'Oriau, o bosib' cyn i fachgen farw wedi anafiadau

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr, ger ei gartref yn ardal Sarn, fis Gorffennaf y llynedd

Mae llys wedi clywed bod hi'n bosib bod bachgen pum mlwydd oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi goroesi am rai oriau ar ôl cael anafiadau difrifol i'w abdomen.

Clywodd y rheithgor yn Llys Y Goron Caerdydd fanylion anafiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod archwiliad post-mortem Logan Mwangi.

Fe wylodd mam Logan, Angharad Williamson yn y doc yn ystod rhannau o'r dystiolaeth.

Mae Ms Williamson, 30, ynghyd â'i chymar 40 oed, John Cole, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu llofruddiaeth.

Cafodd corff Logan ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger ei gartref yn ardal Sarn fis Gorffennaf y llynedd.

Anafiadau'n 'brin' mewn plentyn

Amlinellodd y patholegydd fforensig Dr John Williams 56 o anafiadau allanol, yn cynnwys cleisio helaeth a chrafiadau ar draws pen, bron, cefn, breichiau a choesau'r bachgen.

O blith yr anafiadau mewnol, roedd yna rwyg 5.5cm wrth 3cm i afu'r bachgen, a rhwyg i'r coluddyn bach. Roedd yna dystiolaeth bod rhan o'r coluddyn bach, y dwodenwm, wedi ei rwygo o'r pancreas.

"Prin" yw'r fath anafiadau mewn plant, yn ôl Dr Williams, a allai gael eu hachosi yn sgil gwrthdrawiad car eu feic, neu anaf nad sy'n ddamweiniol.

Yn absenoldeb damwain yn ymwneud â chyflymder uchel, roedd yr anafiadau'n debygol o fod wedi eu hachosi gan "ergyd neu ergydion, cic neu giciau, neu drawiad neu drawiadau gydag arf, medd Dr Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole yn gwadu llofruddiaeth Logan Mwangi

Gan gyfeirio at ddwy astudiaeth ar wahân i anafiadau o'r fath, dywedodd Dr Williams bod anafiadau i'r dwodenwm "yn cael eu cofnodi'n aml o blith plant sy'n cael eu cam-drin".

Dywedodd wrth y rheithgor bod yna dystiolaeth o newidiadau yn achos rhai o'r anafiadau i'r abdomen oedd yn awgrymu bod y "broses iachau wedi dechrau". Roedd hynny, meddai, yn "arwydd o gyfnod o oroesi gyda'r potensial o fod hyd at nifer o oriau".

Wrth gael ei groesholi, fe wnaeth Dr Williams gydnabod y posibilrwydd bod Logan wedi goroesi am gyfnod byrrach.

Ymhelaethodd gan ddweud: "Fe fyddai'r nodweddion yn awgrymu bod y farwolaeth heb ddigwydd yn syth a bod yr anafiadau heb ddigwydd yn dilyn y farwolaeth."

'Cleisio helaeth ar gefn y pen'

Dywedodd bod y cyfnod rhwng y niwed a'r farwolaeth "o bosib hyd at nifer o oriau ond nid yw'r wyddoniaeth yn caniatáu i ni fynd ymhellach".

Ychwanegodd Dr Williams bod yna dystiolaeth hefyd o "gleisio dwfn helaeth ar draws cefn y pen" sy'n "gyson ag anafiadau arf di-awch (blunt force)".

Achos y farwolaeth oedd "anaf arf di-awch abdomenol ac anaf ymenyddol yn cynnwys chwyddiant i'r ymennydd a niwed trawmatig i'r ymennydd".

Clywodd y llys bod yna "ddim darganfyddiadau patholegol a fyddai'n awgrymu boddi".

Mae'r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth.

Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu. O'r tri, John Cole yw'r unig un sydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.

Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig