Cladin: Cynllun i werthu fflatiau i ddechrau yn yr haf

  • Cyhoeddwyd
cladinFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cynllun i helpu pobl sydd wedi'u taro waethaf gan yr argyfwng diogelwch tân yn dilyn trychineb Grenfell yn agor fis Mehefin.

Nod y cynllun yw galluogi pobl sydd wedi'u heffeithio fwyaf i werthu'u fflatiau i Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun wedi'i feirniadu yn y gorffennol fel un sydd ond ar gyfer "nifer fach" o bobl mewn "caledi ariannol sylweddol".

Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai, Julie James, bod rhaglen ar wahân yn dal i asesu graddfa'r broblem.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo gweinidogion o "lusgo'u traed".

Ers i broblemau diogelwch tân mewn blociau o fflatiau ddod i'r amlwg yn dilyn trychineb Grenfell, mae nifer o lesddalwyr wedi ei chael hi'n amhosib gwerthu eu fflatiau.

Maen nhw hefyd yn wynebu costau cynyddol ar gyfer yswiriant a mesurau diogelwch dros dro, ac ansicrwydd dros bwy sy'n gyfrifol am atgyweirio'r adeiladau yn y tymor hir.

Felly, pwrpas y cynllun lesddalwyr, a gafodd ei gyhoeddi fis Rhagfyr, yw galluogi rhai perchnogion i werthu'u heiddo i'r Llywodraeth ac eraill i symud neu rentu'r eiddo yn ôl.

'Carreg filltir'

Mewn datganiad i aelodau'r Senedd, dywedodd y Gweinidog Julie James eu bod wedi "dod o hyd i lwybr addas ar gyfer prisio eiddo, meini prawf cymhwysedd clir a chreu proses prynu eiddo cynhwysfawr" trwy weithio gydag arbenigwyr.

"Mae fy swyddogion yn parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn gyflym er mwyn galluogi'r ceisiadau cyntaf i gael eu gwahodd ym mis Mehefin eleni," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth adeiladau yng Nghymru gael eu profi am ddiffygion diogelwch yn dilyn trychineb Grenfell

Fe ategodd Ms James ei bwriad i flaenoriaethu atgyweirio adeiladau canolig ac uchel "yn gyfan", nid dim ond y cladin allanol, diffygiol.

Dywedodd Ms James bod ceisiadau'n dal i gyrraedd ar gyfer cymorth o'r gronfa a bod arolygon digidol wedi'u cwblhau ar gyfer y 248 cais cyntaf.

"Bydd yr arolygon hyn yn darparu adroddiad manwl sy'n adnabod y gwaith diogelwch tân sydd angen ar yr adeiladau," dywedodd.

"Mae hon yn garreg filltir yn y broses."

Ychwanegodd ei bod yn deall pryder pobl sy'n byw yn yr adeiladau sy'n meddwl nad yw Llywodraeth Cymru'n "gweithio'n ddigon cyflym" ond dywedodd ei bod yn "cymryd pob cyfle i ddatblygu" fel rhan o'r Rhaglen Diogelwch Adeiladu.

'Llusgo traed'

Mae gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros dai, Janet Finch-Saunders, yn dweud bod y mater wedi "effeithio'n ddwys ar bobl".

"Tra bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn arwain trwy gyllid a deddfwriaeth, mae gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd wedi llusgo'u traed yma yng Nghymru," dywedodd.

"Am yn rhy hir, mae Llafur wedi methu â defnyddio cyllid wedi'i ddarparu gan Lywodraeth y DU i daclo diogelwch cladin yng Nghymru gan adael sawl teulu yn pryderu am eu bywydau a'u cartrefi.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dai, Mabon ap Gwynfor, bod y buddsoddiad o £375m yn dangos y gwahaniaeth y mae'r blaid yn gwneud yn ei gytundeb cyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru.

"Ry'n ni hefyd yn croesawu'r datganiad y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn, mae nifer o bobl, yn benodol lesddalwyr, yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi, yn syrthio rhwng cyfrifoldebau dwy lywodraeth - ymyl miniog datganoli.

"Yn y pen draw, y datblygwyr ddylai dalu am gartrefi gwael anniogel, yn hytrach na pherchnogion a lesddalwyr."

Pynciau cysylltiedig