Disgwyl diddymu holl gyfyngiadau Covid Cymru ar 28 Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
strydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw na fydd yn rhaid i bobl wisgo mygydau na hunan-ynysu o 28 Mawrth

Mae disgwyl i holl gyfyngiadau Covid sy'n parhau mewn grym yng Nghymru gael eu diddymu ar 28 Mawrth.

Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru awgrymu dyddiad ynglŷn â phryd y gallai'r cyfreithiau ar wisgo mygydau a hunan-ynysu ddod i ben.

Mae gweinidogion wedi cyhoeddi hefyd y bydd profi "cyffredinol" yn dod i ben yn raddol o ddiwedd Mawrth.

Cymru fydd y wlad olaf yn y DU i ddiddymu'r holl gyfyngiadau coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd profi "cyffredinol" yn dod i ben yn raddol o ddiwedd Mawrth

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nos Iau y gallai'r holl gyfyngiadau Covid gael eu diddymu ar 28 Mawrth os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn aros yn sefydlog, ond y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn tair wythnos.

Yn y cyfamser bydd y cyfyngiadau'n parhau fel y mae, gyda'r angen i wisgo mygydau mewn rhai mannau cyhoeddus a'r rheidrwydd i hunan-ynysu os yn cael prawf positif.

Rhybuddiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford "nad yw'r pandemig ar ben" a'i bod yn "debygol y byddwn yn gweld patrymau amrywiol o ran yr haint ar lefel fyd-eang am sawl blwyddyn".

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo "brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn i bobl hŷn a'r rhan fwyaf o oedolion sy'n agored i niwed, a rhaglen frechu Covid-19 reolaidd o'r hydref ymlaen".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl hŷn a'r rhai mwyaf bregus yn cael brechlyn atgyfnerthu arall yn y gwanwyn

Dywedodd y bydd cynlluniau wrth gefn pe bai amrywiolyn newydd pryderus yn dod i'r amlwg, ond ei bod yn credu y bydd modd i'r GIG reoli unrhyw donnau pellach o'r feirws.

Dywed Mr Drakeford y dylai pobl barhau i wisgo masgiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a hunan-ynysu os oes ganddyn nhw coronafeirws os bydd y gofyniad cyfreithiol i wneud hynny yn dod i ben.

Ychwanegodd y bydd profion torfol yn dod i ben yn raddol dros y misoedd nesaf ond bydd profion ar gael o hyd ar gyfer grwpiau bregus yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod "eithriadau" i godi'r cyfyngiadau, er enghraifft mewn ysbytai a chartrefi gofal, ble fydd pethau'n "fwy gofalus".

Disgrifiad,

Eluned Morgan: Bydd rhaid cyrraedd pwynt lle ni'n dysgu i fyw â Covid

Wrth siarad ar Dros Frecwast, ychwanegodd y byddai mwy o fanylion yn cael ei roi gan y Prif Weinidog yn ddiweddarach ddydd Gwener ond cadarnhaodd y bydd profion am ddim yn y gweithle yn cael eu hatal o 28 Mawrth.

O ran brechu'n erbyn Covid-19 yn y dyfodol, dywedodd: "Dwi yn rhagweld y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd rhaid cael brechlyn yn flynyddol i'r bobl hynny sydd mwyaf tebygol o ddiodde' os gawn nhw Covid.

"Nid o reidrwydd i bawb, ac wrth gwrs mae hyn i gyd yn dibynnu ar y gobaith na fyddwn ni yn gweld amrywiolyn newydd fydd yn gallu peryglu ni."

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am godi'r cyfyngiadau sy'n weddill, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "hen bryd i'r Llywodraeth Lafur gydnabod o'r diwedd fod angen byw gyda Covid".

"Mae'n siom mai Cymru oedd y genedl olaf yn y DU i gael cynllun, ac y bydd ein rhyddid yn cael ei ddychwelyd i ni wythnosau ar ôl i hynny ddigwydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon," meddai Russell George.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn siomedig "na wnaeth Mark Drakeford gyhoeddi ei gynllun i'r ddeddfwrfa genedlaethol, fel y gwnaeth Boris Johnson a Nicola Sturgeon".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn manylu ar y cynlluniau yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Gwener

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae'r llywodraeth nawr yn penderfynu ble sydd angen i brofi a hunan-ynysu barhau, sydd i'w groesawu, ond mae angen i ni wybod pwy yn union fydd yn cael eu cydnabod yn y grwpiau bregus, ac wrth gwrs mae angen i ni wybod y bydd profi'n parhau am ddim."

Ychwanegodd fod angen adeiladu gwydnwch i unrhyw gynlluniau am ddyfodol systemau iechyd a gofal.

"Mae Covid yn bendant wedi gwaethygu pethau, ond roedd problemau dwfn yn bodoli cyn y pandemig," meddai.

