Mwd Hinkley: Her gyfreithiol ymgyrchwyr yn methu

  • Cyhoeddwyd
Hinkley Point C plantFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut bydd atomfa Hinkley Point C yn edrych ar ôl ei chwblhau

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol oedd yn gwrthwynebu i ragor o fwd orsaf niwclear Hinkley Point C gael ei ollwng yn y môr wedi colli eu her gyfreithiol.

Roedden nhw wedi dadlau fod trwydded forol ar gyfer y gwaith wedi ei newid yn anghyfreithlon heb i'r cyhoedd gael craffu arno.

Ond fe wrthododd Barnwr Uchel Lys y ddadl.

Dywedodd cwmni EDF - datblygwyr atomfa newydd Hinkley Point C sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd - bod y dyfarniad yn newyddion da i filoedd o weithwyr ar y safle.

Cafodd y cwmni ganiatâd ym mis Awst i godi rhagor o fwd o wely'r môr ger y safle adeiladu i wneud lle i system oeri dŵr yr atomfa, a'i ollwng yn y môr.

Yn wreiddiol roedd EDF yn defnyddio safle oddi ar arfordir Cymru ger Caerdydd i ollwng y mwd, ond achosodd hynny ddadlau ffyrnig ac mae'r cwmni bellach yn defnyddio safle arall ger Portishead yng Ngwlad yr Haf.

Protest
Disgrifiad o’r llun,

Arweiniodd y gwaith o ollwng mwd o safle Hinkley Point C i'r môr ger Caerdydd at brotestiadau mawr

Y newid hwn oedd wrth wraidd yr her gyfreithiol, gyda gwrthwynebwyr yn dadlau na ddylai'r cwmni fod wedi cael caniatâd gan Sefydliad Rheolaeth Forol Lloegr (MMO) i amrywio'r drwydded, a'i defnyddio ar gyfer safle arall.

Casgliad o grwpiau amgylcheddol, dan faner Tarian Hafren, oedd yn herio penderfyniad yr MMO i ganiatáu'r gwaith.

Ond yn dilyn gwrandawiad dau ddiwrnod, barnodd Mr Ustus Holgate yn yr Uchel Lys, nad oedd hynny'n anghyfreithlon.

Pynciau cysylltiedig