Gwaredu mwd atomfa niwclear yn destun her gyfreithiol
- Cyhoeddwyd
![Protest](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5B3E/production/_103185332_protest.jpg)
Mae'r gwaith o ollwng mwd o safle Hinkley Point C i'r môr wedi arwain at brotestiadau
Mae disgwyl i ffrae ynglŷn â charthu mwd ger safle niwclear a'i ollwng i'r môr godi eto wrth i ymgyrchwyr gyflwyno achos o'r newydd gerbron yr Uchel Lys.
Cwmni EDF sydd wrthi'n palu cannoedd ar filoedd o dunelli o waddod o wely'r môr wrth ymyl atomfa newydd Hinkley Point C.
Ar ôl i'w gwaith blaenorol o ollwng y mwd oddi ar arfordir Cymru ger Caerdydd achosi dadlau ffyrnig, mae'r cwmni bellach yn defnyddio safle arall ger Portishead yng Ngwlad yr Haf.
Mae ymgyrchwyr wedi codi pryderon y gallai'r mwd fod wedi'i lygru, ond mae EDF yn mynnu nad yw'n peri unrhyw fygythiad.
'Gwaith arferol'
Cafodd y cwmni ganiatâd gan Sefydliad Rheolaeth Forol Lloegr (MMO) ar gyfer y dympio mwd diweddaraf ym mis Awst, gydag un rhan o'r gwaith eisoes wedi'i gwblhau.
Mae angen i'r carthu ddigwydd fel rhan o'r gwaith i osod system oeri enfawr yr atomfa newydd, gyda rhagor o ollwng mwd dan ystyriaeth yn ddiweddarach yn 2022.
Dweud mae'r cwmni bod hyn yn waith arferol - yn syml iawn, symud mwd o un rhan o aber Afon Hafren i fan arall.
Ond mae ymgyrchwyr wedi honni y gallai'r broses fod yn codi gollyngiadau hanesyddol o lygredd niwclear o hen atomfeydd Hinkley A a B i'r wyneb.
![Hinkley Point C plant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A6EC/production/_85723724_29ghzfch.jpg)
Dyluniad o sut bydd Hinkley Point C yn edrych ar ôl ei chwblhau
Mae'r safle dympio diweddaraf hefyd yn agos at ardal o ddiddordeb gwyddonol eithriadol, tra bod y carthu a'r dympio yn digwydd o fewn ardal cadwraeth arbennig moryd Afon Hafren - sy'n cael ei ystyried yn gynefin bwysig ar gyfer magu pysgod a bywyd gwyllt yn gyffredinol.
Bellach mae casgliad o grwpiau amgylcheddol, dan faner Tarian Hafren, yn herio penderfyniad yr MMO i ganiatáu'r gwaith, gydag adolygiad barnwrol i gychwyn yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth.
Bydd cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr yn dadlau nad oedd gan yr MMO yr hawl i adolygu'r drwydded wreiddiol a roddwyd i EDF ar gyfer y gwaith adeiladu yn y môr, i gynnwys "gwaredu mwd drwy'i ollwng".
Angen trwydded ar wahân?
Roedd hyn yn weithgaredd newydd, gwahanol mewn lleoliad gwahanol, a dylai fod wedi haeddu trwydded ar wahân, medden nhw.
Maen nhw'n dweud y byddai hyn wedi galluogi mwy o archwilio gan y cyhoedd, ac ymchwiliad cyhoeddus - sef un o alwadau Cyngor Gogledd Gwlad yr Haf.
Yn ystod y gwrandawiad - sydd i fod i bara am dridiau - fe fydd yr ymgyrchwyr yn dadlau hefyd bod yr MMO wedi methu â chymryd i ystyriaeth y goblygiadau posib o ran bywyd morol ac a allai'r gwaddod fod wedi'i ollwng ar y tir yn hytrach nac yn y môr.
"Mae 'na opsiynau eraill. Roedd hyn yn benderfyniad gafodd ei wneud er cyfleustra ac elw, nid drwy angenrheidrwydd nac ystyriaeth ar gyfer yr amgylchedd na chenedlaethau'r dyfodol," meddai llefarydd Tarian Hafren, Cian Ciarán.
![Aber Afon Hafren](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8B14/production/_118740653_2b1cc8d2-73ad-4f86-8e6b-91cf67f0c777.jpg)
Mae rhannau o aber Afon Hafren yn safleoedd cadwraeth arbennig
Yn adnabyddus fel chwaraeydd allweddellau'r Super Furry Animals, mae'r ymgyrchydd gwrth-niwclear wedi wynebu EDF yn y llys o'r blaen ynglŷn â dympio mwd oddi ar Fae Caerdydd yn 2018.
Bryd hynny cafodd yr her gyfreithiol ei ollwng ar ôl i'r ymgyrchwyr sicrhau dadl lawn o aelodau'r Senedd ar y pwnc.
Mae bellach yn cyhuddo EDF o "geisio osgoi cael eu harchwilio drwy redeg i ochr draw Môr Hafren".
"Mae'n rhaid i ni ddod ynghyd fel cymuned o bobl i warchod Môr Hafren a'i ecoleg sydd mor werthfawr," meddai.
![Cian Ciarán](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7C35/production/_123579713_gettyimages-71067518.jpg)
Fe wnaeth Cian Ciarán o'r Super Furry Animals gymryd EDF i'r llys yn 2018 dros waredu â mwd Hinkey ger Caerdydd
Dywedodd Chris Fayers, pennaeth amgylchedd EDF ar gyfer Hinkley Point C bod carthu mwd ym Môr Hafren yn "arferol" a bod "profi helaeth gan asiantaeth gwyddoniaeth morol CEFAS Llywodraeth y DU wedi dangos bod y mwd yn ddiogel ac na fyddai'n peri unrhyw fygythiad i'r cyhoedd na'r amgylchedd".
Ychwanegodd bod "adroddiad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad bod y mwd yn addas i'w waredu yn y môr" a bod y cwmni wedi "cyfathrebu'n effeithiol gyda rhanddeiliaid a bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gwblhau".
"Mae Hinkley Point C yn un o brosiectau mwyaf Prydain yn y frwydr i warchod yr amgylchedd rhag newid hinsawdd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran yr MMO: "Cafodd y drwydded forol ei diwygio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ar sail y dystiolaeth wyddonol orau oedd ar gael."
Ychwanegodd na fyddai'n addas i wneud sylw pellach tra bod yr achos llys yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2018
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2016