Carchar am oes am lofruddiaeth 'milain' Jade Marsh
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a laddodd ei wraig, wythnos ar ôl iddi ei adael, wedi cael ei garcharu am o leiaf 25 mlynedd.
Cafodd Jade Marsh, 27, ei thrywanu a'i thagu gan Russell Marsh yn Shotton, Sir y Fflint ym mis Awst 2021.
Roedd pedwar plentyn y cwpl yn cysgu yn y tŷ drwy gydol yr ymosodiad.
Roedd Marsh wedi cyfaddef dynladdiad, ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan reithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Rheoli ei bywyd
Clywodd y llys bod Marsh, 29, yn genfigennus, yn rheoli bywyd ei wraig, a byddai'n ei sarhau o flaen eraill a'i ffonio hi'n gyson.
Honnodd ei fod wedi mynd i dŷ Ms Marsh oriau cyn ei marwolaeth, ond dywedodd ei bod hi wedi gafael mewn cyllell ac wedi brifo ei hun.
Roedd Ms Marsh, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward, wedi cael ei thrywanu a'i thorri nifer o weithiau ar ei hwyneb a'i chorff, cyn cael ei thagu.
Daethpwyd o hyd i'w chorff ar y gwely, wedi'i orchuddio gan ddillad a blanced, ac roedd drws y llofft wedi cael ei glymu gyda chortyn.
Gyrrodd Marsh ei blant i dŷ ei rieni yn Saughall, Sir Caer, ac aeth at yr heddlu yn ddiweddarach gan ddweud ei fod wedi gwneud "rhywbeth drwg" i'w wraig.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod Marsh yn llawn hunan-dosturi a chenfigen pan aeth i gartref Ms Marsh, a chyflawni ymosodiad "milain a didostur".
Roedd wedi bod yn feddiannol ac yn rheoli bywyd ei wraig, gan ddweud wrth ffrindiau os nad oedd o am ei chael, doedd neb arall am ei chael hi chwaith.
"Yn drasig, dyna oedd y gwirionedd fel y trodd hi allan."
Ni ddangosodd Russell Marsh unrhyw emosiwn pan glywodd y bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.
Darllenodd y barnwr ddatganiad gan frawd Ms Marsh, Kyle Robinson, ar ran ei theulu a'i ffrindiau.
Disgrifiwyd hi fel merch "ffeind, hardd, doniol a gofalgar".
"Roedd Jade wastad yn gweld yr ochr dda mewn pobl ond yn anffodus ei chalon ddaionus a'i gallu i faddau arweiniodd at ei marwolaeth," meddai.
"I'w meibion mae o [Russell Marsh] wedi rhoi'r baich o orfod cario'r drosedd hon gyda nhw am weddill eu bywydau."
Rhoddodd y Barnwr Rowlands deyrnged i deulu Ms Marsh am y ffordd yr oeddynt wedi delio â'r golled, a chafodd gymeradwyaeth wrth iddo adael y llys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021