mae lori HGV yn teithio rhyw 250 milltir bob dydd, felly bydd yn rhaid cael rhwydwaith gwefru gwell er mwyn cefnogi'r genhedlaeth yma o lorïau trydan," meddai.

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa gwerth £20m i gefnogi datblygu mwy o lorïau HGV carbon sero.

Ond gyda lorïau disel wedi bod yn rhan mor hanfodol o symud cynnyrch o un rhan o'r wlad i'r llall ers degawdau, bydd angen buddsoddiad enfawr dros y blynyddoedd nesaf i sefydlu system wefru ar hyd a lled y wlad.

Pynciau cysylltiedig