Merch fach o Wcráin yn perfformio yn Côr Cymru 2022

  • Cyhoeddwyd
AmeliaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Amelia ei bod wrth ei bodd yn canu a'i bod yn ymarfer drwy'r dydd

Fe berfformiodd merch saith oed o Wcráin - a ganodd fersiwn o 'Let it Go' mewn lloches fomiau tanddaearol yn Kyiv - yn fyw ar S4C nos Sul.

Fe wnaeth Amelia Anisovych berfformio'r gân o ffilm Disney, 'Frozen' yn ystod rhaglen rownd derfynol Côr Cymru 2022 yn Aberystwyth.

Cafodd y fideo o Amelia Anisovych yn canu mewn lloches rhag yr ymladd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ar draws y byd.

Yn sgil hynny, perfformiodd Amelia hefyd anthem Wcráin mewn cyngerdd elusennol yng Ngwlad Pwyl.

Cyn y perfformiad yn Aberystwyth, dywedodd Amelia: "Dwi wrth fy modd yn canu, a dwi'n ymarfer bob bore, pnawn a nos! Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd i fi gael perfformio."

Ffynhonnell y llun, Rondo / S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe ganodd Amelia 'Let it Go' a'r anthem ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: "Mae'n fraint arbennig cael croesawu Amelia i Gymru ac i ganu yn Aberystwyth.

"Mae wedi bod yn benwythnos o gerddoriaeth pwerus ar S4C gyda Chyngerdd Cymru ac Wcráin a ffeinal Côr Cymru ac rydyn ni'n falch o gael uno perfformwyr Cymru ac Wcráin gan ymfalchïo yn nhalent Amelia."

Nos Sadwrn fe wnaeth nifer o artistiaid o Gymru ac Wcráin berfformio mewn cyngerdd yn Aberystwyth i godi arian at yr apêl ddyngarol yn y wlad yn sgîl y rhyfel â Rwsia.

Roedd y cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn cael ei ddarlledu ar S4C, ac mae'r sianel wedi addo cyfrannu punt am bob bunt sy'n cael ei godi drwy werthiant tocynnau, a hefyd holl incwm hysbysebu'r diwrnod i gronfa apêl DEC (Disasters Emergency Committee) ar gyfer pobl sy'n ffoi'r rhyfel yn Wcráin.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle: "Mae gwylio'r adroddiadau newyddion ar S4C yn gwneud i rywun deimlo'n ddiymadferth, ond drwy'r ffordd ymarferol yma rydym yn gobeithio y gall S4C a phawb yng Nghymru wneud cyfraniad i helpu."

Pynciau cysylltiedig