Peiriant creu rhew o lannau’r Fenai i bobl frodorol yr Arctig

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad cyfrifiadur o beiriant Real IceFfynhonnell y llun, Real Ice
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad cyfrifiadur o beiriant Real Ice

Mae'r syniad o beiriant chwyldroadol sydd â'r gallu i ail-rewi'r Arctig wedi cael ei gyflwyno i bobl frodorol yng ngogledd Canada ble mae'r newid yn yr hinsawdd yn achosi i'w tir ddiflannu.

Mae pobl Inuit o ardal Iqaluit yn yr Arctig, sef prifddinas tiriogaeth Nunavut yng Nghanada, yn gweld eu tir yn toddi yn gynt bob blwyddyn ac yn ôl y cwmni Real Ice, sydd wedi cael ei greu gan griw o wirfoddolwyr a chyn fyfyrwyr o Brifysgol Bangor, fe all y peiriant arbennig yma achub dyfodol cymunedau sydd o dan fygythiad.

Pwrpas y peiriant gan dîm Real Ice ydi tyllu o dan wyneb y rhew gan bwmpio dŵr i'r wyneb a chreu haen newydd o rew ar y top.

Mewn ardaloedd ble mae'r tymheredd mor isel â -50 gradd Celsius, mae modd i'r dŵr rewi'n gyflym gan greu haenau newydd fyddai'n hanfodol i fodolaeth y bobl a bywyd gwyllt lleol.

Ffynhonnell y llun, Real Ice
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Real Ice a Maer Iqaluit. O'r chwith i'r dde, y Cadeirydd Kenny Woods, y Peiriannydd Nick Penny, y Cyfarwyddwr Cian Sherwinm a'r Maer Kenny Bell. Aeth y tîm allan yno ddiwedd Chwefror 2022 i gyflwyno'r syniad

Mae cyflwyno'r syniad yn Iqaluit ar Ynys Baffin yn gam enfawr i'r tîm a'u gobaith ydi newid bywydau pobl frodorol mewn lleoliadau Arctig eraill fel yr Ynys Las ac Alaska.

"Mae'r trip i Ganada wedi bod yn grêt," meddai Joshua Roberts, sydd yn gwirfoddoli fel Cyfarwyddwr Marchnata Real Ice.

"Wnaethon ni siarad gyda phennaeth Canada i Lywodraeth Cymru a Maer Iqaluit. Roedd ganddo fo ddiddordeb mawr yn y prosiect ac roedd o isio ni fynd â phrototeip o'r peiriant yno i ni gael dangos.

"Roedd o'n deud bod pobl yr ardal yn barod ar gyfer rhywbeth fel 'ma. Maen nhw yn chwilio am ffyrdd i drwsio'r problemau sydd ganddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dinas Iqaluit yng ngogledd ddwyrain Canada sydd â phoblogaeth o 7,700. Mae pobl Iqaluit yn dibynnu ar rew er mwyn hela ond mae'r tymheredd yn codi ar raddfa cyflymach nag erioed yno sy'n achosi i'r rhew doddi

'Angenrheidiol'

Rheolwr Gyfarwyddwr Real Ice ydi Cian Sheriwn o Ddulyn, sydd â gradd Sŵoleg o Brifysgol Bangor ac mae'n arwain tîm sy'n cynnwys graddedigion a myfyrwyr o'r Unol Daleithiau, Ffrainc a'r Ffindir.

Mae'r prosiect eisoes wedi dal sylw Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig a chafodd y peiriant sylw gan gynllun 'For Tomorrow 2030' gan gwmni ceir Hyundai gyda'r actores Jessica Alba.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan for Tomorrow 2030

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan for Tomorrow 2030

Mae syniad fel hyn yn "angenrheidiol" yn ôl maer Iqualit, Kenny Bell, wrth i effaith newid hinsawdd achosi pryder mawr. Yn gynharach eleni roedd achos ble fu farw heliwr lleol ar ôl iddo ddisgyn drwy'r rhew.

