Mam Logan Mwangi yn 'or-amddiffynnol' o'i mab 'perffaith'

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd

Mae menyw 31 oed o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n cael ei chyhuddo o ladd ei mab pum mlwydd oed y llynedd wedi dweud ei bod wastad yn "or-amddiffynnol" o'i bachgen "perffaith".

Mae Angharad Williamson wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn ei hamddiffyniad yn Llys y Goron Caerdydd, ble mae hi wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth ynghyd â'i phartner John Cole a bachgen 14 oed.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd, gyda 56 o anafiadau allanol a niwed difrifol i'r abdomen.

Mae'r diffynnydd 31 oed, ei chymar Mr Cole, 40, a'r bachgen 14 oed nad oes modd ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.

Perthynas 'hyfryd'

Dywedodd Ms Williams fod ganddi berthynas "hyfryd" gyda'i mab.

"Roedden ni'n gwneud popeth gyda'n gilydd. Roedd Logan yn fachgen mor brydferth, mor hapus," meddai wrth y llys.

"Roedd e mor glyfar - roedd eisiau teithio'r byd a gweld popeth ynddo.

"Roeddwn i mor or-amddiffynnol ohono. Roeddwn i'n hunllef i athrawon - eisiau gwneud yn siŵr fod gan Logan bopeth yr oedd ei angen.

"Roeddwn i'n arfer eu ffonio nhw yn gofyn a oedd e'n cael diwrnod da - roedd rhaid i mi wybod."

Disgrifiad o’r llun,

Mam Logan, Angharad Williamson gyda John Cole

Eglurodd ei bod wedi cyfarfod John Cole yn 2019, ac i ddechrau dywedodd fod eu perthynas wedi bod yn "berffaith".

Dywedodd ei bod wedi mynd yn feichiog yn fuan wedi hynny, a bod ei pherthynas hi a Mr Cole wedi newid ar ôl iddi deithio i Lundain gyda Logan i weld ei dad, Ben Mwangi.

Eglurodd nad oedd hi wedi gallu ateb galwadau Mr Cole yn ystod y trip oherwydd ei bod yn wael oherwydd ei bod yn feichiog, a dywedodd fod Mr Cole yn "oeraidd" wedi iddyn nhw gyrraedd yn ôl i Ben-y-bont.

Cole 'wedi cael perthynas gyda dyn arall'

Dywedodd fod Mr Cole yn credu ei bod hi a thad Logan wedi cusanu yn Llundain, ac wedi hynny bod ei phartner yn cyhuddo Logan o siarad am y trip i Lundain yn fwriadol er mwyn ceisio ei gythruddo.

Yn ôl Ms Williamson roedd hyn "oherwydd ei euogrwydd ei hun am ei fod wedi cael perthynas gyda dyn arall tra roeddwn i yn Llundain".

Ychwanegodd Ms Williamson wrth y llys, yn fuan wedi iddi roi genedigaeth i'w plentyn, fod Mr Cole wedi mynd yn ddig, rhoi ei ddwylo o amgylch ei gwddf a dweud y gallai gymryd y babi i ffwrdd.

Dywedodd fod Logan wedi bod yn "genfigennus" o'r babi newydd i ddechrau. Mae'r llys eisoes wedi clywed fod Logan wedi rhoi clustog dros wyneb y babi ar un achlysur.

Ffynhonnell y llun, PA WIRE/PA Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ond mae'n gwadu llofruddio Logan

Yn gynharach ddydd Mawrth, fe wadodd llystad Logan ei fod wedi dweud celwyddau ynghylch rhoi ei gorff mewn bag cyn ei adael yn Afon Ogwr.

Yn ei drydydd diwrnod o roi tystiolaeth, fe ofynnodd Caroline Rees QC pam na soniodd am y bag cyn 1 Mawrth eleni wedi i'r erlyniad amlinellu ei achos.

"Fe welsoch chi'r lluniau CCTV a sylweddoli pa mor agos roedd y diffynnydd [14 oed] a meddwl bydde'n rhaid dweud celwydd ynghylch rhoi Logan mewn bag," awgrymodd wrtho.

Gwadodd Mr Cole hynny a mynnu nad oedd yn cofio sut y llwyddodd i roi'r corff yn y bag.

Cyfeiriodd Ms Rees at "groes fach wen" ar lun CCTV gan ofyn: "Ai breichiau Logan sydd dros eich ysgwydd?"

Atebodd Mr Cole mai tic logo Nike ar y bag oedd hynny.

Clywodd y llys bod Mr Cole, mewn datganiad i'r amddiffyn, wedi trafod bag Nike ar 1 Mawrth nad oedd wedi sôn amdano mewn datganiadau neu gyfweliadau heddlu ynghynt.

Yn natganiad 1 Mawrth dywedodd bod Angharad Williamson wedi rhoi'r bag iddo gan ychwanegu: "Wnes i ddim awgrymu na gofyn iddi wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021

Mae John Cole, Angharad Williamson a llanc 14 oed yn gwadu llofruddiaeth.

Mae Mr Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, cyhuddiad y mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed yn ei wadu.

Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.

Mae'r achos yn parhau.