Dan Biggar: Galw am ysbryd 2015 cyn herio Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Lloyd Williams, Dan Biggar a Rhys Priestland yn dathlu curo Lloegr yng Nghwpan y Byd 2015Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd Williams, Dan Biggar a Rhys Priestland yn dathlu curo Lloegr yng Nghwpan y Byd 2015

Mae capten Cymru Dan Biggar wedi annog ei dîm i ganfod ysbryd 2015 wrth geisio curo Lloegr yn Twickenham.

Biggar a sicrhaodd y fuddugoliaeth o 28-25 gyda chic gosb saith mlynedd yn ôl.

Dyna'r unig dro i Gymru ennill yn Twickenham yn y 10 mlynedd diwethaf, a'r fuddugoliaeth ddiwethaf yn y Chwe Gwlad oedd pan arweiniodd Sam Warburton Gymru i ennill y Goron Driphlyg yn 2012.

Dywedodd Biggar: "Roedd e [2015] yn ganlyniad gwych - llwyth o gymeriad a thorchi llewys.

"I unrhyw dîm fynd oddi cartref ac ennill mewn llefydd anodd fel Twickenham, mae'n rhaid i chi weithio'n galed, a dyna fydd rhaid i ni 'neud dydd Sadwrn.

"Mae hynny'n beth anodd i ddysgu tîm o ran ysbryd undod a phenderfyniad... mae'n rhaid i hynny ddod o'r tu mewn."

Rhaid dechrau'n well

Roedd Biggar yn un o bedwar o'r 15 fydd yn dechrau ddydd Sadwrn i chwarae yn y gêm yn 2015 - Liam Williams, Tomas Francis a Taulupe Faletau oedd y lleill.

O dîm Lloegr y penwythnos hwn, dim ond Courtney Lawes ddechreuodd saith mlynedd yn ôl, gyda Ben Youngs a George Ford yn eilyddion unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn

Os yw Cymru am fwynhau llwyddiant arall yn ne orllewin Llundain, rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydyn nhw'n parhau gyda'r patrwm o ddechrau'n araf.

Roedd hynny'n amlwg iawn yn y chwalfa yn erbyn Iwerddon dair wythnos yn ôl, ond fe lwyddodd Cymru i ddod yn ôl i guro'r Alban yng Nghaerdydd.

"Y ddau dro diwethaf i ni fynd i Twickenham, ry'n ni wedi mynd ar ei hôl hi yn gynnar, ac mae'n dasg mor anodd wedyn," ychwanegodd Biggar.

"Maen nhw'n dîm da iawn, felly mae'n mynd i fod yn anodd os newn ni adael iddyn nhw gael dechrau da eto."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe giciodd Dan Biggar 15 pwynt yn y fuddugoliaeth o 20-17 dros yr Alban bythefnos yn ôl

Biggar yw'r capten yn absenoldeb Alun Wyn Jones gydag anaf, a dyma'r tro cyntaf erioed yn hanes gemau rhwng Cymru a Lloegr i'r ddau gapten ddod o'r un clwb, gan mai Courtney Lawes - hefyd o glwb Northampton - fydd yn arwain y Saeson.

Mae'n beth anghyffredin hefyd i faswr arwain Cymru i ennill yn Llundain - yr un diwethaf i wneud hynny oedd Phil Bennett yn 1978.

"Mae'n gêm enfawr yn y calendr," medd Biggar, "ac os ydw i'n onest mae'n bwysicach y penwythnos yma gan ei bod mor allweddol yn y bencampwriaeth.

"I'r cefnogwyr, mae'n debyg bod mwy o bwyslais ar fod eisiau curo Lloegr, ond i mi mae'n brawf i gael herio tîm da iawn.

"Rhaid i ni fod ag ochr emosiynol i ni, gan wybod ei bod yn gêm enfawr pryd bynnag mae Cymru'n chwarae Lloegr, boed hynny yn Twickenham neu yng Nghaerdydd."