Dau yn euog o lofruddio tad wrth ddwyn ei fag Gucci

  • Cyhoeddwyd
Ryan O'Connor
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ryan O'Connor ar ôl cael ei drywanu yn ei galon a'i ysgyfaint

Mae llanc yn ei arddegau a dyn 20 oed wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth wedi i dad gael ei drywanu wrth i bum dyn ddwyn bag drudfawr Gucci oddi arno.

Cafodd Ryan O'Connor, 26, ei drywanu yn ei galon a'i ysgyfaint yn yr ymosodiad yng Nghasnewydd fis Mehefin y llynedd.

Roedd Joseph Jeremy, 18 oed a Lewis Aquilina, 20 oed, yn ogystal â thri dyn arall, wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a lladrata.

Clywodd y llys fod Jeremy wedi ymosod ar Mr O'Connor gyda chyllell hela 15 modfedd o hyd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwaed Ryan O'Connor ar y gyllell hon mewn cerbyd y gwnaeth yr heddlu ei gwrso yn dilyn yr ymosodiad

Fe benderfynodd y rheithgor yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Llun fod Jeremy yn euog o lofruddiaeth Ryan O'Connor.

Ddydd Mawrth dychwelodd y rheithgor i'r llys wedi trafod ymhellach a chael Aquilina hefyd yn euog o lofruddiaeth.

Yn ogystal, cafwyd Kyle Rasis, 18, yn euog o ddynladdiad a lladrata; tra cafwyd Ethan Strickland, 19, yn ddieuog o lofruddiaeth a dynladdiad.

Cafwyd Strickland ac Aquilina yn euog o ddwyn.

Mae pumed cyd-ddiffynnydd Elliot Fiteni, 20, wedi ei ganfod yn ddieuog o bob cyhuddiad.

Ymosodiad 'chwim a milain'

Clywodd y rheithgor bod y diffynyddion wedi teithio o Gaerdydd i Gasnewydd, ar 10 Mehefin y llynedd, mewn car Ford Fiesta oedd wedi ei ddwyn.

Yn ôl yr erlyniad fe wnaethon nhw weld Mr O'Connor yn Ffordd Balfe ar Stad Alway'r ddinas a phenderfynu dwyn ei fag Gucci oddi arno.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Gwelodd y rheithgor luniau o Joseph Jeremy, Ethan Strickland a Kyle Rasis yn dal cyllyll

Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio yn un "chwim a milain".

Tua 45 munud yn ddiweddarach fe welodd yr heddlu'r car Ford Fiesta yn Ffordd Pentwyn, yng Nghaerdydd.

Fe wnaethon nhw ddechrau ei gwrso ar gyflymder uchel cyn i swyddogion ei orfodi i stopio.

Yn y cerbyd fe ddaethon nhw o hyd i gyllell â gwaed Mr O'Connor arno.

Pynciau cysylltiedig