Logan Mwangi: Diffynnydd 14 oed 'eisiau ei ladd'

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr toc wedi 06:00 ar 31 Gorffennaf 2021

Clywodd llys bod llanc 14 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio Logan Mwangi wedi dweud wrth bobl ei fod eisiau lladd y bachgen 5 oed yn ystod yr wythnosau cyn ei farwolaeth.

Mae'r llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi'i gyhuddo ynghyd ag Angharad Williamson, 30, a'i phartner John Cole, 40, o ladd Logan Mwangi.

Cafwyd hyd i Logan yn farw yn yr afon ym Mharc Pandy, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr yn gynnar ar fore 31 Gorffennaf y llynedd.

Mae'r tri yn gwadu lladd y bachgen 5 oed.

'Anghenfil'

Dydd Llun clywodd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd gan deulu maeth a fu'n gofalu am y llanc, gan ddweud eu bod "ei ofni" a chyfeirio ato fel "anghenfil".

Ychwanegodd y teulu na wnaeth y bachgen 14 oed erioed alw Logan Mwangi wrth ei enw, ond yn hytrach gyfeirio ato fel "yr un 5 oed," ac ei fod ar sawl achlysur wedi dweud ei fod eisiau lladd Logan.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ger ei gartref ym mhentref Sarn

Dywedodd un o'r tystion fod y llanc wedi gofyn i blant eraill os fyddai modd chwarae "gemau llofruddiaeth" gyda nhw a'u "rhoi mewn bagiau du".

Ychwanegodd y tyst fod y bachgen 14 oed "wastad yn siarad am ladd pobl", "oherwydd ei gemau [cyfrifiadurol]", a'i fod yn gwneud iddi deimlo'n "anghyfforddus".

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn hoffi ffilmiau treisgar 'The Purge', gan fygwth lladd ei holl deulu os byddai sefyllfa debyg i'r ffilmiau yn cael ei wireddu - ble mae pob trosedd, gan gynnwys llofruddiaeth, yn gyfreithiol am gyfnod o 12 awr.

Anafu ci

Fe wnaeth aelod arall o'r teulu ddisgrifio fod y llanc wedi achosi poen i'w ci, oedd eisoes wedi'i anafu, ac wedi chwistrellu diaroglydd yn ei lygaid.

Clywodd y rheithgor hefyd gan Chloe Paddick, gweithiwr cymdeithasol Logan, a gyfeiriodd at Logan fel "bachgen hyderus iawn" a nad oedd ganddi unrhyw bryderon yn ystod ei hymweliad fis Mehefin.

Clywsant hefyd fod Angharad Williamson wedi cysylltu a Chloe Paddick ar 30 Gorffennaf gan adael neges yn gofyn iddi'i ffonio nôl "mor fuan a phosib".

Ond ni wnaeth Ms Paddick ymateb gan ei bod i ffwrdd ar ei gwyliau, a ni chlywodd gan Ms Williamson eto.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole yn gwadu llofruddiaeth Logan Mwangi

Hefyd yn rhoi tystiolaeth dywedodd cymydog, Sheryl Lewis, ei bod wedi gweld John Cole ar y ffôn ar y diwrnod y darganfuwyd corff Logan.

Dywedodd ei fod yn crio ac yn dweud wrth y person ar y ffôn, "helpa fi helpa fi, be wna'i, be wna'i".

Mae Angharad Williamson, John Cole a'r bachgen 14 oed na ellir ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.

Mae Angharad Williamson a'r llanc 14 oed hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu.

Mae John Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig