Llai o gyfleoedd swyddi i raddedigion rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu gwrthod o swyddi yng Nghymru gan "nad yw'r farchnad lafur yn ymddiried" ynddyn nhw.
Dyna y mae Sherifat Abubakbar, 33, yn honni, gan iddi fethu â chael unrhyw swydd ym maes gofal iechyd ar ôl symud o Nigeria yn 2021 i wneud cwrs Meistr yng Nghymru.
Dywedodd elusen Cymorth Iechyd Meddwl BAME (BMHS) bod hyn yn brofiad cyffredin, sy'n arwain at raddedigion yn gadael Cymru a'r wlad yn colli talent.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn lansio cynllun newydd ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau ddydd Mawrth.
Mewn arolwg blynyddol gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), roedd 50% of fyfyrwyr y DU a raddiodd o brifysgolion Cymru mewn swyddi llawn amser 15 mis ar ôl gorffen eu cyrsiau israddedig.
Ond i fyfyrwyr rhyngwladol, roedd y ffigwr lawer yn is - 34%.
Mae'r bwlch yn llai ar gyfer myfyrwyr ôl-radd, ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn edrych ar fyfyrwyr a raddiodd cyn y pandemig - 2018/19 - ac mae pryderon y gallai Covid fod wedi gwaethygu'r sefyllfa.
Symudodd Ms Abubakar i Gymru a thalodd £18,000 ar gyfer ei chwrs Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Fel sawl myfyriwr rhyngwladol arall, mae ei fisa fel myfyriwr yn golygu bod pwysau arni i gael swydd.
'Ddim yn ymddiried mewn profiad di-Gymreig'
Dywedodd ei bod hi wedi gobeithio y byddai'r swydd yn agor drysau i yrfa ddisglair, ond ar ôl cael ei gwrthod sawl gwaith, mae'n teimlo nad yw'r radd "hyd yn oed yn cyfrif", er y galw uchel am weithwyr ym maes iechyd.
"Ro'n i'n disgwyl, os ydyn nhw angen staff a fy mod i'n fodlon, y dylwn i allu cael y swydd. Ond wedyn dwi'n cael fy ngwrthod am ddim rheswm amlwg ac mae hynny'n syndod ac yn siom."
Mae Ms Abubakar nawr yn cwestiynu a yw'r sefyllfa y mae ynddi yn werth yr aberth ariannol a phersonol, wrth iddi wynebu'r posibilrwydd o orfod dychwelyd adref at ei merch heb swydd, a chefnu ar y freuddwyd o symud i Gymru.
"Weithiau dwi'n meddwl os na wnaiff hyn weithio, wedyn mi fyddai wedi bod yn aberth ddibwynt, a gallai hi [ei merch] fod mewn gwaeth sefyllfa, gan fy mod i mewn gwaeth sefyllfa.
"Dyw'r farchnad lafur ddim yn ymddiried rhyw lawer mewn profiad di-Gymreig neu [profiad sydd ddim o'r] DU," dywedodd.
"Dwi jyst eisiau'r cyfle i wneud rhywbeth, i gyfrannu fy nghwota."
'Adlewyrchu'r heriau a'r bias'
Dywedodd y Gweinidog Economi, Vaughan Gething fod y ffigyrau ar gyfer graddedigion rhyngwladol y "adlewyrchu rhai o'r heriau a'r bias sy'n dal i fodoli o fewn ein gwlad".
"Dyna pam fod un o'r pwyntiau yn ein cynllun newydd am waith teg. Mae angen i bobl edrych, nid yn unig ar beth maen nhw'n ei wneud a sut maen nhw'n trin eu gweithwyr, ond pwy ydy eu gweithlu nhw yn y lle cyntaf," meddai.
"Mae pob rhan o'r economi yn dweud wrtha i fod yna ddiffyg sgiliau a gweithwyr. Byddai cymryd mantais o'r talent sydd gennym ni eisoes yn ddechrau da."
Fe sefydlodd Alfred Oyekoya elusen BMHS yn Abertawe er mwyn mynd i'r afael ag effaith straen economaidd ar iechyd meddwl pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Yn gynharach eleni, fe ddywedodd iddo weld hysbyseb am "brinder staff yn y sector iechyd" a galwad am geisiadau.
Trwy BMHS, fe lwyddodd i helpu dros 40 o bobl - gan gynnwys 20 o ddoctoriaid oedd wedi cymhwyso - i gyflwyno ceisiadau, ond dywedodd nad oedd un cais yn llwyddiannus.
Ychwanegodd na dderbynion nhw "unrhyw adborth ar y ceisiadau chwaith".
Yn ôl Mr Oyekoya, mae Cymru'n "colli allan ar dalent a sgil rhyngwladol".
'Rhifau ddim yn cyd-fynd â'r adnoddau'
Yn 2019, fe osodwyd targed gan Lywodraeth y DU i ddenu 600,000 o fyfyrwyr rhyngwladol bob blwyddyn - a llwyddodd i gyrraedd y targed hynny 10 mlynedd yn gynt na'r disgwyl.
Ond yn ôl Helen Atkinson o AGCAS - cymdeithas sy'n rhoi cyngor gyrfaoedd i raddedigion - mae pryder bod gormod o bwyslais ar dargedau yn hytrach na swyddi.
"Mae'n edrych yn dda iawn o ran rhifau, ond beth sydd ddim yn cyd-fynd yw'r ffocws a'r adnoddau sy'n cael ei roi i ganlyniadau graddedigion a chefnogi graddedigion rhyngwladol i swyddi yn y DU," meddai.
Ychwanegodd bod AGCAS yn credu bod rhwystrau logistaidd ar gyflogwyr sydd weithiau'n gallu eu gwneud yn llai tebygol o gynnig swyddi i fyfyrwyr rhyngwladol.
Mewn datganiad, dywedodd tîm recriwtio Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod yn "recriwtio'n rhyngwladol yn gyson".
Ychwanegodd, fodd bynnag, ei fod yn gallu bod yn her gan nad yw "cymryd staff o dramor, gan gynnwys myfyrwyr o dramor, bob amser yn broses hawdd gan y gallai eu fisas, cofrestriadau a rheoliadau eraill atal eu hawl i weithio a'u cyfleoedd am gyflogaeth yn syth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020