'Llai o bobl ifanc yn ymuno â bandiau pres ers Covid'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder am ddyfodol bandiau pres yng Nghymru o ganlyniad i effeithiau tymor hir y pandemig.
Mae sawl un o fandiau pres ar draws Cymru wedi dweud wrth y BBC eu bod wedi colli llawer o chwaraewyr a bod llai o offerynwyr ifanc yn ymuno ers i Covid roi taw ar y chwarae.
Yn Wdig, Sir Benfro wrth i fand y dechreuwyr gwrdd eto ar ôl gorfod canslo sawl ymarfer yn dilyn achosion Covid, mae digon o sŵn i godi'r to.
'Practeisio am beth?'
"Mae wedi bod yn amser anodd iawn i fod yn onest, ni wedi cael misoedd mas o'r stafell band, ni nôl," meddai Matthew Jenkins, cyfarwyddwr cerdd Band Pres Wdig.
"Ni 'di colli lot o chwaraewyr dros yr amser. Y band ieuenctid ni wedi colli mwyaf... pobl wedi ffeindio pethau arall i wneud yn eu hamser hamdden.
"Ni 'di colli dros hanner y band ieuenctid so 15 falle 20 [o aelodau] ry'n ni wedi colli.
"O'r band hŷn, ni hefyd wedi colli falle 10 o chwaraewyr mas o tua 25 so rhan fawr o'r band."
"Ni ddim wedi bod mas i chwarae mewn cyngherddau na chystadlu i fod yn onest dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 'Sdim byd 'da ni yn dod lan.
"Sa i'n siŵr os mae'r hyder yna gyda'r gynulleidfa i ddod mas a gwrando ar fand - dod mewn i neuadd neu eglwys i wrando ar gyngerdd.
"Mae'r band nôl, ni 'nôl fan hyn yn practeisio ond practeisio - am beth sa'i cweit yn siŵr hyd yn hyn," ychwanegodd Mr Jenkins.
Ail wynt i'r chwarae
Mae pedwar band yn chwarae o dan enw Band Pres Wdig - y dechreuwyr, y band ieuenctid, y band cymunedol a'r prif fand. Mae'n gyfle i offerynwyr o bob oed.
"Fi'n hoffi dysgu pethau newydd gyda'r band," meddai Mared, sy'n wyth oed, ac yn aelod o'r dechreuwyr.
"Fi wedi gwneud ffrind newydd, sa i'n cofio beth yw ei henw hi ond mae'n hoffi Harry Potter fel fi."
Mae Bronwen yn 10 oed ac yn mwynhau chwarae'r cornet yn y band.
"Fi'n hoffi chwarae gyda ffrindie fi, mae'n lot o hwyl," meddai.
"Dwi'n dysgu pethau newydd ac mae'n hwyl i ddysgu nodau gwahanol."
Ond i chwaraewyr hŷn sy'n ailgydio yn y chwarae, mae wedi bod yn gyfnod anodd.
"Dwi'n credu os rhywbeth mae fel petai bo fi dwy flynedd ar ôl ar y datblygiad nawr achos bod y pandemig wedi rhoi stop ar yr ymarfer," meddai Rhys Colet, sydd wedi bod yn chwarae gyda'r band ers chwe mlynedd.
Mae Llŷr Williams wedi bod yn chwarae gyda'r band am 11 mlynedd.
"Lle 'we ni nôl yn 2019, yn mynd mewn i 2020, mae'r band mewn sefyllfa cwbl wahanol," meddai.
"Mae rhaid bod y band wedi newid shwt ydyn ni'n gwneud ymarferion, newid y mathau o ymarferion i gael pobl nôl mewn."
'Rhaid i rywbeth newid'
Nid dim ond band pres Wdig sy'n cael problemau. Yn ôl y corff sy'n cynrychioli bandiau pres yng Nghymru mae bandiau ledled y wlad yn wynebu heriau go iawn ac yn poeni am eu dyfodol.
"Roedd pencampwriaeth rhanbarthol bandiau pres Cymru [ym mis Mawrth] ac o ran ystadegau, roedd 'na bump band yn cymryd rhan yn y pedwerydd adran, lle mae'r mwyafrif o'r chwaraewyr ifanc yn datblygu," meddai Andrew Jones o fudiad Bandiau Pres Cymru.
"I gymharu ag 20 mlynedd yn ôl, roedd 'na 13 o fandiau yn cymryd rhan.
"Mae lot o ysgolion nawr lle does 'na ddim unrhyw fath o ddysgu [offerynnau] yn digwydd o gwbl, felly mae'n rhaid i rywbeth newid fel bod chwaraewyr newydd yn dod mewn i'r symudiad."
Ym mhen arall y wlad, yn Sir y Fflint, mae aelodau seindorf arall yn poeni hefyd.
"Mae 'di bod yn dipyn o challenge wrth ddod yn ôl 'ŵan - trio annog yr chwaraewyr 'ma'n ôl i'r band room a creu cerddoriaeth fel 'dan ni'n hoffi neud," medd Aled Williams, arweinydd Band Pres Llaneurgain.
"'Da ni wedi colli dwy flynedd o gysondeb. Cysondeb ydy pob dim yn unrhyw beth fel hyn, dod â'r chwaraewyr i fyny drwy'r gwahanol lefelau.
"Rŵan rydan ni dwy flynedd yn ôl, felly rydyn ni wedi gorfod cymryd stepen yn ôl dwy flynedd mewn ffordd. Mae 'di bod yn andros o anodd."
'Cydnabod pwysigrwydd addysg cerddoriaeth'
Cynghorau sir sy'n gyfrifol am wasanaethau addysg cerddoriaeth yng Nghymru ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi £6.8m yn ychwanegol ar gyfer adnoddau ac offerynnau.
Mae cynlluniau hefyd i greu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru, gyda mwy o arian eto, i gynnig cyfleoedd.
Dywedodd llefarydd: "Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am wasanaethau addysg cerddoriaeth, rydym yn cydnabod pwysigrwydd addysg cerddoriaeth ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi a galluogi mwy o blant a phobl ifanc i gael mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth cerddoriaeth.
"Dyna pam rydym wedi buddsoddi £6.8m ychwanegol ar gyfer adnoddau ac offerynnau cerddoriaeth ychwanegol yn 2021/22.
"Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd i sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynnwys arian ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cerddoriaeth ledled Cymru ac ehangu mynediad i addysg a hyfforddiant cerddoriaeth.
"Drwy gydol y pandemig, rydym wedi cefnogi'r sectorau diwylliannol, creadigol a chwaraeon ehangach yng Nghymru drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol sydd hyd yma wedi darparu mwy na £108m o gymorth ariannol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021