Cyfnodau hir o garchar am lofruddio tad am ei fag Gucci
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael eu dedfrydu wedi i ddyn 26 oed gael ei lofruddio yng Nghasnewydd wrth i'r giang ddwyn bag drudfawr Gucci oddi arno.
Cafodd Ryan O'Connor ei drywanu bum gwaith wrth iddo gerdded trwy un o stadau'r ddinas fis Mehefin y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod y giang, oedd â chyllyll hela yn eu meddiant, wedi teithio i Gasnewydd o Gaerdydd mewn car oedd wedi ei ddwyn, gyda'r bwriad o ddwyn.
Mae dau o'r dynion wedi cael dedfrydau o garchar am oes am lofruddio Mr O'Connor, oedd yn dad i blentyn ifanc.
Bydd yn rhaid i Joseph Jeremy, 18 oed a heb gyfeiriad parhaol, a Lewis Aquilina, 20 oed ac o ardal Glan-yr-afon, dreulio o leiaf 24 a 22 o flynyddoedd, yn y drefn honno, yn y carchar cyn cael ceisio am barôl.
Cafodd y ddau hefyd eu dedfrydu i 12 mlynedd o garchar yr un am ladrata, i gydredeg â'r dedfrydau llofruddiaeth.
Cafodd Kyle Rasis, 18 oed ac o ardal Treganna, ddedfryd o 12 mlynedd o garchar wedi i'r llys ei gael yn euog o ddynladdiad. Cafodd ddedfryd o wyth mlynedd dan glo, i gydredeg, am ladrata.
Mae'r llys eto i ddedfrydu pedwerydd diffynnydd, Ethan Strickland, 19 oed o ardal Caerau, wedi i'r llys ei gael yntau'n euog o ladrata yn unig.
Cafodd Mr O'Connor ei drywanu yn y galon a'r ysgyfaint yn ystod yr ymosodiad ar Heol Balfe, yn Stad Alway ar 10 Mehefin y llynedd.
Dywedodd tystion eu bod wedi gweld y giang yn ei gicio cyn ffoi'n ôl i'r Ford Fiesta oedd wedi ei ddwyn.
Fe waedodd Mr O'Connor i farwolaeth ar y palmant.
Clywodd y llys fod y giang wedi ymosod arno ar hap, cyn cael eu harestio wedi i'r heddlu eu cwrso ar gyflymder nôl yng Nghaerdydd lai nag awr yn ddiweddarach a gorfodi'r car i stopio.
Yn y cerbyd fe ddaethon nhw o hyd i gyllell â gwaed Mr O'Connor arno.
Mewn datganiad gan deulu Mr O'Connor a gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedwyd bod ei golled wedi "rhwygo calon" y teulu, gan adael bwlch na fydd modd ei lenwi.
Ar ran y teulu, dywedodd Lauren Flood bod Mr O'Connor wedi marw ym mreichiau ei frawd, Danny, a bod yntau "wedi newid" fel person ers hynny.
"Dydw i ddim yn disgwyl y bydd yr un person fyth eto", meddai.
Dywedodd Ms Flood bod mab ifanc Mr O'Connor yn methu a deall i ble mae ei dad wedi mynd, a'i fod yn galw allan amdano.
Roedd y diffynyddion wedi amddifadu mab Mr O'Connor o'r cyfle i dyfu i fyny gyda'i dad, meddai.
"Rydyn ni'n ei golli'n ofnadwy."
Roedd y rheithgor wedi cael pumed aelod o'r giang yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yntau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021