Pryder Phil Bennett am y rhanbarthau

  • Cyhoeddwyd
Phil BennettFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Phil Bennett 29 o gapiau i Gymru ac wyth i'r Llewod

Mae un o fawrion rygbi Cymru Phil Bennett yn pryderu y gallai rhanbarthau Cymru fynd i'r wal os na fyddan nhw'n cystadlu ar lefel Ewropeaidd y tymor nesaf.

Bydd clybiau Lloegr a Ffrainc yn gadael Cwpanau Heineken ac Amlin y tymor nesaf, ac maen nhw wedi cynnig sefydlu Cwpan Pencampwyr Rygbi yn eu lle.

Does dim cytundeb hyd yma a fydd timau'r Pro12 o Gymru, Iwerddon, Yr Alban a'r Eidal yn rhan o gystadleuaeth newydd os fydd yn digwydd.

Rhybuddiodd cyn faswr Llanelli, Cymru a'r Llewod Phil Bennett: "Heb rygbi Ewrop fe allai'r rhanbarthau fynd i'r wal.

"Mae'n bryd i Undeb Rygbi Cymru ddod at ei gilydd gyda'r rhanbarthau a dweud 'ni all hyn ddigwydd - rhaid i chi fod yn gryf'.

"Mae gan yr undeb arian yn dod i mewn ac maen nhw wedi cwtogi'r ddyled yn fawr, ond ar ddiwedd y dydd rhaid i ni gael rygbi rhanbarthol cryf yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, AFP

"Rwy'n gweld dadl clybiau Lloegr a Ffrainc bod mwyafrif timau'r Pro12 yn mynd yn syth i Ewrop. Ond credwch chi fi heb rygbi Ewropeaidd fyddwn ni ddim yn goroesi."

Mae Bennett, a enillodd 29 o gapiau i Gymru ac wyth i'r Llewod, hefyd yn poeni bod cryfder ariannol clybiau Lloegr a Ffrainc yn cael effaith ar gynlluniau chwaraewyr sy'n agos at ddwiedd eu cytundebau.

"Mae llawer o chwaraewyr yn dod i ddiwedd eu cytundebau ar ddiwedd y tymor - pobl fel Jonathan Davies - ac mae angen iddo gael ei dalu'n dda a bod mewn tîm sy'n cystadlu am dlysau.

"Mae'n dymor mawr i Undeb Rygbi Cymru felly ac mae'n rhaid iddyn nhw weithredu dros y rhanbarthau. Fel cenedl fach mewn undod mae nerth ond dydyn ni'n ddim ar wahan felly mae'n rhaid i ni fod yn unedig.

"Os yw'r gystadleuaeth newydd i fod yn llwyddiant rwy'n credu bod angen y gwledydd Celtaidd ynddi ac rwy'n credu y bydd cytundeb.

"Ond fe fydd hynny ar y funud olaf ac fe fydd clybiau Lloegr a Ffrainc yn dod allan o bethau'n dda iawn, ond rhaid i'r clybiau Celtaidd sylweddoli bod pethau ychydig yn unochrog fel ag y mae hi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol