Mayhill: Tri yn eu harddegau'n pledio'n euog i derfysg
- Cyhoeddwyd

Roedd Ffordd Waun-wen yn edrych fel "maes y gad" medd rhai trigolion
Mae tri pherson ifanc wedi pledio'n euog i gyhuddiad o derfysg yn dilyn anhrefn yn ardal Mayhill, Abertawe y llynedd.
Mae'r tri, sydd i gyd yn 17 oed ond na ellir eu henwi oherwydd eu hoed, wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tan wrandawiad pellach fis Mehefin.
Cyn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe fore Iau, roedd y tri wedi gwadu'r cyhuddiad.
Bydd pedwerydd diffynnydd, oedd hefyd i fod i ymddangos, yn dychwelyd i'r llys yn hwyrach yn y mis.

Achoswyd gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod yn dilyn y terfysg yn ardal Mayhill
Mae 27 o bobl wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â'r anrhefn ar Ffordd Waun-wen, Mayhill, fis Mai 2021.
Mae tri pherson yn eu harddegau eisoes wedi'u dedfrydu am eu rhan, gydag wyth a blediodd yn euog ddydd Mercher i gael eu dedfrydu maes o law.
Mae disgwyl i naw arall ymddangos yn y llys ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022