Galwad ffôn 'iasol' mam ar ddiwrnod gwaredu corff mab
- Cyhoeddwyd
Mae galwad frys gan fam bachgen pump oed y bore y cafodd ei gorff ei roi mewn afon ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddisgrifio fel "iasol".
Clywodd Llys Y Goron Caerdydd mai "actio" oedd Angharad Williamson wrth ofyn am gymorth i ddod o hyd i'w mab, Logan Mwangi, fel rhan o gynllwyn gyda'i chymar, John Cole, a llanc 14 oed.
Mae'r erlyniad hefyd yn cwestiynu bod peiriannau golchi a sychu dillad ymlaen yng nghanol y fath argyfwng pan gyrhaeddodd yr heddlu mewn ymateb i'r alwad frys.
Cafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd, ac mae'r tri diffynnydd yn gwadu ei lofruddio.
Oni bai am "wybodaeth CCTV a phrawf bod Angharad Williamson yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd y noson honno" dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Caroline Rees QC bod bosib i'r alwad "swnio fel cri o'r galon gan fam yn rhoi gwybod bod ei phlentyn ar goll".
Aeth ymlaen i ddadlau bod yr alwad "mewn gwirionedd, yn iasol, gan amlygu i ba raddau roedd Williamson yn fodlon dweud celwydd a'i gallu i roi perfformiad i achub ei chroen ei hun, hyd yn oed wrth ddelio â marwolaeth ei mab pump oed ei hun".
Dywedodd Ms Rees y bydd y rheithgor yn gweld lluniau o gamerâu yr oedd swyddogion heddlu'n eu gwisgo wrth ymweld am y tro cyntaf â fflat y cwpl yn Sarn.
Mae'r llys eisoes wedi clywed mai'r gred yw i Logan gael ei ladd yn y fflat, a bod golau a welwyd yn cael ei droi ymlaen ac i ffwrdd yn ei ystafell yn brawf bod Ms Williamson yn effro ac yn gwybod beth oedd wedi digwydd.
Mae'r lluniau, meddai, yn dangos Ms Williamson "yn llefain ac yn gweiddi" tra bod Mr Cole "yn chwarae rhan y llystad pryderus".
Gan gyfeirio at sŵn peiriannau golchi a sychu dillad yn y cefndir, gofynnodd: "Pam ar y ddaear y byddai'r teulu'n gwneud y golch fel mater o'r fath frys dan yr amgylchiadau?"
"Mae'r erlyniad yn awgrymu mai'r rheswm oedd i gael gwared ar dystiolaeth ddamniol a bod dillad gwely Logan ymhlith yr eitemau a gafodd eu golchi."
Mae Ms Williamson, Mr Cole a'r llanc na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol yn gwadu llofruddio Logan rhwng 28 Gorffennaf a 1 Awst, ac mae'r ddau oedolyn yn gwadu cyhuddiad pellach o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Mae'r tri hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud hysbysiad ffug i'r heddlu bod person ar goll.
Mr Cole yw'r unig ddiffynnydd sydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021