Haint dŵr: 'Pobl ddim yn sylweddoli bod o'n anabledd'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'm yn meddwl bod pobl yn sylweddoli bod o'n medru bod yn anabledd. Mae'n wbath sy' ddim yn weledol ond ma' pobl yn stryglo efo fo o ddiwrnod i ddiwrnod."
Ers genedigaeth ei merch ddegawd yn ôl, mae Ceira Wyn, 39 o ardal Caernarfon, wedi cael un haint dŵr (UTI) ar ôl y llall ac mae wedi effeithio ar ei bywyd bob dydd.
"Fedra i fod yn siarad gyda rhai o'r genod dwi'n gweithio gyda - mae'n medru bod yn jôc - ynghanol sgwrs dwi'n gorfod torri ar draws a dweud 'dwi'n gorfod mynd i'r toiled' neu beryg i fi gael damwain," meddai Ceira.
A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae gwyddonydd o dde Cymru wrthi'n datblygu teclyn i gyflymu'r broses o adnabod y salwch a sicrhau diagnosis mwy cywir.
Dywedodd Ceira bod ei chyflwr wedi gwaethygu yn 2013 gyda phroblemau ychwanegol gyda'i harennau.
Bu'n rhaid iddi roi'r gorau i weithio am gyfnod a chafodd ei chludo deirgwaith mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd.
'Wedi pasio allan fwy nag unwaith'
"Ro'n i'n cael poen ofnadwy i'r pwynt roedd gen i morphine yn y tŷ," meddai.
"'Ro'n i mewn cyn gymaint o boen ar adegau, dwi wedi pasio allan fwy nag unwaith.
"Mae hyn i gyd i neud gyda'r kidneys a'r broblem dŵr. Bu'n rhaid i fi fynd yn breifat yn y diwedd i gael ymchwiliad.
"Fe roddon nhw stent yn y kidneys lawr i'r bladder, a'r stent yna am 10 diwrnod, oedd yn erchyll."
Mae Dr Emma Hayhurst, uwch-ddarlithydd bioleg foleciwlaidd ym Mhrifysgol De Cymru, wrthi'n datblygu teclyn fydd yn cyflymu'r broses o adnabod haint dŵr ac yn sicrhau diagnosis mwy cywir.
Dywedodd bod yr haint yn gyffredin iawn yn fyd-eang ac yn effeithio ar un o bob dwy fenyw, ond bod y ddiagnosteg 50 mlynedd ar ei hôl hi ym Mhrydain.
"Ar hyn o bryd mae claf yn darparu sampl wrin sy'n cael ei anfon i'w ddadansoddi, gyda phrofion yn ôl mewn dau neu dri diwrnod," meddai.
"Dyw hynny ddim yn ddigon da. Mae angen i ni ei wneud yn gyflymach."
Canlyniad o fewn hanner awr
Eglurodd Dr Hayhurst y byddai'r ddyfais y mae hi'n ei ddatblygu yn galluogi clinigwr i ddweud o fewn hanner awr pa facteria oedd yn achosi'r haint dŵr ac os mai dyna'r broblem yn y lle cyntaf.
Dywedodd y byddai'n newid y ffordd byddai cyffuriau gwrthfiotig yn cael eu rhoi i gleifion.
Ei gobaith hefyd yw y bydd nyrsys yn gallu defnyddio'r dyfeisiau wrth ymweld â chleifion yn y gymuned a chartrefi henoed gan fod heintiau dŵr yn cynyddu gydag oedran.
Mae Dr Hayhurst wedi derbyn £50,000 gan Wobrau Menywod mewn Arloesedd i ddatblygu ei gwaith. Bydd yr arian hefyd yn ei galluogi i weithio ar geisio cynyddu cynrychiolaeth menywod o fewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Dywedodd Sera Evans, pennaeth recriwtio myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru, bod Dr Hayhurst yn arwain y ffordd ac y bydd yn dylanwadu ar wyddonwyr benywaidd y dyfodol.
"Mae'n gallu ysbrydoli menywod ifanc i astudio gwyddoniaeth, mathemateg, peirianneg a thechnoleg oherwydd 'dan ni'n gwybod bod dim digon o fenywod yn astudio'r pynciau hynny," meddai.
"O ystyried bod rhywun fel Emma wedi gallu datblygu'r prawf cyflym hwn, mae'n ysbrydoledig tu hwnt, nid yn unig i fenywod ond i bobl ifanc yn gyffredinol, a'r ffaith hefyd bod y prawf yma'n berthnasol i fywyd bob dydd."
'Menywod ddim wedi cael chwarae teg'
Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn cyhoeddi datganiad ansawdd yn yr haf fydd yn canolbwyntio ar iechyd menywod, a'u triniaeth yn y gwasanaeth iechyd.
"Mae'n bwysig bod ni'n deall bod 'na gyfleoedd i fenywod i gael y driniaeth sydd angen arnyn nhw, ac yn aml dy'n nhw ddim wedi cael y gwrandawiad a'r chwarae teg sydd angen arnyn nhw yn yr NHS," meddai.
"Er enghraifft os chi'n edrych ar ymchwil, mae 'na lai o ymchwil efallai ar broblemau menywod na sydd wedi bod i rai o'r triniaethau a'r problemau eraill.
"Os chi'n edrych ar broblemau'r galon, mae menywod yn dioddef lot fwy na dynion pan mae'n dod i broblemau calon, ac eto 'dan ni ddim wedi gweld y math o ymchwil mewn i'r broblem yna yn uniongyrchol yn canolbwyntio ar fenywod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021