ASau a yfodd alcohol yn y Senedd 'heb dorri cod ymddygiad'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay yfed alcohol yn ystafell de y Senedd

Ni wnaeth pedwar Aelod o'r Senedd dorri cod ymddygiad y sefydliad trwy yfed gwin yno yn ystod gwaharddiad ar weini alcohol, medd ymchwiliad.

Roedd Paul Davies, Darren Millar, Nick Ramsay ac Alun Davies, oedd wedi ymddiheuro llynedd, wedi bod dan ymchwiliad gan y comisiynydd safonau.

Dywedodd Douglas Bain nad oedd y pedwar yn ymwybodol fod y rheolau'n golygu na ddylen nhw fod wedi cael eu gweini yn ystafell de y Senedd ar y pryd.

Ar ddiwedd 2020 doedd dim modd i leoliadau fel tafarndai a bwytai weini alcohol oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

Fe wnaeth Paul Davies ymddiswyddo fel arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd pan ddaeth yr honiadau i'r amlwg fis Ionawr 2021.

Cafodd Paul Davies a Darren Millar eu hailethol fel aelodau dros y Ceidwadwyr fis Mai 2021, tra bod Alun Davies wedi'i ailethol i'r Blaid Lafur.

Ni chafodd Nick Ramsay ei ailethol wedi iddo fethu â chael ei ddewis fel ymgeisydd Ceidwadol. Roedd yn ymgeisydd annibynnol ar gyfer yr etholiad fis Mai, ac mae bellach wedi ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Neb o'r ASau wedi torri'r gyfraith

Fe gafodd y cwmni oedd yn rheoli'r ystafell de, Charlton House, rybudd y llynedd gan y sefydliad sy'n rheoli sefydliadau trwyddedig yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y Senedd gyfeirio'r mater at y comisiynydd safonau wedi i'w ymchwiliad ei hun ganfod fod y pedwar wedi yfed alcohol ar y safle.

Yn ei adroddiad ef, dywedodd Mr Bain na wnaeth yr un o'r pedwar dorri'r gyfraith.

Ychwanegodd nad oedd o'r farn eu bod wedi mynd yn groes i god ymddygiad y Senedd 'chwaith.

Dywedodd fod honiadau papur newydd fod y gwleidyddion wedi bod yn "uchel eu cloch" wedi'u gwneud "heb unrhyw sail ffeithiol", a bod staff diogelwch hefyd wedi dweud nad oedd hynny'n wir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Paul Davies ymddiswyddo fel arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd pan ddaeth yr honiadau i'r amlwg

Beth ddigwyddodd?

Yn ôl yr adroddiad roedd y pedwar aelod wedi yfed gwin yn ystafell de y Senedd ar 8 Rhagfyr 2020, ble bu'r pedwar hefyd yn bwyta prydau.

Fe wnaeth tri ohonynt (dyw'r adroddiad ddim yn dweud pa dri) gwrdd ag aelod staff yno. Fe wnaethon nhw gwrdd am bum awr, gan yfed bron i ddwy botel o win coch.

Cafodd yr aelod arall win gyda'i fwyd, ond nid oedd yn rhan o'r cyfarfod, a bu yno am lai na dwy awr.

Ychwanegodd yr adroddiad fod pawb yno wedi cadw at reolau pellter cymdeithasol.

Yn ôl adroddiad y comisiynydd safonau, mae'n bosib fod y rheolau ar y pryd yn golygu y bu hi'n anghyfreithlon i weini alcohol yn yr ystafell de, ond doedd hi ddim yn anghyfreithlon i yfed alcohol yno.

Ychwanegodd yr adroddiad fod cwrw, oedd wedi'i brynu o siop, wedi cael ei yfed yn yr un ystafell ddiwrnod yn ddiweddarach, ond dyw hi ddim yn eglur o'r adroddiad pwy oedd yno ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tri o'r aelodau gwrdd ag aelod o staff am bum awr, gan yfed bron i ddwy botel o win coch

Cafodd canfyddiadau Mr Bain eu cefnogi gan bwyllgor safonau'r Senedd.

Dywedodd y pwyllgor fod y pedwar aelod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ar dafarndai a bwytai ar y pryd, ond eu bod yn credu nad oedd y rheiny yn berthnasol ar gyfer yr ystafell de yn y Senedd am eu bod yn ei ystyried fel "cantîn yn y gweithle".

Ond ychwanegodd y pwyllgor fod y mwyafrif o'i aelodau wedi cwestiynu a oedd hi'n ddoeth i rai aelodau aros yno cyhyd "o ystyried yr amgylchiadau oedd yn wynebu'r wlad ar y pryd".

Yn ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Alun Davies, AS Blaenau Gwent: "Dwi'n falch iawn gweld bod y comisiynydd wedi gweithio'n galed dros y flwyddyn ddiwetha' i ymchwilio'n drwyadl.

"Mae hyn yn dangos yr hyn ro'n ni'n gwybod yn barod - sef nad o'n i wedi torri'r rheolau - ac mae'r pwyllgor wedi cadarnhau hynny."