Busnesau i wynebu talu i lanhau sbwriel eu cynnyrch
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmnïau'n wynebu talu costau glanhau sbwriel sy'n cael ei achosi gan eu cynnyrch nhw, o dan reolau newydd fydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Byddan nhw hefyd yn cael dirwy os yw eu sbwriel yn anodd ei ailgylchu, neu os byddant yn methu â chyrraedd eu targedau ailgylchu.
Mae'r newidiadau yn rhan o ymdrechion y llywodraeth i leihau gwastraff.
Bydd y rheolau yn dod i rym yn 2024.
Ar hyn o bryd, mae Cymru'n drydydd yn y byd am ailgylchu domestig ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, lle mae'r holl wastraff naill ai'n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu.
Byddai'r rheolau newydd, sy'n cael eu mabwysiadu ar draws y DU, yn symud y gost o ddelio â gwastraff pecynnu oddi wrth trethdalwyr a chynghorau at y cynhyrchwyr.
Mae gweinidogion yn gobeithio y bydd hyn yn annog cwmnïau i leihau eu defnydd o becynnau a defnyddio deunyddiau sy'n haws i'w hailgylchu.
Bydd Cymru a'r Alban hefyd yn cosbi busnesau sy'n gyfrifol am yr eitemau mwyaf cyffredin sy'n cael eu taflu ar lawr.
Byddai'r ffioedd a gesglir yn cael eu defnyddio i wella casgliadau sbwriel ymyl y ffordd.
'Ddim ofn yr heriau'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd Lee Waters: "Pan fydd yn cael ei daflu fel sbwriel, gall deunydd pecynnu greu hafoc i fywyd gwyllt ac i'n hiechyd ni.
"Nid yw'n diflannu pan fyddwch chi wedi gorffen gydag ef, dim hyd yn oed pan fyddwch chi'n cael gwared arno yn gywir, gan gostio'n ddrud i'r trethdalwr.
"Rydyn ni'n falch o fod yn cyflwyno'r newidiadau pwysig yma a fydd yn arwain at gynhyrchwyr yn meddwl am y deunydd pecynnu maent yn ei roi ar y farchnad ac yn helpu i gymell ailgylchu, ochr yn ochr â'r llywodraethau eraill yn y DU.
"Rydyn ni'n mynd gam ymhellach eto, drwy ymrwymo i godi tâl ar gynhyrchwyr os yw eu heitemau'n cael eu taflu fel sbwriel yn aml.
"Does gennym ni ddim ofn yr heriau sydd o'n blaen."
Bydd hi hefyd yn ofynnol i siopau coffi sy'n cyflogi 10 aelod o staff llawn amser gael biniau ailgylchu pwrpasol ar gyfer casglu cwpanau papur untro.
Bydd angen logo ailgylchu safonol ar bob pecyn i helpu defnyddwyr i wybod beth y gallant ei roi yn eu biniau ailgylchu.
Mae Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer rhai cynhyrchion yn cael ei ddatblygu hefyd.
Atal pecynnu di-angen
"Mae'r prif gyfrifoldeb yma ar gynhyrchwyr sy'n rhoi'r bwyd yn y pecynnau i ddechre," meddai Jo Golley o'r elusen Cadw Cymru'r Daclus wrth drafod y newidiadau ar raglen Dros Frecwast.
Y nod, meddai, yw cael cynhyrchwyr i roi llai o blastig yn y pecynnau ac i becynnu llai yn gyffredinol.
"Dwi'n siŵr eich bod wedi gweld petha' fel banana mewn pecynna' plastig a does dim angen arno fe," dywedodd.
Fe fyddai camau felly'n helpu sicrhau "lleihau'r maint o becynna' sydd ar gael ond wedyn hefyd fod llai o sbwriel i allu cael ei daflu i ffwrdd a'i daflu ar y llawr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021