Perchennog yn sôn am symud gwaith Banksy o Bort Talbot

  • Cyhoeddwyd
John Brandler with the artwork in the backgroundFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

John Brandler: 'Swyddogion yn Rhwystr'

Mae perchennog y wal ym Mhort Talbot sy'n cynnwys y darlun 'Season's Greetings' gan Banksy wedi canslo ei gynlluniau i greu amgueddfa yn y dre yn dilyn anghydfod gyda swyddogion cyngor Castell-nedd Porth Talbot.

Dywed John Brandler fod "diffyg cydweithrediad" swyddogion lleol, a diffyg nawdd yn golygu ei fod wedi rhoi'r gorau i agor galeri newydd fyddai'n cynnwys gwaith Banksy ynghyd â'r artistiaid Damian Hirst a Tracy Emin.

Fe wnaeth Mr Brandler, o Essex, brynu'r wal am swm chwe ffigwr ym mis Ionawr. Cafodd 'Seasons Greetings' ei beintio ar wal garej oedd yn eiddo i Ian Lewis, gweithiwr dur o'r dref.

Cytunodd Mr Brandler y byddai'r wal yn aros ym Mhort Talbot am hyd at dair blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fis diwethaf fe gafodd craen ei ddefnyddio er mwyn symud yn wal yn ddiogel ac mewn un darn

'Denu 150,000'

Ond nawr mae'n dweud fod swyddogion y cyngor wedi bod yn rhwystr wrth iddo geisio sefydlu'r hyn mae ef yn ei alw'n amgueddfa ryngwladol.

Mae'n dweud nad yw'r cyngor yn hapus oherwydd nad yw'r artistiaid eraill dan sylw yn dod o Gymru.

Dywedodd y byddai amgueddfa o'r fath wedi denu 150,000 o bobl bob blwyddyn i dre Port Talbot.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot, roedd gan y cyngor ddau brif amcan.

Y cyntaf oedd cadw'r llun yn Port Talbot, a'i symud i fan addas er mwyn ei arddangos. Yr ail nod oedd sicrhau ffordd o ddatblygu galeri neu amgueddfa fyddai'n cydymffurfio gydag "unrhyw faterion technegol, ariannol neu gyfreithiol a allai godi".

"Byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys y problemau diweddara 'ma," ychwanegodd.