Gwahardd ymgeisydd Llafur am sylwadau ar Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiadau lleol wedi cael ei wahardd gan ei blaid wedi iddo gwestiynu'r gefnogaeth i arlywydd Iddewig Wcráin, gan ei alw'n "Zionist".
Fe wnaeth Ziad Alsayed, sy'n ymgeisio ar gyfer ward Baruc yn Y Barri, y sylw am Volodymyr Zelensky ar Twitter fis Chwefror.
Dywed Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain fod y sylw yn drahaus "ar sawl lefel".
Dywed Llafur nad yw Mr Alsayed yn sefyll yn enw'r blaid bellach.
Mae'r BBC wedi methu yn eu hymdrechion i gysylltu â Mr Alsayed, sy'n ymgeisydd ym Mro Morgannwg.
Etholiadau Lleol 2022
Daw'r ffrae ddiweddaraf yn sgil sylwadau arall ar Twitter gan yr ymgeisydd.
Ar y pryd dywedodd AS Ceidwadol Bro Morgannwg Alun Cairns ei fod yn bryderus am eu natur, gan gynnwys un lle'r oedd yn galw Volodymyr Zelensky yn "ffasgydd".
Mewn neges oedd wedi ei sgwennu yn Arabeg ar 26 Chwefror dywedodd Mr Alsayed: "sut allwn ni ochri gyda gwlad sydd â llywydd Zionist", gan gyfeirio at lywydd Wcráin.
Dywedodd lywydd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain, Marie van der Zyl: "Mae ymgeisydd Llafur sy'n awgrymu na ddylid cefnogi Wcráin oherwydd bod ganddi lywydd Zionist yn drahaus ar sawl lefel.
"Rydym yn cymryd y bydd Llafur yn gweithredu'n gyflym i'w atal o'r blaid."
Mae Zionism yn cyfeirio at y mudiad i greu gwladwriaeth Iddewig yn y Dwyrain Canol, sy'n cyfateb â thiriogaeth hanesyddol Israel, a chefnogaeth i wladwriaeth fodern Israel.
Ond mae eraill yn dweud fod y term yn cael ei ddefnyddio fel cod i ymosod ar Iddewon yn gyffredinol.
'Hyder i gyfeillion Putin'
Mewn neges arall yn ymateb i neges gan faer Llundain Sadiq Khan yn cefnogi Wcráin, fe wnaeth Mr Alsayed ymateb: "Os ydych chi'n golygu pobl Wcráin mae hynny'n iawn, ond nid y llywydd ffasgaidd".
Dywedodd Mr Cairns: "I wneud datganiad o'r fath pan mae cenedl dan warchae gan ymosodwr didostur sydd â dim parch tuag at gyfraith ryngwladol.
"Mae pob un ohonom yn cydnabod troseddau rhyfel a bydd sylw o'r fath ond yn rhoi hyder i gyfeillion Putin.
"Daw'r sylwadau gan ymgeisydd swyddogol Llafur, maen nhw'n ofnadwy, ac yn swnio fel eu bod wedi dod o adain propaganda'r Kremlin."
Mae BBC Cymru yn deall fod Mr Alsayed wedi ei wahardd o'r blaid tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Fe fydd ei enw yn parhau ar y papur pleidleisio, wedi ei restru fel ymgeisydd Llafur oherwydd bod y broses enwebu wedi cau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur: "Mae'r Blaid Lafur yn cymryd pob cwyn o ddifrif.
"Maen nhw'n cael eu hymchwilio'n llawn gan ddilyn ein rheolau a'n prosesau, a bydd unrhyw weithred sydd ei angen yn cael ei chymryd."
Ar hyn o bryd mae'r ward yn cael ei chynrychioli gan ddau gynghorydd Plaid Cymru. Mae'r ward yn ethol tri chynghorydd yn yr etholiadau yma.
Dywedodd llefarydd lleol ar ran Plaid Cymru nad ydynt yn adnabod Mr Alsayed ond fod "y sylwadau yn peri loes".
"Dydw i ddim yn adnabod unrhyw un yn y wardiau sydd â daliadau fel hyn. Rydym yn gweld hyn fel mater mewnol i Lafur ei ddisgyblu."
Yr ymgeiswyr arall yn ward Baruc ar gyfer 5 Mai yw:
Aoife Blight - Gwyrddion
Pierre Codron - Llafur Cymru
Harrison Gould - Ceidwadwyr
Ethan Harvey - Ceidwadwyr
Nicholas Hodges - Plaid Cymru
Mark Hooper - Plaid Cymru
Lynden Mack - Gwyrddion
Victoria Roberts - Ceidwadwyr
Hugh Thomas - Gwyrddion
Emily Warren - Llafur Cymru
Steffan Wiliam - Plaid Cymru
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022