Dywedodd felly bod angen "cynllun sy'n cynnwys datrysiadau tymor hir i fynd i'r afael â phroblemau sy'n bodoli ers peth amser".

Disgrifiad,

Dr Eilir Hughes: Angen ystyried y rhai sy'n fregus wrth i'r cyfyngiadau ddod i ben

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, fe ddywedodd y meddyg teulu, Dr Eilir Hughes ei fod "yn falch i ryw raddau" bod Cymru wedi oedi o'i gymharu â gweddill y DU cyn diddymu'r cyfyngiadau.

Mae llacio cyfyngiadau ddiwedd y mis, meddai, "yn swnio yn llawer mwy synhwyrol na 'neud o pan oedd y tywydd yn fwy garw", ond mae dal angen "balans" i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

"'Dan ni yn gw'bod bod lledaeniad y feirws yn gostwng yn nes 'dach chi yn mynd at y tywydd gwell, at yr haf," meddai.

Mae'n pwysleisio'r angen i barhau ag "arferion da" fel "gwisgo mwgwd os ydych chi efo symptomau neu ddim yn teimlo yn dda - gwnewch hynny i fod yn ystyriol o bobl er'ill.

"Mae yna botensial i newid diwylliant yma. Mae 'na fudd yma i eraill a bod ni wrth symud ymlaen yn derbyn hynny a peidio gweld bai ar bobl am fod yn ofalus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid gwisgo mwgwd o hyd ar hyn y bryd mewn salonau harddwch a thrin gwallt

Mae'r cyfyngiadau wedi aros mewn grym am hirach yn achos busnesau cysylltiad agos, fel salonau harddwch a thrin gwallt.

Dywedodd dau berchennog busnes wrth Dros Frecwast eu bod am barhau i ddilyn llawer o'r rheolau Covid hyd yn oed pan fydd y cyfyngiadau'n diflannu'n gyfan gwbl, gan fod achosion yn parhau yn y gymuned.

"Dan ni am gario' mlaen am 'chydig bach fel ydan ni, neud yn siŵr bod ni'n cadw pawb yn saff," meddai Mandy Hallas, sydd â siop trin gwallt ym Mangor.

"Ella mewn 'chydig bach bydd pobl yn dechra' teimlo'n gyffyrddus a nawn ni fynd yn slow bach, dwi'n meddwl."

Mae Lois Morgan-Pritchard, sy'n rhedeg salon harddwch yn y Ffôr ger Pwllheli, yn bwriadu parhau i wisgo masg "am rŵan", yn rhannol i ddiogelu ei chwsmeriaid mwyaf bregus.

Ond dywedodd bod unigolion hunangyflogedig hefyd yn gorfod gofalu am eu hiechyd eu hunain i osgoi colli incwm trwy salwch.

"Dwi'n teimlo bod iechyd i'n bersonol wedi altro [o ganlyniad camau atal lledu'r feirws] o ran dal annwyd neu dolur gwddw a ballu," meddai.

Dywedodd bod ei chwsmeriaid "yn reit nyrfys" er eu bod yn edrych ymlaen at beidio gorfod gwisgo mwgwd, ond bod "dal angen bod yn wyliadwrus".

Profion yn rhoi 'tystiolaeth'

Mae Mandy a Lois yn bwriadu parhau i gymryd profion Covid bob bore, hyd yn oed pan fydd yn rhaid talu amdanyn nhw.

"Dwi'n meddwl bod hynna'n bwysig, jest i weld sut ma' petha'n mynd," meddai Mandy.

"Ma' gennych chi bobl bregus yn dod trwy'r drysa', pobl sy'n mynd trw' driniaeth chemo a ballu," meddai Lois.

"'Dach chi isio 'neud yn siŵr bod chi'n cadw chi a nhw yn saff. Dim ond y profion 'ma sy'n mynd i allu rhoi tystiolaeth i ni bod ni ddim yn cario y Covid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y cleifion sydd â Covid mewn ysbytai yn parhau'n sefydlog

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod nifer y profion PCR a llif unffordd positif sy'n cael eu hadrodd yn gostwng.

Mae nifer y profion PCR positif wedi gostwng bron i 25% yn yr wythnos ddiweddaraf - cyfradd o 158.7 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl.

Cafodd tua 8,000 o brofion llif unffordd positif eu cofnodi, fyddai'n dod â'r gyfradd i ychydig dros 400, ond mae hyn yn parhau 20% yn is na'r wythnos ynghynt.

Mae nifer y cleifion sydd â Covid mewn ysbytai yn parhau'n sefydlog hefyd, gyda chyfartaledd o 432 o gleifion â coronafeirws yn ysbytai Cymru dros yr wythnos ddiwethaf.

Ond roedd tua 80% o'r rhain yn gleifion oedd yn cael eu trin am gyflyrau ar wahân i Covid.