Llafur Cymru yn lansio ymgyrch etholiadau lleol
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi beio'r Ceidwadwyr am yr argyfwng costau byw wrth lansio ymgyrch Llafur ar gyfer yr etholiadau lleol.
Fe ymunodd Syr Keir Starmer â'r prif weinidog ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer dechrau'r ymgyrch ddydd Mawrth.
Gyda mwyafrif ar saith o'r 22 cyngor, Llafur yw'r blaid fwyaf yn neuaddau sir Cymru.
Ond fe fydd y blaid yn gobeithio am ganlyniad gwell ar 5 Mai nac yn yr etholiadau diwethaf yn 2017 pan gollon nhw dros 100 o gynghorwyr.
Cyn y lansiad fe ddywedodd Mr Drakeford: "Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cynghorau Llafur Cymru a chynghorwyr Llafur Cymru wedi camu i'r adwy - p'un a'u bod yn delio ag effeithiau llifogydd, yn cyflwyno polisïau blaenllaw fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif neu'n ymateb i'r pandemig.
"Wrth i ni wynebu argyfwng costau byw a wnaed gan y Torïaid a'r sefyllfa ddinistriol yn Wcráin, mae cynghorau Llafur Cymru unwaith eto'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu a chyflawni dros gymunedau lleol."
Yn y lansiad ei hun, fe ddywedodd Mr Drakeford bod cynghorau Llafur, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi bod yn "sylfaen" i'r ffordd y cafodd pobl Cymru eu "gwasanaethu a'u diogelu" yn ystod dwy flynedd heriol y pandemig.
Ychwanegodd: "Y gwirionedd trist yw y bydd y blynyddoedd o'n blaenau ni yr un mor heriol. Nid yw'r pandemig drosodd."
Wrth siarad yn Academi STEAM (Science, Technology, Engineering, Arts and Mathematics) campws Pencoed Coleg Pen-y-bont, dywedodd Mr Drakeford bod pobl yn byw ar hyn o bryd dan "argyfwng costau byw Torïaidd".
"Nid yw wedi dod o nunlle," meddai. "Mae degawd o lymder wedi tanseilio capasiti teuluoedd gweithgar ar draws y DU i wrthsefyll y straen sydd i ddod.
"Llywodraeth Geidwadol wnaeth benderfynu yn natganiad y gwanwyn, dim ond 10 diwrnod yn ôl, i ddweud, dan ffigyrau y gwnaethon nhw eu hunain eu cyhoeddi, y bydd eu penderfyniadau nhw'n arwain at... hanner miliwn yn fwy o blant ar draws y DU mewn tlodi dros y ddwy flynedd nesaf."
Gan restru polisïau fel cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd - rhan o gytundeb Llywodraeth Lafur gyda Phlaid Cymru, dywedodd Mr Drakeford y byddai gweinidogion Cymreig a chynghorau Llafur yn rhoi "arian ym mhocedi pobl sydd daer angen y cymorth yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod".
Yn 2017 fe gollodd Llafur Cymru eu mwyafrif ar gynghorau Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Maen nhw'n amddiffyn mwyafrif ar gynghorau Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd a Thorfaen.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles bod "rhaid cael cynghorau Llafur cryf i weithio gyda ni" os am wireddu nod llywodraeth Lafur Cymru o sicrhau gwlad fwy cryf, teg a gwyrdd.
Dywedodd bod gan gynghorau Llafur "track record arbennig" dros y blynyddoedd diwethaf "o ran ailgylchu, o ran adeiladu cartrefi carbon isel, o ran plannu coed ac ati".
Ychwanegodd: "Ni wedi gweld y gwaith arbennig maen nhw wedi neud o ran ymateb i Covid hefyd... yn y misoedd sydd i ddod bydd ein pwyslais ni gyd yn Llafur Cymru ar ymateb i crisis costau byw y Torïaid."
Etholiadau Lleol 2022
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022