Logan Mwangi: Llys yn clywed am ymosodiadau llanc arno

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr ym mis Gorffennaf

Roedd llanc yn ei arddegau, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio bachgen pum mlwydd oed, wedi ei wthio i lawr grisiau, ac wedi torri ei fraich mewn ymosodiad blaenorol, clywodd llys.

Cafodd corff Logan Mwangi, gyda 56 o anafiadau, ei ddarganfod yn Afon Ogwr yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, fis Gorffennaf y llynedd.

Clywodd y llys alwad ffôn 101 gan fam Logan, Angharad Williamson, lle'r oedd wedi dweud wrth yr heddlu bod y llanc 14 oed wedi cyfaddef iddo frifo Logan yn flaenorol.

Mae Ms Williamson, 30, llysdtad Logan, John Cole, 40, a'r llanc 14 oed yn gwadu llofruddiaeth.

Troi braich ei mab

Gwnaeth Ms Williamson yr alwad ffôn i'r heddlu ym mis Ionawr 2021, lle'r oedd yn pledio am help gan ddweud: "Roeddem yn meddwl ei fod wedi disgyn i lawr y grisiau" ond mai'r llanc "oedd yr un a'i gwthiodd".

Chwe mis cyn hynny aeth Ms Williamson â Logan i'r ysbyty, a dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi clywed cyfres o synau uchel iawn a'i bod wedi sylweddoli bod Logan wedi disgyn i lawr y grisiau.

Disgrifiodd i'r heddlu sut yr oedd hi wedi troi braich ei mab er mwyn ceisio "ei phopio" hi'n ôl i'w lle, gan gyfaddef bod hyn yn debygol o fod y peth anghywir i'w wneud.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole wedi eu cyhuddo o lofruddio Logan Mwangi

Clywodd Llys y Goron Caerdydd dystiolaeth am gefndir y bachgen 14 oed gan dystion oedd wedi gweithio gydag ef ar wahanol adegau yn ystod ei blentyndod.

Yn ôl gweithiwr cefnogi teuluoedd, a oedd yn ei adnabod pan oedd yn wyth oed, roedd y llanc yn ymosodol.

Ei chyfarfyddiad cyntaf ag ef oedd y "sesiwn ymrwymiad mwyaf anodd dwi wedi ei wneud erioed gyda phlentyn", meddai.

Roedd yn colli ei dymer yn rheolaidd yn yr ysgol, yn dyrnu tyllau mewn waliau a drysau ac yn gwneud unrhyw beth er mwyn cael sylw, meddai.

Cafodd ei gofrestru ar gyfer gwersi crefft ymladd er mwyn ceisio rheoli ei hyrddiau treisgar.

Dywedodd rheolwr y ganolfan crefft ymladd lle'r oedd yn arfer bod yn aelod, bod gan y bachgen sgiliau Muay Thai, yn cynnwys "ergydion i'r corff, ergydion â'i benelin, ciciau, daliadau pen, ac ymarfer paffio".

Dyrnu a chicio plant eraill

Clywodd y llys gan athro a gefnogodd y llanc pan oedd ym Mlwyddyn 6, a ddywedodd y byddai'n defnyddio iaith ddifrïol, ac yn cael hyrddiau treisgar lle byddai'n dyrnu a chicio plant eraill.

Mae Ms Williamson, Cole a'r llanc na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, oll yn gwadu llofruddiaeth.

Cafodd y tri hefyd eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu.

Plediodd Ms Williamson a'r llanc yn ddieuog i'r ddau drosedd, tra cyfaddefodd Cole iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r achos yn parhau.