Achos Logan Mwangi: Dau ddiffynnydd wedi rhoi'r corff mewn bag

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr, ger ei gartref yn ardal Sarn, fis Gorffennaf y llynedd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio bachgen pump oed wedi dweud wrth lys iddo ef a mam y bachgen fynd i banig, a rhoi ei gorff mewn bag chwaraeon ar ôl iddo farw yn y gwely.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 31 Gorffennaf.

Mae John Cole, 40, ynghyd â'i bartner Angharad Williamson, 31, a bachgen 14 oed nad oes modd ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.

Dywedodd Mr Cole fod Logan, a oedd wedi bod yn hunan-ynysu gyda Covid, wedi bod yn camymddwyn y diwrnod cyn darganfod ei gorff.

Dywedodd iddo gael ei ddeffro am 02:00 gan Ms Williamson yn sgrechian "ei fod wedi marw". Mae'r achos yn parhau.

Logan yn hunan-ynysu

Wrth ateb cwestiynau gan ei fargyfreithiwr ei hun, dywedodd Mr Cole wrth Lys y Goron Caerdydd bod Logan yn dod at ddiwedd 10 diwrnod o ynysu ar ôl profi'n bositif am Covid - rhywbeth a gymerodd "o ddifrif".

Dywedodd eu bod wedi cadw'r plentyn yn ei ystafell ac yn gwisgo masgiau pan aethant â bwyd iddo, ond dywedodd fod Logan yn ei chael hi'n anodd.

"Doedd e ddim yn ei ddeall, daliodd i redeg o gwmpas, ni fyddai'n aros yn glir ohonom," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA WIRE/PA Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Cole eisoes wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Eglurodd sut y bu iddo ddisgyblu Logan nifer o weithiau ar y diwrnod hwnnw, gan "ei glipio o amgylch ei ben" a "thapio ei law" ond nad oedd yn credu ei fod wedi'i anafu.

Dywedodd hefyd iddo ei ollwng i'r gwely a bod Ms Williamson hefyd wedi cydio yn ei mab oddi ar y llawr, a'i roi yn ei ystafell.

Dywedodd iddo fynd i'w wely tua hanner nos ar ben ei hun, gyda Ms Williamson yn symud i fod yn ystafell Logan.

Aeth ymlaen i ddweud iddo gael ei ddeffro gan Ms Williamson yn sgrechian. Aeth i mewn i ystafell wely Logan a cheisio gwneud CPR am yr hyn oedd "yn ymddangos fel oes - tua 15 munud", meddai.

Dywedodd yn y pen draw iddi ddweud wrtho i stopio a dywedodd eu bod yn "panicio" a'u bod yn "ofnus", gyda Ms Williamson yn dweud wrtho ei "gael allan o'r lle yma".

Dywedodd Mr Cole eu bod wedi rhoi corff Logan mewn bag chwaraeon cyn mynd a'r bachgen allan o'r tŷ.

Dywedodd nad oedd yn gwybod i ble roedd yn mynd, ond ei fod wedi cyrraedd Afon Ogwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Logan, Angharad Williamson sy'n 31, ei lystad John Cole, 40, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu llofruddiaeth

Dywedodd Mr Cole iddo fynd yno ar ei ben ei hun ond, ar ôl gadael corff Logan, sylwodd fod y diffynnydd ifanc ar ben clawdd cyfagos.

Dywedodd Mr Cole pan ddychwelodd i'r tŷ, fe drafododd gyda Ms Williamson "beth oedden ni'n mynd i'w wneud", gyda'r pâr yn penderfynu "ein bod yn mynd i ddweud bod Logan ar goll yn y bore".

Yn ystod yr oriau nesaf, dywedodd nad oedd y pâr yn cysgu, gyda Ms Williamson "yn gorwedd ar y gwely".

gwnaeth Ms Williamson yr alwad i'r heddlu am tua 05:45 ac fe adawodd i "wneud allan" ei fod yn chwilio am Logan.

Mae'r llys eisoes wedi gweld lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos Mr Cole a'r llanc yn chwilio am Logan ac yn gweiddi ei enw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021

"Fe aethon ni ar hyd a lled Sarn. Ceisiais arwain yr heddlu i'r man lle gadewais Logan," meddai Mr Cole wrth y rheithgor.

"Pam wnaethoch chi hynny?" gofynnodd ei fargyfreithiwr dros yr amddiffyniad, David Elias QC.

"Ro'n i'n teimlo'n euog am sut wnes i ei adael ar lan yr afon. Roeddwn i'n gwybod ei fod yn anghywir."

Dywedodd Mr Cole pan welodd Ms Williamson nesaf, ei bod wedi dweud bod marwolaeth Logan yn "ddamwain ofnadwy" ond ni ofynnodd am ragor o fanylion oherwydd "nad oedd eisiau gwybod yr ateb".

Mae John Cole, Angharad Williamson a llanc 14 oed yn gwadu llofruddiaeth.

Mae Mr Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, cyhuddiad y mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed yn ei wadu.

Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig