Mygydau ddim bellach yn orfodol mewn sawl man cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfraith sy'n gwneud hi'n ofynnol i wisgo mygydau mewn nifer o fannau cyhoeddus yn cael ei llacio o ddydd Llun ymlaen.
Bellach, nid oes gorfodaeth i wisgo gorchudd wyneb mewn sinemâu, addoldai, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd.
Mae yna lacio hefyd ym myd addysg, gydag ysgolion unigol a chynghorau yn penderfynu ar y rheolau yn y dosbarth - mae'n ofynnol i'w gwisgo mewn mannau cymunedol o fewn ysgolion uwchradd.
Mae mygydau yn parhau i fod yn orfodol mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus, siopau trin gwallt, salonau, ac yn y sector iechyd a gofal.
Bydd canllawiau swyddogol Llywodraeth Cymru yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd gorchuddion wyneb fel un ffordd o helpu i ddiogelu pobl rhag y feirws.
'Rhy fuan i lacio'
Wedi iddi gael trawsblaniad afu mae Jane Jones, o'r Groeslon ger Caernarfon, wedi bod yn cysgodi i bob pwrpas ers dechrau'r pandemig.
"Dwi'm wedi bod allan fawr ddim, gweld mam yn y cartref a fawr ddim arall - ac os ydw i'n mynd allan fe fydda i bob tro yn gwisgo mwgwd ac yn diheintio.
"Mi ges i Covid yn yr hydref - ro'n i'n wirioneddol sâl ac roedd y cyfan yn ddychryn.
"Mae rhywun yn falch bod bywyd normal yn dychwelyd o'r diwedd ond eto yn bryderus.
"Fydda i'n bendant yn gwisgo mwgwd er y llacio - ma' Covid dal o gwmpas yn tydi.
"Mae'n rhy fuan eto - dwi'n poeni nad yw'r niferoedd sy'n cael eu cofnodi ar hyn o bryd yn rhoi'r darlun go iawn."
Achosion yn gostwng
"Rydyn ni wedi gweithio'n galed i sicrhau bod yr amddiffyniadau sydd gennym yn eu lle yn gymesur â sefyllfa iechyd y cyhoedd a'r risg yn sgil y coronafeirws," meddai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wrth i'r rheolau newydd ddod i rym.
"Gyda diolch i'r gwaith caled gan bawb a'r oll maent wedi'i aberthu, mae achosion o'r coronafeirws yn gostwng ledled Cymru.
"Nawr yw'r amser iawn i lacio'r gofyniad cyffredinol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do."
Cyhoeddi cynllun hirdymor
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Byddwn yn parhau â'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb, gan gynnwys mewn lleoliadau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n cael eu defnyddio'n helaeth ac sy'n sectorau hanfodol.
"Mae hyn yn rhan o'n hymateb pwyllog a gofalus i'r pandemig. Byddwn yn parhau i ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf er mwyn llywio'n dull gweithredu.
"Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn gosod ein cynlluniau hirdymor ar gyfer delio â'r pandemig wrth inni gynnal yr adolygiad tair wythnos rheolaidd o'r rheoliadau."
Yn gynharach yn y mis awgrymodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y gallai'r gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau yn yr holl leoliadau sy'n weddill gael ei godi erbyn diwedd mis Mawrth "os bydd amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022