Faletau i ymuno â charfan Cymru ar gyfer gêm Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Taulupe Faletau wedi'i alw i garfan Cymru cyn wynebu Lloegr brynhawn Sadwrn.
Mae'r wythwr wedi profi ei ffitrwydd gyda dau ymddangosiad i'w glwb, Caerfaddon, ers treulio saith mis allan gydag anaf i'w ffêr.
Chwaraeodd Faletau am awr yn erbyn Wasps ar 12 Chwefror, cyn cwblhau 80 munud yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn.
Yn dilyn y gêm roedd Faletau wedi datgan ei fod yn barod i wynebu Lloegr yn Twickenham a bod Wayne Pivac wedi bod yn holi am ei gyflwr.
Roedd yr anaf, a ddigwyddodd yn ystod taith y Llewod i Dde Affrica, wedi'i gadw allan o'r gêm am saith mis.
Ond bydd ei bresenoldeb yng nghrys coch Cymru i'w groesawu yn dilyn plith o anafiadau i'r garfan, gan gynnwys Alun Wyn Jones, George North, Ken Owens a Justin Tipuric.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2022