Hybu'r Gymraeg i fewnfudwyr mewn dau o'i chadarnleoedd

  • Cyhoeddwyd
Y FenaiFfynhonnell y llun, Lukassek | Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cyfrifiad 2011, dim ond ym Môn a Gwynedd roedd dros 50% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg

Mae ymgyrch ar-lein yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg i fewnfudwyr sydd wedi symud i rai o'i chadarnleoedd.

Mae'r gwefannau gan ddau o gynghorau'r gogledd, Gwynedd a Môn, "yn cynnig siop-un-stop" gydag adnoddau i ddysgu'r iaith.

Mae yna bwyslais hefyd ar bwysigrwydd gwarchod enwau lleoedd brodorol.

Dywed un cynghorydd mai'r gobaith yw helpu newydd ddyfodiaid di-Gymraeg i ddeall pwysigrwydd yr iaith wrth symud i ardaloedd ble mae'n dal yn iaith gymunedol.

Daw'r adnoddau ychwanegol yn sgil pwysau cynyddol, medd rhai, ar ddyfodol yr iaith yn ei chadarnleoedd traddodiadol.

Er fod gan y ddwy sir y canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg - 57.2% ym Môn a 65.4% yng Ngwynedd yn ôl Cyfrifiad 2011 - mae pryderon ynghylch effaith mewnfudo, a methiant i drosglwyddo'r iaith, ar ei chryfder mewn rhai ardaloedd.

Rhybuddiodd adroddiad diweddar gan Gyngor Môn fod hi'n "ymddangos yn anochel" y byddai'r pandemig yn "cael effaith ar ddemograffeg ein cymunedau".

Gyda phryderon am yr argyfwng dai a chwyddiant ym mhrisiau eiddo, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol, aeth Strategaeth Hybu'r Gymraeg, dolen allanol ymlaen i nodi: "[Mae hyn] yn bennaf oherwydd ffyniant y farchnad dai yn ystod 2020 a 2021 a gweithio o bell sy'n caniatáu adleoli o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig ac arfordirol.

"Mae mewnfudo wedi bod yn her hanesyddol i ffyniant y Gymraeg ar Ynys Môn ac mae angen i ni fod yn realistig a pharatoi ar gyfer newid pellach a dyfnach yn nynameg ieithyddol rhai cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon ynghylch effaith mewnfudo ar rai o gymunedau'r ynys, yn ôl adroddiad diweddar gan y cyngor

Mae pryderon tebyg wedi'u codi dros y Fenai, er bod 17 o'r 20 ward yng Nghymru ble mae'r iaith ar ei chryfaf yng Ngwynedd.

Mae hyn yn rhannol oherwydd pryderon am y sefyllfa dai, gyda ffigyrau'r cyngor ei hun yn nodi fod 60% o drigolion wedi'u prisio o'r farchnad, a 11% o stoc y sir yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi.

'Gwneud y mwyaf o'r iaith'

Gan cyfeirio at lansiad yr adran o'r newydd ar wefan y cyngor, dolen allanol - sy'n cynnwys e-lyfr 'Symud i Wynedd' - dywedodd deilydd portffolio iaith Cyngor Gwynedd ei bod eisiau i bawb fod yn wybodus o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sir.

"Mae gwybodaeth wedi ei datblygu yn ddiweddar i hyrwyddo pwysigrwydd yr iaith i unrhyw un sy'n symud i Wynedd o rannau eraill o Gymru neu du hwnt," meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys.

"Rydan ni'n awyddus fod pawb sy'n byw yma yng Ngwynedd yn deall pwysigrwydd yr iaith ac yn gallu gwneud y mwyaf o'r iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, y nod yw helpu newydd ddyfodiaid ymgartrefu o fewn y gymuned

"Mae manylion am hyn ar gael ar y tudalennau newydd gan roi cyflwyniad i'r iaith Gymraeg, a'i lle ym mywyd pob dydd y boblogaeth leol a hynny ym myd addysg, yn y gwaith ac yn y gymuned ei hun.

"Yn ogystal mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i fynd ati i gynnwys y Gymraeg mewn bywyd personol a theuluol, er mwyn helpu i ymgartrefu o fewn y gymuned.

"Mae Gwynedd yn unigryw yng Nghymru fel cadarnle i'r Gymraeg - dyma rywbeth yr ydym yn falch iawn ohono ac yn rhywbeth yr ydym am ei drysori a'i feithrin i'r dyfodol."

Trosglwyddo'r Gymraeg i'r genhedlaeth nesaf

Mewn datblygiad ar wahân, mae Menter Iaith Môn wedi helpu datblygu ap dwyieithog, OgiOgi, sy'n cael ei ddisgrifio fel yr un cyntaf o'i fath ar gyfer rhieni a phlant ifanc.

Wedi'i ddatblygu yng nghanolfan M-SParc gan dîm creadigol dan arweiniad Brandified Ltd, mae'n cynnig "dros 400 o ddolenni defnyddiol at adnoddau lleol a chenedlaethol.

Mae hefyd, medd y Fenter, "yn cynnwys adran ar ddatblygiad plant ac arweiniad ar fanteision dwyieithrwydd a defnyddio'r Gymraeg o'r crud".

Mewn astudiaeth y llynedd, dolen allanol fe gododd y Fenter bryderon bod bron i chwarter teuluoedd yr ynys, ble'r oedd y ddau riant yn gallu siarad Cymraeg, ddim yn trosglwyddo'r iaith i'w plant cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd.

