Rhybudd i gerddwyr fynd i'r toiled cyn dringo'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwyr ar rai o lwybrau mynydd mwyaf poblogaidd Cymru wedi cael eu rhybuddio i fynd i'r toiled cyn dechrau tua'r copaon.
Daw hyn ar ôl i ddyn gael ei ddal gan grŵp o gerddwyr yn 'mynd i'r toiled' ar lethrau'r Wyddfa ddydd Sadwrn.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod toiledau ar waelod prif lwybrau'r ardal ac y dylid eu defnyddio cyn cychwyn ar daith gerdded.
Dywedodd Helen Pye, swyddog ymgysylltu'r awdurdod, fod yr adroddiadau am faw dynol ar rai llwybrau yn "ofidus a brawychus".
Ond gwrthododd Ms Pye honiadau bod toiledau ar gau gan ychwanegu bod cyfleusterau ar waelod yr holl brif lwybrau i fyny'r Wyddfa.
Mae ymwelwyr wedi heidio i'r ardal dros benwythnos y Pasg i fwynhau'r tywydd braf.
"Mae'r Wyddfa yn warchodfa natur genedlaethol ac felly mae wir yn amgylchedd eithaf arbennig a bregus," meddai Ms Pye wrth BBC Radio Wales Breakfast.
Ychwanegodd mai penawdau newyddion fel y rhain ydy'r "peth olaf sydd ei angen ar y sector twristiaeth ar hyn o bryd".
"Dwi'n meddwl mai'r peth mwyaf priodol ydy cael toiledau wrth droed y llwybrau," meddai.
"Yn anffodus mae 'na leiafrif bach sydd efallai ddim wedi paratoi cystal, ac wedi cael eu dal.
"Ac mae'r rhan fwyaf o'r ymwelwyr â'r Wyddfa yn wych, maen nhw wedi paratoi'n dda.
"Maen nhw'n ymwybodol eu bod nhw i ffwrdd ar heic mynydd ac maen nhw'n gwrando ar y negeseuon rydyn ni'n eu rhoi allan cyn i chi gerdded a defnyddio'r cyfleusterau hynny ar waelod yr holl brif lwybrau."
Dywedodd tywysydd yr Wyddfa, Gemma Davies, iddi ddal dyn yn 'mynd i'r toiled' ar reilffordd Yr Wyddfa fore Sadwrn.
Roedd hi hefyd wedi "ffieiddio'n llwyr" gan sbwriel a gafodd ei adael ar y mynydd, meddai.
"Roedd 'na dipyn o faw dynol mewn cwpanau papur, o dan gerrig, ac wrth i ni fynd lawr roedd o ar y llwybr," meddai Ms Davies, a arweiniodd daith i fyny mynydd uchaf Cymru i weld codiad yr haul fore Sadwrn.
"Roedd cymaint ar lwybr Llanberis roedd yn ffiaidd."
Honnodd fod toiledau ar y copa wedi'u cau ynghyd â'r caffi ac "nad oedd toiledau ar agor ar y gwaelod pan gyrhaeddon ni'r gwaelod ar ôl hike saith awr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2022