Nyrs cleifion canser yn ymddeol - yn rhannol o achos Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Beryl Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Beryl Roberts yn edrych ar ôl y defaid ar fferm y teulu yn Nyffryn Conwy lle mae'n byw

Mae nyrs oedd yn gyfrifol am wasanaethau canser gogledd Cymru yn ymddeol ar ôl bron i 40 mlynedd.

Yn enw cyfarwydd i gleifion yr ardal, fe ddechreuodd diddordeb Beryl Roberts yn y maes meddygol pan oedd hi'n 16 oed ac yn gweithio mewn fferyllfa ger ei chartre' yn Nyffryn Conwy.

"Cwbl o'n i eisiau oedd gweithio efo cleifion canser a rhoi triniaethau canser," meddai.

"Yn y 1980au o'dda ni gyd yn dysgu na ddyla ni fod yn smocio... a 'da ni 'di dysgu dros y blynyddoedd be' sy'n gallu achosi canser.

"Ond i rai cleifion maen nhw'n gallu gwneud popeth maen nhw fod i a ma' nhw'n dal i gael canser, felly o'dd gen i ddiddordeb mawr - pam bod canser yn datblygu?"

Efallai nad ydy hi wedi cael yr atebion i gyd, ond ar ôl 37 mlynedd o wasanaeth fel nyrs ganser, mae Beryl - sy'n ymddeol yn 55 mlwydd oed ddiwedd mis Mawrth - yn gwybod tipyn mwy na'r rhan fwyaf am ganser ac wedi gweld newidiadau enfawr yn y maes.

'Andros o falch'

Cafodd ei swydd gyntaf yn Ysbyty Clatterbridge yn Lloegr - lle'r oedd cleifion gogledd Cymru'n gorfod mynd am driniaeth canser ar y pryd - cyn dychwelyd i weithio yng Nghymru.

"Wnaethon ni ddatblygu Ysbyty Gwynedd ac uned Alaw felly mae 'na newid enfawr wedi bod", meddai.

"Mae'r cleifion i gyd yn cael triniaeth yng ngogledd Cymru erbyn hyn a mae hynny'n rhywbeth i ni fod yn andros o falch ohono fo.

"Yn y 1990au, roedd 'na lot o clinical trials - hynny i gyd sy' wedi datblygu'r triniaethau sy' gynnon ni rŵan.

"Mae 'na 100 o gleifion yn cael chemotherapi bob dydd bump diwrnod yr wythnos. 'Da ni wedi datblygu a dysgu sut 'dan ni'n rhoi y triniaethau newydd 'ma."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Beryl gydag un o'r cleifion

Yn union fel y cleifion mae hi wedi'u helpu dros bedwar degawd, mae Beryl yn gwybod sut beth ydy byw efo'r afiechyd.

Cafodd ddiagnosis canser y thyroid yn 30 oed a bu'n rhaid iddi fynd i Lerpwl am driniaeth. Ar ôl gwella fe aeth ymlaen i ddefnyddio'i phrofiad i gefnogi ei chleifion.

"Dwi'n meddwl bod o wedi fy helpu i ddeall sut mae'r cleifion yn teimlo," esbonia.

"O'dd o'n amser anodd iawn ond dwi'n meddwl bod o'n helpu cleifion os 'dyn nhw'n meddwl bod chi wedi bod drwy rhywbeth eich hun."

Gyda Covid-19 wedi rhoi straen aruthrol ar weithwyr iechyd, gan gynnwys o fewn gwasanaethau canser, mae gan Beryl rhywfaint o bryder am y dyfodol. Ond mae'n hyderus y bydd modd parhau i ddenu pobl i weithio yn y maes.

"Dwi'n meddwl bod hi'n anodd," meddai. "Ond dwi'n meddwl bod ni'n lwcus iawn yn y maes canser achos ma' cymaint eisiau dod i weithio efo cleifion canser.

"'Da ni'n cael dilyn y cleifion drwadd a mae o mor bleserus gweithio efo'r cleifion. Dwi'n meddwl mai dyna be' ydy uchafbwynt fy ngyrfa i, ydy bod fi wedi cael gweithio efo'r cleifion.

"Dwi 'di bod yn gweithio ar y workforce review dros y pandemig, ac wedi gwneud cais busnes i gael mwy o nyrsys i edrych ar ôl cleifion sy'n cael diagnosis o ganser. Ganol flwyddyn diwetha' gathon ni wybod bod 'na arian wedi dod, 'dan ni wedi cael 25 o nyrsys newydd."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Beryl Roberts ar un o'i shifftiau olaf

Heriau'r pandemig

Mae'n cydnabod bod heriau'r pandemig wedi cyfrannu at ei phenderfyniad i ymddeol yn gynnar.

"Ydy mae o'n rhan o'r penderfyniad dwi'n meddwl - ond o'n i wedi penderfynu ers blynyddoedd bod fi'n mynd i fynd pan o'n i'n 55, wrth bod fi 'di cychwyn pan o'n i'n 18 a 'di gweithio'n llawn amser.

"Mae bywyd rhy fyr ac mae 'nheulu i angen fi, mae'r defaid ar y fferm angen fi, a'r bythynnod gwyliau - a dwi eisiau gwneud rhywbeth arall gwahanol.

"Hwyrach hefyd bod angen rhywun ffres yn edrych ar y gwaith efo llygaid gwahanol.

"'Dan ni wedi newid lot - ond na, dwi'n hapus iawn i basio teulu canser gogledd Cymru drosodd i rywun arall rŵan i edrych ar eu holau nhw."