Plaid Cymru'n gwahardd cynghorydd am sefyll yn erbyn cydweithiwr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Trystan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan Lewis ar hyn o bryd yn gynghorydd Sir Conwy yn ward Pensarn yng Nghyffordd Llandudno

Mae Plaid Cymru wedi gwahardd cynghorydd am sefyll yn erbyn cydweithiwr o'r blaid fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau cyngor lleol.

Mae Trystan Lewis, sydd ar hyn o bryd yn gynghorydd Sir Conwy yn ward Pensarn yng Nghyffordd Llandudno, bellach yn sefyll yn Llansannan yn erbyn Susan Lloyd-Williams, sydd wedi cynrychioli'r ardal i'r blaid ers 2008.

Dywedodd y Cynghorydd Lewis, sy'n byw yn Llanfair Talhaiarn, ei fod wedi penderfynu sefyll yn erbyn y Cynghorydd Lloyd-Williams oherwydd ei bod wedi symud i Fodelwyddan, sydd yn Sir Ddinbych.

Dywed y Cynghorydd Lloyd-Williams ei bod yn "siomedig" bod cyn-gydweithiwr yn sefyll yn ei herbyn ond ei bod yn "falch o sefyll eto i geisio mandad y gymuned rydw i wedi ei hadnabod a'i charu ers 26 mlynedd".

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod y Cynghorydd Lloyd-Williams yn "ymgorfforiad o bopeth mae'r Blaid yn sefyll drosto".

'Panel disgyblu'

Cadarnhaodd ffynhonnell o Blaid Cymru fod y Cynghorydd Lewis "wedi ei wahardd, tra'n aros am banel disgyblu" ar ôl i gŵyn gael ei gwneud yn ei erbyn.

Dywedodd y ffynhonnell: "Mae o fewn rheolau Plaid Cymru, os ydych chi'n aelod o Blaid Cymru, allwch chi ddim sefyll yn erbyn ymgeisydd arall Plaid Cymru fel ymgeisydd annibynnol.

"Yr hyn y mae wedi'i wneud yw sefyll fel rhywun annibynnol yn erbyn Sue heb hysbysu ei grŵp ei hun.

"Dim ond pan oedd pobl yn y ward wedi anfon lluniau o'r daflen annibynnol yr oedd wedi bod yn ei hanfon o gwmpas y daethon ni i wybod am hyn.

"Ar y pryd, roedd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ei ward yng Nghyffordd Llandudno, ond eto roedd yn dosbarthu taflennu fel ymgeisydd annibynnol yn erbyn cydweithiwr."

Mae'r Cynghorydd Lewis yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn Aberconwy yn etholiadau Cynulliad 2016, a dim ond o drwch blewyn y collodd i'r Aelod o'r Senedd Torïaidd Janet Finch-Saunders.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Trystan Lewis yn arweinydd Côr Meibion Maelgwn am 15 mlynedd

Dywedodd y Cynghorydd Lewis: "Fe wnaethon ni fel teulu symud i Lanfair Talhaiarn. Daeth cwpl o bobl o ward Llansannan ataf yn gofyn a oedd gennyf ddiddordeb mewn sefyll yn Llansannan oherwydd bod y deiliad presennol wedi symud i Fodelwyddan.

"Dwi'n meddwl ei bod hi [Susan Lloyd-Williams] wedi bod yn byw yno ers tair blynedd, felly mae hi'n byw y tu allan i sir Conwy. Mae hi'n byw yn Sir Ddinbych.

"Gofynnais i Blaid Cymru a fyddai yna hysting er mwyn tegwch, fel y gallai aelodaeth y Blaid yn Llansannan benderfynu.

"Dyna, yn wir, oedd rheolau'r Blaid. Roedd 'na hysting i fod i gael ei gynnal."

Ond "ni ddigwyddodd hynny", a phwyllgor y sir ddewisodd y deiliad, meddai.

Mae Plaid Cymru yn gwrthod hynny, gan ddweud bod "hystings swyddogol" wedi eu cynnal ac mai enw Susan Lloyd-Williams "oedd yr unig un ddaeth i law cyn y dyddiad cau."

Etholiadau Lleol 2022

Dywedodd y Cynghorydd Lewis: "Fe wnes i'r penderfyniad i beidio â sefyll ym Mhensarn oherwydd fy mod yn byw 18 milltir i ffwrdd, a dwi'n meddwl y dylai cynghorydd fod yn ei ardal, yn cynrychioli'r bobl.

"Gallwn fod wedi sefyll eto yn amlwg ym Mhensarn oherwydd ei fod yn y rheolau, yn y sir.

"Ond roeddwn i'n meddwl nad oedd hi'n deg i bobl Pensarn os oedd eu cynghorydd lleol yn byw ochr arall y sir."

Pan ofynnwyd iddo pam nad oedd yn sefyll yn y ward lle'r oedd yn byw - Llanfair Talhaiarn - dywedodd y Cynghorydd Lewis: "Rwyf un cae i ffwrdd o'r ward [Llansannan]. Daeth pobl ataf yn anhapus nad oedd y cynghorydd presennol yn byw yn y sir.

"Fe wnaethon nhw ofyn i mi a fyddai gen i ddiddordeb mewn sefyll."

'Siomedig'

Dywedodd y Cynghorydd Lloyd-Williams: "Wrth gwrs mae'n siomedig ac yn dipyn o syndod bod cydweithiwr wedi penderfynu gweithredu fel hyn, ond rwy'n falch o sefyll eto i geisio mandad y gymuned yr wyf wedi'i hadnabod a'i charu ers 26 mlynedd.

"Rwyf wedi cynrychioli ward Llansannan, Llannefydd a Groes ers 2008, ac rwy'n falch o'm llwyddiannau ar lefel leol a sirol.

"Rwy'n mawr obeithio parhau â'm gwaith i ward Llansannan ar ôl 5 Mai."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Sue Lloyd-Williams wedi bod yn gynrychiolydd effeithiol ac effeithlon dros bobl Ward Llansannan ers ei hethol i Gyngor Conwy yn 2008.

"Cafodd ei dewis yn unfrydol gan aelodau lleol Plaid Cymru, mewn proses hysting swyddogol, i'w cynrychioli yn yr etholiad ym mis Mai.

"Ei henw hi oedd yr unig un ddaeth i law cyn y dyddiad cau. Mae Sue yn parhau i gael cefnogaeth lawn grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru ynghyd â'i haelodau Plaid Cymru lleol o fewn sir Conwy.

"Rydym yn siomedig fod cyn-aelod o'r Blaid a chynghorydd cyfredol wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn erbyn Sue. Byddwn yn gwneud pob ymdrech bosib i sicrhau fod Ward Llannefydd, Groes a Llansannan yn parhau fel sedd Plaid Cymru ar ôl y 5 o Fai."

Yr unig ymgeisydd arall yn Llansannan yw Loren Lloyd-Pepperell ar ran y Ceidwadwyr.