Seren Love Island, Dr Alex George yn cythruddo ar ôl prynu pedwar bwthyn
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gystadleuydd Love Island, Dr Alex George, wedi dweud ei fod wedi derbyn bygythiadau ar ôl cyhoeddi ei fod wedi prynu pedwar bwthyn gwyliau yn Sir Benfro.
Datgelodd y Cymro Cymraeg y newyddion ar Instagram, gan ddechrau cyfrif newydd ar gyfer unrhyw un sydd am ddilyn y "daith adnewyddu".
Ond lleisiodd nifer o ddefnyddwyr eu pryderon y byddai'r cartrefi'n cael eu cymryd oddi ar drigolion lleol mewn marchnad dai sydd eisoes dan bwysau.
Dywedodd Dr Alex - sydd â dros ddwy filiwn o ddilynwyr ar ei dudalen Instagram - y byddai un o'r pedwar bwthyn yn gartref i deulu o Wcráin.
Ond beirniadodd rhai y neges fel un "tôn fyddar" a "hunanol".
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Dr Alex: "Gallwch gymryd fy ngair i neu beidio, ni fyddai modd prynu'r bythynnod hyn at ddibenion preswyl."
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn bygythiadau o drais ers postio am ei bryniant, gan ddweud nad oedd hyn "byth yn dderbyniol".
Mae mwy na 1,200 o dai yn Sir Benfro wedi dod yn ail gartrefi yn y tair blynedd diwethaf, cynnydd o 45%, yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Ar strydoedd Crymych ddydd Mawrth, un a oedd wedi ei digalonni gan y newyddion am bryniant Dr Alex, oedd Bethan Findlay.
"Sai'n hapus o gwbl," meddai. "Mae pobl yn dod lawr ar wyliau fan hyn, ac mae pobl yn dod mewn, mae pobl yn 'neud arian ac mae fe'n cadw pobl mewn gwaith.
"Dwi'n gwybod 'na - ond mae e wir yn broblem i'n pobl ni, i brynu o amgylch fan hyn.
"Fi'n byw yn Boncath nawr, ac mae e'n really, really anodd, nid just i bobl ifanc, ond i bobl leol brynu ar y funud.
"Ac mae e yn broblem mowr, ac mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth ambiti fe."
'Elfen o godi pais'
Un oedd yn llai beirniadol oedd Geraint Wyn Jones.
"'Sen ni'n cael y sgwrs yma trigain mlynedd 'nôl, falle byddai fe'n fwy perthnasol, ond mae drws y stabl wedi bod lled y pen ar agor ers dros 50 mlynedd, ac felly elfen o godi pais yw hi erbyn hyn.
"A dwi'n credu bod y cysylltiad rhwng ail gartrefi neu dai gwyliau a thai i bobl leol yn hollol amherthnasol.
"Mae angen tai yn ddirfawr ar bobl leol, ond mae angen adeiladu tai pwrpasol i'r bobl leol."
Ym marn Debbie Wasson, nid Dr Alex ddylai fod yn ganolbwynt i'r drafodaeth am brinder tai.
"Yn amlwg mae yna broblem gyda thai, a dyw hynny ddim wedi ei helpu gan bobl cefnog yn dod yma i brynu pethau.
"Ond dwi ddim yn siŵr ei fod e'n iawn i bwyntio'r bys at un person enwog yn benodol. Dwi'n teimlo fod y broblem yn ehangach na hynny."
'Hapus i drafod tai yn Sir Benfro'
Wrth ysgrifennu ar ei gyfrif Intsagram, dywedodd Dr Alex George: "Rwy'n gwerthfawrogi'r rhai sydd wedi ceisio rhannu pryderon am dai yn yr ardal yn barchus. Yn anffodus, rwyf wedi derbyn nifer o fygythiadau sydd byth yn dderbyniol. Heb sôn am gamdriniaeth.
"Os (ni fyddaf yn gwthio neb allan drwy'r drws) a phan fydd y ffoaduriaid [o Wcráin] eisiau gadael byddaf yn gwahodd rhywun lleol i rentu'r fflat addas.
"Byddwn yn hapus i gwrdd ag arweinwyr lleol i drafod tai yn Sir Benfro a gweld sut y gallaf gefnogi. Rwy'n ymgyrchydd brwd fy hun ond dylai bod yn barchus a rhesymol fod yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth bob amser."
Y llynedd cafodd y meddyg, sy'n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, ei apwyntio gan Lywodraeth y DU fel Llysgennad Iechyd Meddwl ar gyfer Ieuenctid er mwyn rhoi cyngor i'r llywodraeth a chodi proffil addysg iechyd meddwl a lles mewn ysgolion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020