Taro neu ysgwyd plentyn bellach yn drosedd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Hysbyseb Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r newid wedi ymgyrch hir gan elusennau a gwleidyddion

Mae cosbi plant yn gorfforol bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru, yn dilyn newid i'r gyfraith a ddaeth i rym ddydd Llun.

Mae'n golygu y bydd pobl yn cyflawni trosedd os ydyn nhw'n taro neu'n ysgwyd plentyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hwn yn gam "hanesyddol" sydd yn golygu y bydd gan blant yr un hawliau ag oedolion.

Ond yn ôl gwrthwynebwyr fe allai'r newid arwain at gosbi "mamau a thadau cariadus".

Daw'r gwaharddiad smacio wedi ymgyrch hir gan elusennau plant a sawl gwleidydd dros newid y gyfraith.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn dileu'r amddiffyniad o "gosb resymol" mewn achosion o ymosodiad cyffredin.

Fe wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol, sef enw'r Senedd ar y pryd, ei phasio ym mis Ionawr 2020.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Julie Morgan AS wedi ymgyrchu dros wahardd taro plant am flynyddoedd

Wrth groesawu'r ddeddf newydd dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i blant a'u hawliau yng Nghymru wrth i ni roi'r arfer o gosbi plant yn gorfforol y tu ôl i ni."

Roedd Ms Morgan yn un o'r rhai fuodd yn galw ers blynyddoedd am waharddiad smacio, a thorrodd hi'r chwip Llafur dros y mater yn 2015.

"Dwi wedi ymgyrchu i'w gwneud yn anghyfreithlon cosbi plant yn gorfforol ers dros 20 mlynedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i dynnu sylw at y ddeddf newydd

"Dwi wrth fy modd y bydd plant, o'r diwedd, o heddiw ymlaen yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion.

"Mae'r gyfraith yn glir bellach - ac yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ei deall.

"Mae cosbi corfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru a galla i ddim dweud wrthoch chi pa mor hapus mae hynny'n fy ngwneud i."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeddf yn blaenoriaethu hawl plant i ddiogelwch, medd y Comisiynydd Plant Sally Holland

Cymru ydy'r ail ran o'r Deyrnas Unedig i wahardd smacio, ar ôl i'r Alban wneud y newid ym mis Tachwedd 2020.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland: "Dwi wrth fy modd heddiw yn deffro mewn gwlad sy'n rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.

"Mae hawliau plant i ddiogelwch, iechyd ac i gyrraedd eu llawn botensial yn cael blaenoriaeth ac amddiffynfa glir, ddiamwys heddiw.

"Fel oedolion dydyn ni ddim yn derbyn trais corfforol mewn unrhyw agwedd o'n bywydau ac fel cenedl, rydyn ni'n gwbl glir heddiw ein bod ni ddim yn ei dderbyn ym mywydau'n plant chwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Calvert o'r grŵp Be Reasonable yn feirniadol o'r ddeddf newydd

Ond yn ôl Simon Calvert o'r grŵp ymgyrchu Be Reasonable, fe allai'r gyfraith "droi mamau a thadau cariadus cyffredin yn droseddwyr am wneud dim mwy na'r hyn a wnaeth ein mamau a'n tadau cariadus gyda ni".

"Rwy'n meddwl y bydd rhai teuluoedd yn dioddef yn anghyfiawn o ganlyniad i'r gyfraith hon a chredaf ein bod yn mynd i weld galwadau cynyddol yn y blynyddoedd i ddod i ailedrych ar y gyfraith hon," ychwanegodd.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y gwaharddiad yn "ddiangen", a'i bod wedi cael ei wthio drwy'r Senedd "gan bobl sy'n credu eu bod nhw'n gwybod yn well na rhieni".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ddeddf yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn colli rheolaeth gyda phlentyn, medd Sioned Lewis

Dywedodd Sioned Lewis, sy'n gweithio fel seicotherapydd yn ardal Caernarfon, fod y gwaharddiad yn "gam i'r cyfeiriad cywir" ond fod angen mynd ymhellach.

"Dwi'n gweithio efo emosiynau ac efo sgil-effeithiau camdriniaeth emosiynol yn amlach o lawer na chamdriniaeth gorfforol, felly dwi'n dod o'r gogwydd bod o yn dda, ond wedyn dydy o ddim yn gyflawn-cyfro yr holl gamdriniaeth," meddai.

"Beth sydd yn dda ynglŷn ag o ydy bod o'n gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn falle mynd lawr trywydd o golli rheolaeth drostyn nhw eu hunain, achos arwydd o golli rheolaeth gan oedolyn ydy rhoi slap neu fod yn annifyr gyda phlentyn."

Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros blant, y byddai'r blaid yn "parhau i gefnogi deddfau sy'n diogelu hawliau plant yng Nghymru" wedi iddyn nhw ymgyrchu dros eu diogelwch "ers amser maith".

Pynciau cysylltiedig