Beth ydy ymateb Cymru i ddatganiad y canghellor?

  • Cyhoeddwyd
Marchnad
Disgrifiad o’r llun,

Er yr awyr las ym marchnad Yr Wyddgrug, ychydig o obaith oedd gan y bobl

Mae'r sbelen yma o dywydd braf yn arwydd clir bod y gwanwyn wedi dod - ond digon digalon ydy'r rhagolygon economaidd.

Dyna'r teimlad ar ddydd Mercher heulog ym marchnad brysur Yr Wyddgrug, wrth i bobl feddwl am eu pocedi tra'n talu am eu torth a'u tomatos.

Yn gwthio'i choetsh drwy'r torfeydd oedd Hayley Roberts. Mae hi ar hyn o bryd ar gyfnod mamolaeth - ac yn gweld blwyddyn galed o'i blaen.

"Dwi meddu fforddio lot," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hayley Roberts iddi osgoi darllen y newyddion yn ddiweddar

"Mae [prisiau] popeth am godi, dydy - a be 'dach chi'n gallu'i wneud?

"Dwi'n trio peidio darllen dim byd amdano fo, mae'n gwneud i fi banicio."

'Mae'r newyddion yn fy nychryn i'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alice Christopher yn un sydd wedi teimlo effaith y cynnydd mewn costau byw

Mam ifanc arall sy'n osgoi'r straeon ydy Alice Christopher, sydd wedi gweld cynnydd mawr yn ei biliau trydan a nwy.

"Mae'n afiach, dydy?" meddai.

"Dwi ddim yn gwylio'r newyddion i fod yn onest, achos mae'n fy nychryn i."

'Angen gwneud mwy'

Er hynny, mae'n bosib bod 'na rywbeth i leddfu poenau Hayley ac Alice yn Natganiad y Gwanwyn ddydd Mercher.

Cyhoeddodd Rishi Sunak bod treth tanwydd yn cael ei dorri o 5c y litr am 12 mis, a bod pobl yn gallu ennill £12,570 y flwyddyn cyn gorfod talu Yswiriant Gwladol.

Roedd y cwtogiad ym mhris petrol a diesel yn plesio un arall o drigolion Yr Wyddgrug, Myra Prys-Owen, wnaeth wylio rhywfaint o araith y canghellor gyda fi ar y ffôn.

Disgrifiad o’r llun,

Er iddi groesawu datganiad Mr Sunak, roedd Ms Prys-Owen am iddo wneud mwy

"Mae o'n dechrau gwneud rhywbeth, yn dydy o," meddai.

"Ond fyddwn i'n licio iddo fo wneud mwy, a bod mwy o brisiau yn dod i lawr.

"Dwi ar bensiwn, wedi gorffen gwaith, ac mae o'n anodd iawn weithiau - prynu bwyd, talu bils."

'Heb godi prisiau eto'

Mae prisiau yn cynyddu yn gyflym ar hyn o bryd, a'r gyfradd yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror oedd 6.2%. Hwn yw'r ffigwr uchaf ers 30 mlynedd.

Un cwmni sydd wedi penderfynu peidio codi eu prisiau am y tro ydy Llaethdy Mynydd Mostyn ger Treffynnon, sy'n gwerthu llefrith ar dir eu fferm ac yn cyflenwi hufenfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r busnes am i bobl fedru parhau i brynu cynnyrch leol, ffres, medd Elliw Jones

Ond mae cynnydd mewn pris tanwydd a gwrtaith - rhan o effaith y rhyfel yn Wcráin - yn golygu bod hon yn sgwrs nosweithiol amser swper.

"Dwi isio bod yn gallu rhoi cynnyrch lleol, cynnyrch da, ffres i bobl leol o fewn rheswm, fel eu bod nhw'n gallu ei fforddio fo," meddai un o'r perchnogion, Elliw Jones.

"'Dan ni ddim wedi codi prisiau llaeth na'n hufen ia ni eto, 'dan ni jyst yn mynd i weld sut ma' hi'n mynd."

'Popeth yn newid mor sydyn'

Yn y bryniau tu hwnt i bentref Henllan ger Ddinbych, roedd Kate Wright yn disgwyl i fws mini ddod â'i mab, Edryd, yn ôl o'r ysgol.

Mae'r daith ddyddiol i Lansannan yn un arwydd o ddibyniaeth cefn gwlad ar geir a'r tanwyddau maen nhw'n eu llyncu.

Fydd penderfyniadau Mr Sunak ddydd Mercher yn help i Kate a'i thri o blant?

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Kate Wright wedi bod yn llenwi tanciau tanwydd

"Dwi ddim yn gweld o'n gwneud lot o wahaniaeth i ni, 'dan ni'n rhedeg dau gar yn y teulu," meddai.

"'Dan ni'n gorfod teithio i lefydd achos 'dan ni'n byw yn wledig."

Ond mae'r teulu wedi bod yn paratoi at gynnydd posib pellach mewn prisiau drwy lenwi tanciau tanwydd LPG nawr, a chael morgais newydd.

"Mae popeth yn newid mor sydyn ar hyn o bryd," meddai.

Lleddfu pryderon pobl am y rhagolygon dyrys oedd gobaith Llywodraeth y DU a Rishi Sunak ddydd Mawrth.

Ond yn fwyd ac yn betrol, mae sawl math o danwydd yn ddrytach nag y bu ers blynyddoedd - ac mae hynny'n cymylu awyr las y gwanwyn newydd.