Plaid Cymru'n lansio ei hymgyrch etholiadau lleol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price yn ystod lansiad ymgyrch etholiadau lleol y blaid yn Neganwy

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod eu cynghorwyr yn "gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl", wrth lansio'u hymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol.

Yn ôl Adam Price, eu "prif gynnig" fydd anelu at gael cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd.

Mae Plaid Cymru yn arwain pedwar cyngor ar hyn o bryd - Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr.

Ar y cyfan fe wnaeth y blaid enillion yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017.

Gan gynyddu ei mwyafrif yng Ngwynedd a dod y blaid fwyaf ym Môn, fe wnaeth Plaid Cymru gynyddu nifer ei chynghorwyr o 169 i 202 bum mlynedd yn ôl.

Roedd enillion sylweddol hefyd mewn cynghorau fel Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot.

Disgrifiad o’r llun,

Lansiad ymgyrch etholiadau lleol y blaid yn Sir Conwy fore Gwener

Mewn digwyddiad yn Neganwy, Sir Conwy ddydd Gwener, dywedodd Mr Price y bydd y blaid yn canolbwyntio ar dri pheth allweddol i etholwyr cyn y dyddiad pleidleisio ar 5 Mai - prydau ysgol am ddim, tai, a diogelu swyddi.

Mae prydau ysgol am ddim eisoes yn cael ei ymestyn i holl blant cynradd yng Nghymru dan gynllun cydweithio Plaid gyda'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, gan ddechrau fis Medi gyda'r disgyblion ieuengaf.

Dywedodd Mr Price mai nod cynghorau sy'n cael eu harwain gan Blaid Cymru fydd ehangu hynny i holl blant uwchradd hefyd "o fewn tymor nesaf y cyngor".

'Camau radical ar ail gartrefi'

Hefyd pwysleisiodd bolisi'r blaid i "fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai mwy ynni-effeithlon, gwirioneddol fforddiadwy, a chymryd camau radical ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd".

Aeth ymlaen i addo "cryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac yn cefnogi busnesau lleol - gan ddiogelu swyddi ac incwm lleol yng nghanol argyfwng costau byw".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Plaid Cymru gynyddu nifer ei chynghorwyr o 169 i 202 yn etholiadau lleol 2017

"Dyma deulu Plaid Cymru ar ei orau, rydym yn gymuned," meddai.

"Ni yw plaid tegwch a chyfiawnder cymdeithasol, nid cymdeithasol yn unig, ond cyfiawnder economaidd hefyd.

"Ni yw'r blaid sy'n gwneud yn iawn i genedlaethau'r dyfodol drwy wneud gwahaniaeth heddiw, oherwydd allwn ddim fforddio disgwyl wrth i bobl yn wynebu argyfwng costau byw."

Yn lansio maniffesto'r blaid, o'r enw Gwneud Gwahaniaeth, dywedodd Mr Price fod y ddogfen yn "adnabod problemau, yn cynnig atebion, ac yn bwysicaf oll, yn profi sut mae cael cynghorwyr Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Yn siarad cyn y lansiad dywedodd: "Mae gan gynghorwyr Plaid Cymru hanes cryf o sefyll ochr yn ochr â phobl y maen nhw'n eu cynrychioli - o redeg banciau bwyd i arwain y gwaith glanhau ar ôl llifogydd.

"A thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar arweinydd cyngor Plaid Cymru a'u timau wedi mynd gam ymhellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn eu cymunedau drwy sicrhau bod plant yn gallu parhau i ddysgu, busnesau barhau i fasnachu, a gwasanaethau allweddol yn gallu parhau megis casglu sbwriel."

Fe fydd Cymru yn ethol cynghorwyr ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol fis nesaf.

Mae etholiadau hefyd yn cael eu cynnal mewn rhannau o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Etholiadau Lleol 2022