Croeso gofalus gan arweinwyr crefydd i lacio rheol mygydau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mygydau
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd angen gwisgo mygydau mewn mannau addoli o ddydd Llun

Mae yna groeso gofalus wedi bod gan ganolfannau crefyddol wrth i'r rheolau ar wisgo mygydau mewn nifer o sefyllfaoedd dan do ddod i ben.

O ddydd Llun, dim ond mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus a sefyllfaoedd gofal y bydd yn rhaid gwisgo mygydau.

Er hyn, mae cynrychiolwyr o sawl crefydd ac enwad wedi dweud y byddan nhw'n parhau i annog cynulleidfaoedd i wisgo mygydau er mwyn rhwystro lledaeniad Covid-19.

Mae'r penderfyniad i waredu mygydau yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru olacio cyfyngiadau wrth i'r gyfradd heintio ostwng.

Yn ôl Judith Morris o Undeb Bedyddwyr Cymru mae'r penderfyniad yn un i'w groesawu - er bod yr eglwys yn deall na fydd pawb yn teimlo'r un fath.

"Dwi'n siŵr y bydd 'na eglwysi fydd ddim yn teimlo mor hyderus," meddai.

"Falle bydd yr asesiad risg yn wahanol, falle na fydd gymaint o gyfle i awyru'r adeilad, gallai niferoedd amrywio, ac o bosib y gwnawn nhw ddweud, 'na, 'da ni ddim yn barod i gael gwared ar orchuddion'."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae mosgiau yn dod â phobl o bob rhan o gymdeithas at ei gilydd," meddai Dr Azim Ahmed

Mewn mosgiau Cymru, mae Mwslemiaid yn dweud fod natur addoli yn golygu y byddan nhw'n parhau i annog addolwyr i wisgo mygydau.

"Dwi'n meddwl fod 'na amwysedd," meddai Dr Azim Ahmed o Gyngor Mwslemaidd Cymru.

"Y rheswm o bosib ydy, efallai yn fwy na llawer o lefydd eraill, mae mosgiau yn dod â phobl o bob rhan o gymdeithas at ei gilydd."

Dywedodd Dr Ahmed fod gwisgo mwgwd yn gweithio'n well pan mae "pawb yn gwneud".

"Felly mae 'na amwysedd, ond 'da ni'n trio cael pawb i rhywle lle maen nhw'n dal i ddod â mwgwd efo nhw a chadw pawb yn ddiogel".

'Dim gorfodaeth'

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yna groeso i bobl sy'n dal i ddymuno gwisgo mwgwd wneud hynny, meddai'r Parchedig Canon Robert Townsend

Ym Miwmares mae Ficer Bro Seiriol, y Parchedig Canon Robert Townsend, yn edrych ymlaen at allu gweld yr ymateb i'w gwasanaethau unwaith eto.

Mae o hefyd yn mynnu nad oes yn rhaid i neb beidio â gwisgo mwgwd, a bod y pwyslais bellach ar benderfyniadau personol.

"Does dim gorfodaeth, ond os ydy pobl yn penderfynu i wneud hynny, a bod o'n galluogi i bobl addoli a bod nhw eisiau gwisgo mwgwd, fydd dim problem efo hynny.

"Fydd 'na groeso iddyn nhw wneud hynny."

Pynciau cysylltiedig