Daw lansiad yr ap 'OgiOgi' yn sgil adborth gan rieni ac ymarferwyr yn y maes teuluoedd, medd arweinydd Cyngor Môn - sydd, hefo Llywodraeth Cymru, wedi cyfrannu i'w gyllido.

"Mae'r ap yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau iechyd a lles lleol, arweiniad ar ddatblygiad plant, dwyieithrwydd, manteision trosglwyddo'r Gymraeg yn y cartref ac adnoddau i gefnogi rhieni di-Gymraeg i gyflwyno'r iaith i'w babi mewn ffordd hwyliog," meddai'r Cynghorydd Llinos Medi.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Mon
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Hughes o Falltraeth a'i fab Seb yn defnyddio'r ap OgiOgi

Mae Jamie Hughes o Falltraeth, tad i Seb, 3, a Nico, 5 mis, wedi bod yn profi'r ap cyn ei lansiad swyddogol ddydd Llun.

"Mae'r ap yn un handi iawn i gael popeth mewn un lle ar fy ffôn," dywedodd.

"Dwi'n hoffi'r playlist ymlacio, y linc i wybodaeth am ddatblygiad plant a gwasanaethau iechyd lleol a manylion grwpiau rhiant a phlentyn.

"Mae'r adran hwyl gyda chanu a stori yn grêt i'w ddefnyddio adref ac yn helpu i godi fy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r plant."

'Dwi'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol'

Un a aeth ati i ddysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru yn 1984 yw Carrie Rimes, sy'n rhedeg busnes cynhyrchu caws Cosyn Cymru ym Methesda.

"Doeddwn ddim yn gwybod dim am iaith a diwylliant Cymru pan ddois yma gyntaf," meddai wrth Cymru Fyw. "Doeddwn ddim hyd yn oed yn siŵr os oedd yna iaith o gwbl cyn hynny.

"Ond unwaith ddois yma roeddwn yn bendant eisiau dysgu, er pa mor anodd, gan i mi drio a methu dwywaith.

Ffynhonnell y llun, Hunaniaith Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Dysgodd Carrie Rimes y Gymraeg yn rhugl ar ôl symud o Loegr yn y 1980au

"Ond efo mab ifanc oedd am gael ei addysgu'n y Gymraeg, doedd ddim modd mod i am adael iddo fynd yn ei flaen heb i mi ddeall beth oedd yn mynd ymlaen.

"Rŵan dwi'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol, mae'n rhan o fywyd dydd i ddydd."

Mae'r ffaith bod adnoddau ychwanegol ar gael o hyn ymlaen i helpu newydd ddyfodiaid i gymunedau tebyg "yn brilliant", meddai.

Roedd gwersi Cymraeg gan gyrff fel WLPAN nôl yn yr 1980au yn "arbennig o dda, ond ar wahân i hynny doedd 'na ddim lot o'r adnoddau eraill ar gael".

Osgoi awyrgylch 'ni a nhw'

"Tydi'r ffigyrau ddim gynnon ni am faint o bobl ddoth i fyw yma yn ystod Covid," dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Dirprwy Arweinydd a deilydd portffolio iaith Cyngor Môn.

"Mae hi'n anodd mesur yn union, ac anecdotal braidd ydi [beth] 'dan ni'n glywed o ran maint y mewnlifiad i rai o'n cymunedau.

"Mi wnaethon ni weld tai yn gwerthu'n gyflymach ond 'swn i yn licio, ac mi fysa'n gymorth mawr, i weld rhyw fath o asesiad ar yr union effaith ar ddemograffi'r ynys erbyn hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Ieuan Williams: "Ymdrechu i roi mwy o adnoddau i uchafu defnydd y Gymraeg ym Môn"

Gan gyfeirio at lansiad y micro safle, dolen allanol ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r ynys, ychwanegodd fod y gwaith o'i sefydlu'n mynd rhagddo ers peth amser.

"Ymdrechu i roi mwy o adnoddau i uchafu defnydd y Gymraeg ym Môn ydi'r bwriad, rhywbeth sydd wedi bod ar y gweill oherwydd ein strategaeth hybu'r Gymraeg," meddai.

"Un o'n blaenoriaethau ni [fel cyngor] ydi creu awyrgylch lle bod hi ddim yn 'ni a nhw' ond fod pawb sy'n byw yn Sir Fôn yn falch o fyw mewn cymuned ddwyieithiog.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Un o dudalennau'r wefan newydd

"'Dan ni 'di gosod hwn i fyny i drio cyflwyno'r Gymraeg i gynulleidfa fwy eang. Mae 'na adnoddau yma i newydd-ddyfodiaid yn rhoi dipyn o gefndir, gyda'r gobaith fod y newydd-ddyfodiaid yma'n dod yn ddysgwyr o fewn amser.

"Ond mae hefyd yn deg i ddweud, a mae hwn yn dalcen caled, 'dan ni yn colli rhieni, colli y Gymraeg mewn rhai cartrefi am nad ydi rhieni yn ei basio mlaen bob amser.

"Be 'dan ni isho wneud ydi trio sicrhau fod y Gymraeg yn mynd o un genhedlaeth i'r nesa a fod ni ddim yn colli cenhedlaeth.

"Mae angen i ni drio dylanwadu gymaint a allwn ni, hefyd i fusnesau a hyd yn oed datblygwyr, a'u bod nhw yn deall pa mor bwysig ydi'r Gymraeg i'n cymunedau ni."