Ffrae am statws maes pentref i Gastell Gwrych
- Cyhoeddwyd
Mae ymddiriedolwyr Castell Gwrych ger Abergele yn credu y byddai rhoi statws maes pentref i'r ardal yn gallu gwneud y gwaith o adfer yr adeilad rhestredig yn fwy anodd.
Byddai rhoi statws o'r fath yn golygu fod yr ardal wedi ei ddiogelu ar gyfer chwaraeon a hamddena i bobl leol, gan osod cyfyngiadau ar waith adeiladu.
Mae'r castell yn adnabyddus erbyn hyn fel cartref dros dro I'm A Celebrity Get Me Out of Here.
Y cynghorydd sir lleol Andrew Wood sydd wedi gwneud cais am y statws.
Pe bai'n cael ei ganiatáu, byddai'n cynnwys y castell a'r coedwigoedd cyfagos.
Dywed Mr Wood ei fod am ddiogelu'r hawl at fynediad mae pobl leol wedi ei fwynhau ers degawdau.
Roedd yr adeilad Rhestredig Gardd 1 yn adfail ac yn wag ers y 1990au tan yn gynnar yn y 2000au.
Fe wnaeth y grŵp Ymddiriedolaeth Adfer Castell Gwrych gael prydles ar y tir, cyn ei brynu yn 2018.
Roedd rhai o bobl Abergele yn mynd am dro drwy'r coedwigoedd, ac yn eu defnyddio ar gyfer marchogaeth a seiclo tra bod yr adeiladau wedi eu cau.
Ond maen nhw'n anhapus fod rhai o'r llwybrau sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth wedi cael eu cau ers 2020.
Er mwyn cofrestru fel maes pentref, mae'n rhaid i'r cais llwyddiannus brofi fod trigolion lleol wedi defnyddio'r safle am 20 mlynedd "heb ddefnyddio grym, na gwneud hynny yn gyfrinachol neu heb ganiatâd".
Cyrchfan i gerddwyr
Cred y Cynghorydd Wood fod hynny'n gywir, ond nid ydy'r Ymddiriedolwyr yn cytuno.
"Mae'r coedwigoedd wedi eu defnyddio gan gerddwyr, pobl sy'n marchogaeth, dringwyr, rhedwyr yn o gystal â phlant," meddai Mr Wood.
"Mae pobl wedi cael mynediad heb rwystr i'r tir am o leiaf 50 blynedd."
Dywed Pauline Heap-William o'r Ymddiriedolwyr buodd y castell yn atyniad i dwristiaid rhwng 1948 a 1987, a'i fod wedi ailagor i ymwelwyr yn 2014, gan ddenu 350,000 mewn degawd.
"Mae arian o'r tocynnau yn mynd tuag at adfer yr adeilad a'r tirwedd, ac mae dal angen gwario miloedd yn fwy," meddai.
Mae hi'n anghytuno y byddai statws maes pentref o fudd i'r gymuned leol na'r castell.
Dywed Cyngor Conwy y byddant yn ystyried y cais, a'u bod wedi gofyn am farn pobl leol.
Mae'r cais am faes pentref yn cynnwys 150 o aceri tir sydd ar les i asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedon nhw eu bod o'r farn nad yw'r tir yn cwrdd â'r anghenion cyfreithiol i gael ei gofrestru fel maes pentref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021