Dechrau ar y gwaith o symud murlun Banksy o Bort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith celf Banksy 'Season's Greetings' wedi cael ei symud o adeilad ym Mhort Talbot ac ar fin cael ei symud o'r dref i'w gartef newydd - lleoliad sydd heb eto ei ddatgelu.
Cwmni arbenigol sy'n gyfrifol am symud a chludo'r wal sy'n pwyso bron i hanner tunnell.
Fe wnaeth y llun ymddangos gyntaf ar wal yn ardal Taibach fis Rhagfyr 2018, cyn cael ei werthu i John Brandler, dyn busnes o Essex.
Yna cafodd ei symud i adeilad yng nghanol y dref er mwyn ei ddiogelu a hefyd rhoi cyfle i'r cyhoedd gael ei weld.
Mae'r murlun, a ymddangosodd ar garej y cyn weithiwr dur Ian Lewis, yn darlunio plentyn yn mwynhau eira ar un ochr, tra bod y llall yn datgelu tân yn allyrru lludw.
Fe wariodd Llywodraeth Cymru dros £120,000 ar y gwaith o ddiogelu a symud y gwaith celf i adeilad Ty'r Orsaf yn y dref.
Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y cytundeb i gadw'r gwaith celf yn adeilad Ty'r Orsaf wedi dod i ben ar 14 Ionawr.
Yn wreiddiol, roedd Mr Brandler wedi dweud mai ei fwriad oedd creu amgeuddfa yn y dre er mwyn arddangos y gwaith celf.
Dywedodd iddo roi'r gorau i'r syniad yn dilyn anghydfod gyda swyddogion y cyngor.
Yn y gorffennol, mae Mr Brandler wedi dweud y byddai'n hoffi symud y gwaith clef i Brifysgol Suffolk yn Ipswich.
Mae'r brifysgol wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw ar y mater.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019