Gofal plant: Galw am ehangu cynllun di-dâl

  • Cyhoeddwyd
plant yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen ehangu'r ddarpariaeth o ofal plant am ddim yng Nghymru, yn ôl aelodau un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae'r rhybudd bod y system bresennol yn rhy gymhleth a bod rhieni'n cael trafferth deall pa gymorth sydd ar gael.

Ar hyn o bryd, mae'r Cynnig Gofal Plant yn golygu bod rhieni plant tair neu bedair oed, sy'n gweithio, yn cael hawlio hyd at 30 awr yr wythnos am ddim.

O dan gytundeb cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru, bydd hynny'n cael ei ymestyn i blant dwy oed mewn rhai ardaloedd o fis Medi ymlaen.

Fe fydd cam cyntaf y newid yn gweld rhagor o lefydd am ddim mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn ledled y wlad yn raddol.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn galw am gynyddu'r cymorth ychwanegol sydd ar gael mewn ardaloedd lle'r gweithredir y cynllun Dechrau'n Deg.

Mae'r adroddiad, fydd yn cael ei drafod yn y Senedd yn ddiweddarach, yn dweud bod angen rhagor o waith hyrwyddo er mwyn egluro yn iawn pa gymorth sydd ar gael.

Beth yw'r ddarpariaeth bresennol?

  • Ers 2008 mae awdurdodau lleol yn darparu o leiaf 10 awr o addysg feithrin Cyfnod Sylfaen am ddim bob wythnos ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed yn llawn amser;

  • Mae llawer o rieni sy'n gweithio yn gymwys i gael 20 awr ychwanegol o ofal am ddim i blant 3 a 4 oed bob wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn, o dan y Cynnig Gofal Plant;

  • Mae rhaglen Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant am ddim am 12.5 awr yr wythnos i blant mewn ardaloedd difreintiedig o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd.

Dywed Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru fod y ddarpariaeth bresennol yn cynnig rhywfaint o gymorth i rieni, yn enwedig mamau, i fynd yn ôl i'r gwaith.

Ond maen nhw'n dweud bod diffyg darpariaeth ar gyfer plant dan dair oed ac anghysondebau ar draws Cymru yn rhwystr i hynny.

Maen nhw'n galw am i gymorth gofal plant ddechrau'n gynt o lawer, pan fo'r plentyn yn 6 mis oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alice Spence yn gwario £450 y mis ar ofal ei mab Teddy

Mae Alice Spence, o Gaerdydd, yn gweithio ym maes lletygarwch.

Mae hi'n gwario £450 y mis ar ofal plant i'w mab 16 mis oed Teddy.

"Mae'n eitha' lot, o ystyried dyna dwi'n ei ennill mewn wythnos, achos dwi'n rhan-amser ar hyn o bryd.

"Allwn i ddim fforddio i mi fynd yn ôl yn llawn amser, oherwydd gallai ddim fforddio meithrinfa llawn amser, felly mae'n lot fawr o arian i ni, pan mae gennym ni filiau rhent ac ynni sy'n codi hefyd," meddai.

'Dim help'

Mae'n rhaid iddi bwyso a mesur y gost o ddychwelyd i'r gwaith a chostau gofal plant.

"Cyn i fy nghyfnod mamolaeth ddod i ben, roedd yn rhaid i mi edrych ar fy sefyllfa ariannol a phenderfynu a fyddai'n werth i mi fynd yn ôl i'r gwaith, oherwydd ar ôl talu am ofal plant a chludiant, dydw i ddim yn elwa'n ariannol.

"Y dewis sydd genna'i ydi aros gartref ar Gredyd Cynhwysol llawn, ond os nad ydw i'n gweithio, dydw i ddim yn cael unrhyw help tuag at ofal plant," meddai.

Mae adroddiad yn nodi "nodweddion gwahanol" yn y ddarpariaeth bresennol gan ddweud bod y system yn "gymhleth."

Mae'n ychwanegu, er bod rhieni'n ymwybodol o'r Cynnig Gofal Plant, mae'n dod i'r casgliad "nad yw llawer yn ei ddeall yn llawn."

Mae'n galw am gymryd camau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni.

Bydd Aelodau'r Senedd yn trafod adroddiad y pwyllgor yn ddiweddarach ddydd Mercher ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion.

Pynciau cysylltiedig