Cyfle i swyddogion amgylcheddol ifanc 'arloesi yn eu milltir sgwâr'

  • Cyhoeddwyd
Person ifanc yn ailgylchuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pum swyddog ifanc yn gweithio gyda busnesau lleol dros gyfnod yr haf

Fe fydd cyfle i bobl ifanc y gogledd helpu busnesau lleol i ddatblygu ffyrdd unigryw o fod yn "fwy eco-gyfeillgar" drwy gynllun newydd.

Bydd pump o bobl 18-30 oed yn cael eu cyflogi i graffu ar y busnesau a'u cynorthwyo gyda chynllun i leihau eu hôl-troed carbon - o ailddefnyddio gwastraff coffi i wneud logiau tân, i droi gwastraff bragdai yn fisgedi cŵn.

Fe fydd y swyddogion amgylcheddol hefyd yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr o fewn y maes amgylcheddol fel rhan o'r cynllun 12 wythnos dros yr haf.

Mae'r cynllun yn ffordd o "ddatblygu sgiliau pobl ifanc lleol" a "sicrhau dyfodol gwyrddach i'r ardal leol," dywed Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn, sy'n rhedeg y cynllun ar y cyd â phrosiectau Llwyddo'n Lleol 2050 ac Arloesi Gwynedd Wledig.

Creu cyfleoedd lleol

Fe fydd y swyddogion yn cael eu rhannu rhwng pum busnes lleol, gan gynnwys Galeri Caernarfon a Bragdy Lleu, a gweithio gyda nhw hyd at ddeuddydd yr wythnos.

Bydd gwaith y bobl ifanc yn "hollol ddibynnol ar beth mae'r person ifanc a'r busnes yn penderfynu gwneud," meddai arweinydd Llwyddo'n Lleol, Jade Owen, wrth BBC Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Jade Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn gyfle i bobl ifanc "fod yn arloesol yn eu milltir sgwâr", medd Jade Owen

"Yn achos Bragdy Lleu, maen nhw'n mynd i gydweithio 'efo'r swyddog er mwyn dod o hyd i ffordd o ddefnyddio gwastraff bragu er mwyn creu bisgedi cŵn.

"Bydd y busnes yn gweld lle 'san nhw'n gallu gwella, ac wedyn mae'r person ifanc yn dod i mewn ac yn dechrau gweithio ar y cynllun 'efo nhw, neu yn gallu ymchwilio a chreu cysylltiadau i'r busnes fel eu bod nhw ar ddiwedd y 12 wythnos 'ma yn gallu symud ymlaen a gwella eu hôl-troed carbon."

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Bragdy Lleu yn Nyffryn Nantlle, Robat Jones, bod y busnes wrthi'n symud i safle newydd a'u bod yn gosod mesurau i "wella perfformiad ynni".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robat Jones yn dweud bod gwella perfformiad ynni busnes Bragdy Lleu yn rhan bwysig o ddatblygiad y cwmni

"Dan ni wrthi'n gosod paneli solar, ma'r offer bragu yn ailgylchu dŵr... wedyn ma cydweithio 'efo Menter Môn yn gam naturiol i ffeindio defnydd i'n gwastraff ni mewn ffordd," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.

Ond, dywedodd bod y datblygiadau'n ddrud a bod angen cefnogaeth ar fusnesau.

"Yn y tymor byr, maen nhw'n gamau eitha' drud i'w cymryd. Hynny yw, gosod paneli a phrynu cerbydau.

"Fuon ni'n ffodus o lwyddo gyda chais i gronfa cymunedau arfordir am help hefo'r costau yna ond i fusnesau sydd eisiau gosod y mesurau - a mae'n bwysig bo ni i gyd yn g'neud - 'dan ni angan cymorth i 'neud hynny."

Bydd y swyddogion hefyd yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr a chyflogwyr yn y maes, megis Tech Tyfu, Cyfoeth Naturiol Cymru a Morlais.

Mae'r cynllun hefyd yn creu profiad gwaith i bobl ifanc yn eu hardal nhw o fewn maes sy'n tyfu, medd Ms Owen.

"Mae 'na lot o alw, ac mae'n dangos bod y fath yna o waith yn bodoli yng Ngwynedd a Môn i bobl ifanc.

"'Da ni'n brosiect sy'n trio herio'r dybiaeth ymysg pobl ifanc bod angen gadael eu hardal leol er mwyn bod yn llwyddiannus. 'Dan ni'n gweld lot yn symud i drefi fel Lerpwl, Manceinion, falle lawr i Gaerdydd.

"'Dan ni ishe dangos bod 'na alw i bobl ifanc aros, mae 'na swyddi a chyfleoedd yn bodoli yma iddyn nhw yn y meysydd maen nhw efo diddordeb ynddynt."

Y dyddiad cau i ymgeisio am y cynllun ydy 29 Ebrill.

Pynciau cysylltiedig