18 mlynedd o garchar i ddyn am lofruddio ei ffrind
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a laddodd cyfaill trwy ei daro ar ei ben gyda morthwyl hollt wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Lee Whitlock, 53, wedi taro Robert Farley, 61, sawl tro mewn ymosodiad "milain", yn ei gartref ei hun yn Y Barri, yn dilyn dadl dros arian.
Newidiodd Whitlock ei ble ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddydd Llun, gan gyfaddef ei fod yn euog o'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Bydd yn rhaid i Whitlock dreulio 18 mlynedd yn y carchar cyn cael gwneud cais am barôl.
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams ei fod heb ymddangos yn edifar ynghylch yr ymosodiad.
Ymddygiad 'afreolaidd'
Roedd y ddau ddyn wedi bod yn yfed gyda'i gilydd yn fflat Mr Farley cyn iddo gael ei ddarganfod yn farw yn yr eiddo, yn yr oriau mân fore Gwener, 3 Medi 2021.
Mae teulu Mr Farley wedi trafod ei broblemau gydag alcohol cyn ei farwolaeth, ac fe glywodd y llys ei fod "yn ystod yr adegau hapusach" yn berson "cymdeithasol gyda nifer fawr o ffrindiau".
Yn dilyn yr ymosodiad fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal Knapp Y Barri a dod ar draws Whitlock, oedd yn "ymddwyn yn afreolaidd".
Fe wnaeth yntau dywys yr heddlu i fflat Mr Farley, ar stryd West Walk yn ardal Colcot ble daethpwyd o hyd i'r corff.
Roedd Whitlock wedi dweud wrth blismyn bod y ddau'n ffrindiau. Ar ôl cael ei arestio fe wadodd bod â rhan yn y farwolaeth, gan geisio rhoi'r bai ar ddyn arall.
Clywodd y llys bod tyst wedi gweld morthwyl yn syrthio o drowsus Whitlock yn dilyn yr ymosodiad. Dyw'r heddlu dal heb ddod o hyd i'r arf a laddodd Mr Farley.
"Roedd hyn yn ddigwyddiad na chafodd ei drefnu o flaen llaw," meddai Sarah Jones QC, ar ran yr amddiffyn.
"Roedd y ddau yn yfed gyda'i gilydd, fel y roedden nhw wedi'i wneud sawl gwaith o'r blaen, ac fe gododd ddadl, y cyflawnwyd llofruddiaeth yn ei chanol.
"Cafodd yr arf ei gymryd o sil ffenestr fflat Mr Farley, yn hytrach na'i gludo yno gan Mr Whitlock."
'Unrhyw edifeirwch yn rhy ddiweddar'
Dywedodd y barnwr nad oedd bwriad o flaen llaw i ymosod, ond bod Mr Farley heb farw'n syth, ac mai'r unig ddedfryd yw un o garchar am oes.
Fe wnaeth sawl elfen waethygu'r drosedd, meddai, gan gynnwys defnyddio morthwyl ac yna ei guddio.
"Roedd Mr Farley yn fregus gyda chyflwr y galon ac roedd ei iechyd yn dirywio," dywedodd wrth Whitlock.
"Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ei gartref, ac mae gyda chi euogfarnau blaenorol.
"Yn fy marn i, does dim gwir dystiolaeth o unrhyw wir edifeirwch yn yr achos yma. Mae unrhyw edifeirwch ar eich rhan yn rhy ddiweddar."
Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos fod gwaith trwyadl swyddogion Heddlu'r De "wedi casglu tystiolaeth mor gryf yn ei erbyn" nes bod Whitlock wedi pledio'n euog a'i fod nawr "yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd".
Ychwanegodd y Ditectif Prifarolygydd Mark Lewis fod "perfformiad' Whitlock ar gyfer swyddogion... yn honni na wyddai dim beth ddigwyddodd i rywun roedd yn ei alw'n ffrind, wir yn dangos y diffyg edifeirwch o ddechrau'r ymchwiliad".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2021
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022