"Maen nhw yn gweld y rhew yn lleihau bob blwyddyn ac maen nhw wedi colli rhywun eleni sydd yn dangos y perygl tu ôl i newid hinsawdd," meddai Joshua.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Heliwr Inuit yn edrych tua'r dŵr lle gorweddai rew ynghynt. Mae'r Inuit yn bobl frodorol gyda diwylliannau a ieithoedd eu hunain. Maent yn byw yn yr Arctig yng Nghanada, yr Ynys Las, Alaska yn yr Unol Daleithiau a Chuckotka yn nwyrain pell Rwsia

Y peiriant

Gwaith cyn-fyfyriwr Peirianneg ym Mhrifysgol Bangor, Nick Penny, ydi'r peiriant yn bennaf. Cafodd Real Ice ei ddatblygu yn y Brifysgol a bellach mae wedi ei leoli yng nghanolfan peirianneg M-SParc ar Ynys Môn.

Mae'r peiriant wedi'i seilio ar y dechneg mae cwmnïau olew yn ei ddefnyddio i dyllu ond ei fod yn llai ac yn cael ei bweru gan wynt. Mae'r dŵr yn cael ei dynnu oddi tan wyneb y rhew ac yn cael ei ollwng ar y top cyn i'r amgylchedd ei rewi'n naturiol dros fisoedd y gaeaf.

"Yn ôl ein calculations mi fedrwn ni dyfu'r wyneb 20cm cyn symud y peiriant ymlaen. Y syniad ydi ein bod yn ei wneud o drwy'r gaeaf fel bod y rhew ddigon tew i bara'r haf," meddai Joshua Roberts.

Ffynhonnell y llun, Real Ice
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad cyfrifiadur o'r peiriant

Byddai pobl frodorol yr Arctig yn gallu cael y peiriannau yma a'u defnyddio ar eu tiroedd. Mewn ardaloedd ble mae cael haen o rew yn hanfodol er mwyn cysylltu cymunedau fe all y peiriant fod yn chwyldroadol.

"Maen nhw yn defnyddio sgidŵs modur yn aml er mwyn mynd o gwmpas o un lle i'r llall, ond maen nhw angen rhew i wneud hyn," meddai Joshua. "Mi fyddai'r peiriant yn gallu cysylltu cymunedau. Mi fyddai modd iddo hefyd greu goleuadau stryd, cynnig wifi a phethau eraill i helpu bywyd pob dydd."

Mae ei faint cymharol fach a phwysau isel yn golygu y gall pobl leol ei gludo i safleoedd newydd yn hawdd gyda'u sgidŵs.

Ffynhonnell y llun, Real Ice
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Real Ice yn Iqaluit

'Newid i stad y byd'

Dim ond y cyfarwyddwr Cian Sherwin sydd yn gweithio ar Real Ice yn llawn amser gyda'r gweddill yn rhoi eu hamser sbâr i'r prosiect i geisio gwneud gwir newid yn wyneb newid hinsawdd.

"Y cam nesaf ydi trio cael sylw ar lefel uwch yng Nghymru a cheisio cael y gefnogaeth sydd ei angen er mwyn gwthio'r prosiect yn ei flaen. Mi fyddan ni yn creu tudalen crowdfunding er mwyn cael help i wneud hyn ddigwydd," meddai Joshua.

Mae'r cwmni hefyd yn cydweithio gyda Pai Language Learning, sef cwmni dysgu ieithoedd sydd hefyd wedi ei leoli yn M-SParc. Y bwriad ydi helpu ieithoedd lleiafrifol rhanbarthau'r Arctig i ffynnu trwy weithio gyda nhw a darparu eu cyrsiau iaith ar eu ap.

Ffynhonnell y llun, Real Ice

Gyda'r gefnogaeth iawn fe all peiriant Real Ice o lannau'r Fenai greu newid enfawr i bobl frodorol ar draws lleoliadau Arctig y byd. Ond gyda'r blaned yn poethi mae amser yn brin.

"Y gobaith yn gychwynnol ydi gwneud gwahaniaeth ar lefel lleol a helpu pobl frodorol i wneud ffyrdd iddyn nhw deithio arni a chreu trydan," meddai Joshua.

"Yn y dyfodol bydden ni'n hoffi gwneud gwahaniaeth ar lefel y byd a bod yn uchelgeisiol a deud ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth i gyflwr y byd wrth i newid hinsawdd newid bob dim."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig